Mae aelodaeth bresennol ADSS Cymru yn cynnwys cyfarwyddwyr statudol gwasanaethau cymdeithasol, penaethiaid gwasanaethau plant, penaethiaid gwasanaethau oedolion, penaethiaid gwasanaethau busnes a rheolwyr enwebedig o'r 22 awdurdod lleol a phartneriaethau rhanbarthol ledled Cymru.

Ynghyd â'n haelodau Anrhydeddus (nifer ohonynt yw ein cydweithwyr sydd bellach wedi ymddeol o'u swyddi fel cyfarwyddwyr neu benaethiaid gwasanaeth) a'n haelodau Cyswllt, mae gennym dros 320 o aelodau sy'n gallu cymryd rhan mewn cefnogi ein rôl genedlaethol.

Mae'n rhaid i ADSS Cymru barhau i fod y sianel lle gellir clywed y llais hwnnw ac i dyfu ei haelodaeth er mwyn cynyddu ein heffaith. Byddwn yn parhau i adolygu ein haelodaeth er mwyn sicrhau ein bod yn cynnwys nifer cynyddol o weithwyr proffesiynol yn ein gwaith. Dros y blynyddoedd nesaf byddwn yn:

• Ceisio cynyddu ein haelodaeth sylfaenol i adlewyrchu rolau newidiol y rheiny sy’n arwain ein gwasanaethau gofal cymdeithasol

• Sicrhau ein bod yn cynnwys nifer gynyddol o weithwyr proffesiynol yn ein gwaith

• Adolygu cwmpas ein haelodaeth gyswllt i ehangu’r amrediad o unigolion a chynnwys y posibilrwydd ar gyfer aelodaeth sefydliadol.