Mae ADSS Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru, Arolygiaeth Gofal Cymru, CLlLC, y Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol, BASW Cymru ac eraill i ddarparu gwybodaeth ac arweiniad sy'n benodol i Gomisiynwyr a Darparwyr Gofal Cymdeithasol yn ymwneud a Coronafeirws Newydd (Covid-19).

Nid yw'r canllaw hwn yn delio â materion rheoli heintiau. Ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am reoli haint.