Mae ADSS Cymru wedi derbyn cyllid Grant Cyflwyno Trawsnewid gan Lywodraeth Cymru, a gyhoeddir yn flynyddol, ers 2016 ar gyfer gwaith i wella canlyniadau trwy weithredu deddfwriaeth newydd - (yn bennaf Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014).

Cyfarwyddwr Arweiniol: Giovanni Isingrini (Rhondda Cynon Taf).

Ein ffrydiau gwaith ar gyfer 2017-18 oedd:

  • Cyflwyno Gwasanaethau Mwy Effeithiol
  • Ymyrryd ac Atal yn Gynnar 

Ein ffrydiau gwaith ar gyfer 2018-19 yw:

  • Golwg llywodraeth leol ar flaenoriaethau gwario ar gyfer defnyddio arian a godir gan lefi gofal cymdeithasol (neu fecanwaith ariannu arloesol arall) a chynnwys unrhyw "adduned gofal cymdeithasol" cysylltiedig.
  • Helpu i ddylunio modelau gofal newydd gan ddefnyddio arferion da cyfredol ac yn seiliedig ar egwyddorion dylunio Cymru Iachach.
  • Cyngor technegol i gefnogi'r estyniad o gyllidebau cyfun.