Mae'r Grŵp Arweinyddiaeth yn atebol am waith ADSS Cymru, ac mae'n cynnwys yr holl Gyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol a Chadeiryddion Penaethiaid Grwpiau Gwasanaeth. Mae Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai CLlLC hefyd yn aelodau.

Mae'r Bwrdd Cyfarwyddwyr yn gyfrifol am yr holl faterion sy'n gysylltiedig â'r cwmni.

Drwy ein penaethiaid gwasanaethau a'n grwpiau arweinyddiaeth proffesiynol, a ffrydiau gwaith a gefnogir gan Grant Trawsnewid Llywodraeth Cymru, mae ADSS Cymru wedi datblygu rhaglen waith gynhwysfawr, gan greu cyfleoedd i weithio gydag eraill ar yr agenda hynod heriol o newid mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae rhagor o wybodaeth am ein holl grwpiau ar gael yma: