LAWRLWYTHO PDF I BRINTIO

Mae Darparwyr Gofal Cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol wrth amddiffyn a gofalu am y dinasyddion sydd fwyaf mewn perygl yn ein cymunedau. Mae'r rhain yn amseroedd heriol ac mae arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gwerthfawrogi popeth rydych chi'n ei wneud i gadw pobl yn ddiogel.

Dylid darllen y ddogfen hon ar y cyd â'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a Llywodraeth Cymru.

Nod y briff hwn yw rhoi gwybod i ddarparwyr am y diweddariadau diweddaraf, darparu cyngor ac ymateb i ymholiadau cyffredinol.

 

Derbyn a gofalu am breswylwyr yn ystod digwyddiad COVID-19 o fewn lleoliad gofal preswyl yng Nghymru

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi canllawiau pwysig ar gyfer awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol a darparwyr  cartrefi gofal cofrestredig neu drefniadau byw â chymorth lle mae pobl yn rhannu cyfleusterau cymunedol.

Mae'r canllawiau yn cynnwys gwybodaeth am dderbyn preswylwyr, gofalu am breswylwyr yn dibynnu ar eu statws COVID-19, adrodd ar achosion o COVID-19, darparu gofal ar ôl marwolaeth, cyngor i staff, a chynorthwyo preswylwyr presennol y gallai fod angen gofal ysbyty arnynt.

Ar gael yn Saesneg yn unig

 

Link to guidance for residential settings

 

Cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch cyfarpar diogelu personol/gweithredu canllawiau atal a rheoli heintiau a nodyn cyngor atodol ar gyfer

lleoliadau gofal cymdeithasol: Enghreifftiau i lywio’r dull o weithredu’r canllawiau wedi’u diweddaru ar atal a rheoli heintiau – COVID-19

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi canllawiau wedi'u diweddaru ar atal a rheoli heintiau. Nod y canllawiau sydd wedi'u diweddaru yw egluro sut i ddefnyddio cyfarpar diogelu personol yn ôl y risg mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol ac maent yn darparu ar gyfer defnyddio cyfarpar diogelu personol yn “seiliedig ar leoedd” a defnydd sesiynol o rywfaint o gyfarpar diogelu personol y cynhaliwyd asesiad risg arno, fel y mae achosion/ardaloedd carfannau yn cynyddu. Mae'n cynnwys tabl o “ystyriaethau ychwanegol” (Tabl 4), sy'n darparu canllawiau ar gyfer defnyddio cyfarpar diogelu personol pan mae COVID-19 yn cael ei drosglwyddo yn y gymuned yn barhaus ac os ystyrir, yn dilyn asesiad risg gan unigolyn/sefydliad,  bod angen mwy o gyfarpar diogelu i dawelu meddyliau staff a chleientiaid/cleifion bod yr holl fesurau diogelu priodol yn cael eu defnyddio.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd wedi cyhoeddi nodyn cyfarwyddyd atodol gydag enghreifftiau er mwyn llywio’r dull o weithredu’r canllawiau wedi'u diweddaru ar atal a rheoli heintiau - COVID-19.

Ar gael yn Saesneg yn unig

 

Advice of PPE / Infection prevention and control

 

Supplementary Advice Note

Datganiadau a Newyddion Llywodraeth Cymru
 

  1. £40 miliwn ychwanegol i gefnogi gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi £40 miliwn ychwanegol i gefnogi gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion yn ystod pandemig y coronafeirws.

Bydd y cyllid hwn yn cael ei neilltuo ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion a'i gynnwys yng Nghronfa Caledi Covid-19 Llywodraeth Leol a sefydlwyd ychydig wythnosau'n ôl. Mae'n helpu i sicrhau y gall awdurdodau lleol fynd i'r afael â'r costau ychwanegol sy’n wynebu darparwyr gofal cymdeithasol i oedolion yn sgil Covid-19, er mwyn cynnal eu darpariaeth gofal a gallu ymateb i unrhyw alw ychwanegol am ofal. Bydd y dyraniad hwn yn cael ei fonitro'n ofalus i sicrhau ei fod yn parhau i allu gwneud hyn.   

Er bod y cyhoeddiad hwn yn ymwneud â gofal cymdeithasol i oedolion, mae'r sefyllfa o ran gofal plant yn cael ei monitro hefyd.

https://llyw.cymru/ps40m-
ychwanegol-i-gefnogi-gofal-
cymdeithasol-i-oedolion-yng
-nghymru

  1. Y Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: llythyr at staff gofal cymdeithasol

Mae Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi cyhoeddi llythyr sy'n diolch i staff gofal cymdeithasol am eu gwaith yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19).

https://llyw.cymru/gweinidog-
dirprwy-weinidog-iechyd-
gwasanaethau
-cymdeithasol-llythyr-i-staff-
gofal-cymdeithasol

  1. Llythyr gan y PSM a'r Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i leoliadau preswyl

Mae Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, ac Albert Heaney, y Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cyhoeddi llythyr ar y cyd i leoliadau preswyl sy'n nodi’r canllawiau a'r cymorth a ddarperir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru i'r lleoliadau hyn.

Ar gael yn Saesneg yn unig  

CMO Letter to Residential Settings

  1. Canllawiau wedi'u diweddaru ar gwarchod

Mae’r gwybodaeth ar gyfer amddiffyn a gwarchod pobl a ddiffinnir ar sail feddygol fel rhai eithriadol o agored i niwed yn sgil COVID-19 bellach wedi’I diweddaru (15/04/20)

https://llyw.cymru/amddiffyn

 

  1. Gwerthoedd ac egwyddorion moesegol ar gyfer y fframwaith darparu gofal iechyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd wrth wneud penderfyniadau yn ystod argyfwng y coronafeirws.

https://llyw.cymru/coronafeirws-
werthoedd-ac-egwyddorion-
moesegol-
ar-gyfer-darparu-gofal-iechyd

  1. Tracio symptomau COVID – https://covid.joinzoe.com/

Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, a GIG Cymru yn apelio ar y cyhoedd i lawrlwytho’r ap tracio symptomau COVID i helpu’r GIG i ymateb i COVID-19 yng Nghymru.

Mae pobl ledled Cymru yn cael eu hannog i gofnodi sut maent yn teimlo er mwyn cael darlun cliriach o sut mae'r feirws yn effeithio ar bobl ledled y genedl. Bydd data o'r ap tracio symptomau COVID-19 yn cael ei rannu'n ddyddiol gyda Llywodraeth Cymru a GIG Cymru. Bydd yn rhoi arwyddion cynnar o ble y bydd derbyniadau i'r ysbyty yn digwydd yn y dyfodol.

Bydd gwyddonwyr o King's College yn Llundain a banc data SAIL (Cyswllt Gwybodaeth Ddienw Ddiogel) ym Mhrifysgol Abertawe yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddadansoddi'r data er mwyn llywio gwaith modelu a deall a rhagweld sut mae'r clefyd yn datblygu yng Nghymru. 

https://covid.joinzoe.com/

  1. Ehangu gwasanaeth ymgynghori fideo yn gyflym ar gyfer gofal eilaidd a cymunedol

Ar ôl cyflwyno apwyntiadau digidol ar gyfer meddygfeydd ledled Cymru, mae £2.8m pellach wedi’i fuddsoddi i ymestyn y cynllun i feysydd gofal eilaidd a gofal cymunedol drwyddynt draw.

Mae’r cyllid ychwanegol yn cael ei fuddsoddi i gefnogi rhaglen bresennol Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Lles, sy’n darparu dyfeisiau, hyfforddiant a chymorth i gyrff cyhoeddus a sefydliadau’r trydydd sector sy’n gweithio gyda’r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru nad ydynt eisoes ar-lein. Bydd y cyllid ychwanegol yn galluogi’r rhaglen, a roddir ar waith gan Ganolfan Cydweithredol Cymru, i ddosbarthu tua 1,000 o ddyfeisiau digidol i gartrefi gofal a wardiau.

https://llyw.cymru/ehangu-gwasanaeth
-ymgynghori-fideo-yn-gyflym

  1. Ffeithlun ar gwarchod

Mae ffeithlun wedi mynd allan i bobl sy'n gwarchod am fod ganddynt fwy perygl uwch o salwch difrifol o coronafeirws, i esbonio'r arfer cyfredol a'r gefnogaeth sydd ar gael ar eu cyfer.

https://llyw.cymru/sites/default/
files/publications/2020-04/
cadwn-ddiogel-gwarchod.pdf

  1. Rheoli data a cheisiadau am ddata

 

Rydym yn ymwybodol yn y cyfnod heriol hwn bod y rhan fwyaf ohonoch chi’n cael ceisiadau i ddarparu data a gwybodaeth i awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, Arolygiaeth Gofal Cymru ac eraill, a hynny’n aml yn ddyddiol. Rydym yn deall bod darparu data i lawer o wahanol unigolion yn gallu bod yn hynod rwystredig. Felly, rydym yn chwilio am ateb arall a fydd yn caniatáu ichi ddarparu’r rhan fwyaf o’r data hyn unwaith er mwyn iddynt gael eu defnyddio sawl gwaith. Bydd hefyd yn caniatáu ichi ddarparu gwybodaeth sylfaenol sy’n hanfodol ar gyfer ein cyd-ymdrechion i ymateb i’r sefyllfa bresennol ac yn caniatáu inni gynllunio ar gyfer yr wythnosau a’r misoedd sydd i ddod.   

Byddwn yn gweithio gyda phob sefydliad arall i sicrhau mai dim ond gwybodaeth a fydd o ddefnydd inni a gesglir gennym a’n bod ond yn rhannu’r hyn y mae’n briodol ei rannu. Bydd rhagor o wybodaeth am y ffordd y byddwn yn gofyn ichi weithio gyda ni yn cael ei chyhoeddi cyn hir.

 

Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU Coronafeirws (COVID-19): gofalu am bobl â diffyg galluedd meddyliol

Staff Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU yng Nghymru a Lloegr sy'n gofalu am, neu'n trin, unigolyn â diffyg galluedd meddyliol perthnasol yn ystod argyfwng y coronafeirws.

Mae'r canllawiau yn sicrhau bod y sawl sy'n gwneud penderfyniadau yn gwybod pa gamau y mae angen iddynt eu cymryd yn ystod y cyfnod hwn. Mae'r canllawiau yn canolbwyntio ar senarios newydd ac achosion posibl o ‘amddifadu o ryddid’ a allai godi o ganlyniad i'r argyfwng.

Yn ystod yr argyfwng, mae egwyddorion Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a'r mesurau diogelu a ddarperir gan y trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid yn berthnasol o hyd.

Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn darparu diogelwch ar gyfer pobl nad oes ganddynt, neu mae’n bosibl nad oes ganddynt y galluedd meddyliol perthnasol i wneud penderfyniadau ynglŷn ag agweddau gwahanol ar eu bywydau.

Mae’r trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid yn rhan bwysig o'r ddeddf hon ac maent yn darparu mesurau diogelu pellach ar gyfer y rheini y mae angen eu hamddifadu o'u rhyddid er mwyn iddynt allu derbyn gofal neu driniaeth mewn cartref gofal neu ysbyty, ond nad oes ganddynt y galluedd meddyliol i gytuno i'r trefniadau hynny.

https://www.gov.uk/government/
publications/coronavirus-
covid-19-looking-after-
people-who-lack-mental-capacity

 

 

Gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru i dderbyn cerdyn i brofi eu bod yn weithwyr allweddol

 

Bydd cerdyn yn cael ei anfon at yr holl weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru a fydd yn eu helpu o bosibl i fanteisio ar y buddion sydd ar gael ar gyfer pob gweithiwr allweddol yn ystod y pandemig COVID-19. Mae'r cerdyn ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael ei anfon allan o ddydd Mercher, 15 Ebrill, i'r rheini sydd ar Gofrestr y Gweithwyr Gofal Cymdeithasol, a reolir gan Gofal Cymdeithasol Cymru. Yn ogystal, bydd y cerdyn ar gael i'r rheini nad ydynt wedi'u cofrestru ar hyn o bryd ond sy’n gweithio mewn gwasanaethau cofrestredig, trwy eu rheolwyr cofrestredig. Er mwyn helpu gweithwyr gofal cymdeithasol i gael budd posibl o'r cerdyn cyn gynted â phosibl, mae'n cael ei roi iddynt mewn dau fformat - ar ffurf ddigidol a chopi caled.

https://gofalcymdeithasol.cymru/
straeon-newyddion/gweithwyr-gofal-cymdeithasol-yng-
nghymru-i-
dderbyn-cerdyn-i-brofi-eu-bod-yn-weithwyr-allweddol

 

Gwybodaeth, canllawiau ac adnoddau ar gyfer COVID-19 gan Gofal Cymdeithasol Cymru

 

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi ychwanegu cyfres o dudalennau i'w wefan i gefnogi'r rheini yn y sector gofal cymdeithasol y gallai’r pandemig COVID-19 yng Nghymru fod yn effeithio arnynt. Mae'r tudalennau yn cynnwys gwybodaeth, cyfeiriadau ac adnoddau ynglŷn â chofrestru, cymhwyster i ymarfer, recriwtio staff, iechyd a llesiant, canllawiau ar gyfer gwirfoddoli o fewn lleoliadau gofal cymdeithasol, galluedd meddyliol a'r fframwaith moesegol newydd.

https://gofalcymdeithasol.
cymru/gwella-gwasanaethau/gwybodaeth-ac-
adnoddau-ich-tywys-trwy-covid-19

Cofrestru gweithwyr cymdeithasol dros dro

 

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi gwneud trefniadau ar gyfer cofrestru gweithwyr cymdeithasol dros dro yn ystod y pandemig COVID-19. Gall gweithwyr cymdeithasol yng Nghymru sydd wedi ymadael â'r Gofrestr Gweithwyr Gofal Cymdeithasol o fewn y tair blynedd diwethaf wneud cais bellach i gael eu cofrestru dros dro os ydynt yn dymuno dychwelyd i weithio fel gweithiwr cymdeithasol yn ystod yr argyfwng presennol.

https://gofalcymdeithasol.cymru/
cofrestru/covid-19-cofrestriad-
dros-
dro-gweithwyr-cymdeithasol

Iechyd Cyhoeddus Cymru

  1. Adnoddau hawdd eu deall
  2. Dangosfwrdd data
  3. Datganiad dyddiol

 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynhyrchu amrediad o adnoddau hawdd eu deall yn Gymraeg ac yn Saesneg sy'n cynnwys gwybodaeth hanfodol ynglŷn â’r coronafeirws.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i gyhoeddi dangosfwrdd data rhyngweithiol dyddiol ynglŷn â nifer yr achosion o’r coronafeirws ledled Cymru, wedi’u dadansoddi yn ôl byrddau iechyd ac ardaloedd awdurdodau lleol.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn parhau i gyhoeddi datganiad bob dydd am 2pm sy'n rhoi’r cyngor diweddaraf i ddinasyddion, ystadegau dyddiol ynglŷn â nifer yr achosion a gadarnhawyd o COVID-19, a nifer y marwolaethau cysylltiedig.

https://phw.nhs.wales/topics/latest-
information-on-novel-coronavirus-covid-19/coronavirus-resources/easy-read

 

Dolen gyswllt i Ddangosfwrdd
Data Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Dolen gyswllt i Ddatganiadau
Dyddiol Iechyd Cyhoeddus Cymru

Y gwasanaeth Ymdopi’n Well

 

Mae Care and Repair a'i bartneriaid yn darparu'r gwasanaeth Ymdopi'n Well, gwasanaeth sydd ar gael i unrhyw un dros 50 mlwydd sydd â dementia a chyflyrau pellach, yn arbennig nam ar y synhwyrau. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys cyngor a chymorth ynglŷn ag amrediad o bethau i'w helpu i ymdopi yn y cartref, gan gynnwys addasiadau, atgyweiriadau brys, cyngor a chymorth ar gyfer atal cwympiadau, diogelwch yn y cartref a chartrefi cynnes.

Ffoniwch 0300 111 3333 neu
ewch i https://www.careand
repair.org.uk/cy/

 

Pecyn Cymorth Coronafeirws: Atal, rheoli a thrin COVID-19

Mae Pendine Park Care Organisation wedi rhyddhau pecyn cymorth ar gyfer nyrsys, ymarferwyr clinigol a gofal, a chymhennwyr a gweithwyr cynnal a chadw sy'n nodi gweithdrefnau a phrosesau i atal a thrinCOVID-19. Gall y pecyn cymorth hwn newid yn amodol ar gyngor diweddaraf y llywodraeth.

Ar gael yn Saesneg yn unig  

Coronavirus toolkit

ACAS Coronafeirws (COVID-19): cyngor ar gyfer cyflogwyr a chyflogeion

Mae ACAS, y gwasanaeth cynghori rhad ac am ddim ar gyfer cyflogwyr a chyflogeion, wedi cyhoeddi cyngor ar gyfer cyflogwyr a chyflogeion ynglŷn â materion sy'n berthnasol i gyflogaeth a'r gweithle a’r coronafeirws.

Mae gwybodaeth ymarferol ACAS am y coronafeirws yn cael ei hadolygu'n ddyddiol er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf a chyngor synhwyrol. Mae'n cynnwys gwybodaeth fanwl am gadw pellter cymdeithasol a gweithwyr sy'n agored i niwed, diweddariadau ynglŷn â gweithio gartref, cau ysgolion, diswyddiadau a gweithio amser byr, yn ogystal â chyngor ar gyfer cyflogwyr sy'n gorfod cau gweithleoedd dros dro. 

Yn ogystal â'r diweddariadau dyddiol, mae gan ACAS hefyd gymorth byw ychwanegol sydd wedi'i gynllunio i helpu cyflogwyr a chyflogeion yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae hyn yn cynnwys:

  1. Sesiwn Holi ac Ateb Byw ar Twitter - bob dydd Gwener. 10.30am. Gallwch wylio sesiwn Holi ac Ateb yr wythnos diwethaf yma.

    Os oes gennych gwestiynau neu bryderon ynglŷn ag amser i ffwrdd o'r gwaith, tâl, gweithio o bell a pha gamau y gallwch eu cymryd i leihau lledaeniad y feirws, ymunwch ag arbenigwyr ACAS ar gyfer sgwrs fyw ar Twitter ddydd Gwener yma.

    Anfonwch eich cwestiynau o flaen llaw at @acasorguk #AskAcas.
     
  2. Gweminar coronafeirws ar gyfer cyflogwyr

    Nifer o ddyddiadau ar gael. Cofrestrwch i gael mynychu. Bydd y weminar rhad ac am ddim hon yn darparu cyngor ymarferol ar gyfer cyflogwyr i'w helpu i reoli effaith coronafeirws yn y gweithle. Gallwch hefyd gofrestru i weld y recordiadau gweminar diweddaraf ar wefan ACAS: www.acas.org.uk/webinars.

Yn olaf, mae 12 things you need to know about working during the coronavirus pandemic yn erthygl â chynnwys diddorol y mae ACAS Wales wedi'i gosod ar Wales Online sy'n cynnig cyngor tebyg ar gyfer cyflogwyr a chyflogeion fel ei gilydd.

https://www.acas.org.uk/coronavirus

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cofrestru i fynychu gweminarau

 

 

 

https://www.walesonline.co.uk
/special-features/12-things-you-
need-know-17992050

AGC Coronafeirws (COVID-19): Cwestiynau Cyffredin

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn diweddaru ei thudalen Cwestiynau Cyffredin ar gyfer darparwyr gofal a staff ledled Cymru yn barhaus.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r coronafeirws (COVID-19) nad ydynt wedi'u cynnwys ar hyn o bryd ar y dudalen Cwestiynau Cyffredin, defnyddiwch y ffurflen ar y dudalen ‘Cysylltwch â ni’ er mwyn cysylltu ag AGC.

https://arolygiaethgofal.cymru/
coronafeirws-covid-19-cwestiynau
-cyffredin

 

https://arolygiaethgofal.cymru/
cysylltwch-a-ni/cysylltwch-a-ni

  • Awdur: ADSS Cymru & Partners
  • Dyddiad: 15/04/2020