Rhan allweddol o’r sgiliau a fynnir gan ein gweithlu yw’r galw am gyflenwi gofynion strategaeth Llywodraeth Cymru Mwy na geiriau – i sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn cael eu cynnig ac yn derbyn gofal a chymorth yn eu hiaith gyntaf.
Ar hyn o bryd, mae ADSS Cymru yn chwarae rhan arweiniol mewn perthynas â’r agenda bwysig hon ac mae ein cyfarwyddwr arweiniol hefyd yn aelod o Fwrdd Partneriaeth Cenedlaethol y Gymraeg, a gadeirir gan Lywodraeth Cymru.
Fel sefydliad cenedlaethol, rydym yn ymroddedig i roi mwy o ddewis a rheolaeth i ddinasyddion a sicrhau bod dinasyddion yn derbyn gwasanaethau yn yr iaith y mae ei hangen arnynt. Bydd hyn yn golygu sicrhau bod y sgiliau ieithyddol cywir ar gael yn y gweithlu i ddarparu gwasanaethau trwy’r iaith a ddewisir, ac bod yr arweinyddiaeth a’r amgylchedd briodol ar waith i sicrhau y bodlonir anghenion ieithyddol y gweithlu.