Datblygu a chefnogi'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru
Mae Rhaglen Gweithlu ADSS Cymru yn helpu i lunio, dylanwadu ar ac ymateb i flaenoriaethau cenedlaethol y gweithlu ar draws gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Gan weithio gydag awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru a phartneriaid cenedlaethol, mae'r rhaglen yn cefnogi datblygu'r gweithlu, arweinyddiaeth, cynllunio'r gweithlu a gwelliant strategol ar draws y sector. Mae'n darparu llwybr i arweinwyr gwasanaethau cymdeithasol ddylanwadu ar bolisi cenedlaethol, ymateb i heriau newydd yn y gweithlu a rhannu dysgu ledled Cymru.
Mae ein Rhaglen Gweithlu yn dod ag ystod o flaenoriaethau strategol, prosiectau cenedlaethol a gweithgarwch partneriaeth ynghyd sy'n cefnogi gweithlu gofal cymdeithasol cynaliadwy, medrus a chynhwysol ar gyfer y dyfodol.
Ein blaenoriaethau presennol
Rhaglen Weithredu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (ArWAP)
Mae ADSS Cymru yn arwain rhaglen genedlaethol i gefnogi gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru i weithredu argymhellion Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
Gan weithio ar y cyd ag awdurdodau lleol, Llysgenhadon Diwylliannol a phartneriaid, mae'r rhaglen yn cefnogi sefydliadau i greu gweithleoedd lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu, ac yn gallu ffynnu. Mae gwaith diweddar wedi cynnwys datblygu fframwaith hunanasesu cenedlaethol, gan ddarparu'r llinell sylfaen genedlaethol gyntaf o arferion gweithlu gwrth-hiliol ar draws gwasanaethau cymdeithasol pob un o 22 awdurdod lleol Cymru.
Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar:
- Arweinyddiaeth ac atebolrwydd
- Dysgu a datblygu
- Diwylliant sefydliadol
- Llywodraethu ac adrodd
- Arferion cynhwysol yn y gweithle
Dysgwch fwy am ein gwaith ar Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
Academi Genedlaethol Gofal Cymdeithasol
Mae ADSS Cymru yn gweithio gyda'r Swyddfa Genedlaethol ar gyfer Gofal a Chymorth a Gofal Cymdeithasol Cymru i gefnogi datblygiad yr Academi Genedlaethol Gofal Cymdeithasol.
Yr uchelgais yw creu model a gydnabyddir yn genedlaethol ac a ddarperir yn lleol, sy'n cefnogi pobl i ymuno â gyrfaoedd gofal cymdeithasol, a datblygu a symud ymlaen ynddynt, ledled Cymru. Bydd yr Academi yn helpu i gryfhau llwybrau gyrfa, gwella cyfleoedd i ddatblygu'r gweithlu a chefnogi dull mwy cydgysylltiedig o gynllunio a datblygu'r gweithlu ar draws y sector.
Cefnogi blaenoriaethau cenedlaethol y gweithlu
Ochr yn ochr â rhaglenni mawr, mae ADSS Cymru yn darparu arweinyddiaeth a chynrychiolaeth ar amrywiaeth o faterion gweithlu sy'n effeithio ar ofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae hyn yn cynnwys cyfrannu at drafodaethau cenedlaethol, cefnogi awdurdodau lleol, rhannu dysgu a sicrhau bod llais gwasanaethau cymdeithasol yn cael ei gynrychioli wrth ddatblygu polisïau a rhaglenni'r gweithlu. Mae'r meysydd ffocws presennol yn cynnwys cynllunio'r gweithlu, recriwtio a chadw staff, datblygu arweinyddiaeth, dysgu a datblygu, cyflog a dilyniant, trawsnewid digidol a diwygio'r gweithlu yn y dyfodol.
Gweithio mewn partneriaeth
Mae'r Rhaglen Gweithlu yn gweithio'n agos gyda:
- Llywodraeth Cymru
- Gofal Cymdeithasol Cymru
- Awdurdodau lleol ledled Cymru
- Y Swyddfa Genedlaethol ar gyfer Gofal a Chymorth
- Arweinwyr y gweithlu, AD a datblygu sefydliadol
- Rhwydweithiau gweithlu rhanbarthol a chenedlaethol
Drwy ddod â phartneriaid at ei gilydd, rydym yn helpu i sicrhau bod gweithgarwch y gweithlu yn gydlynol, yn ymarferol ac wedi'i lywio gan realiti darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol ledled Cymru.
Taith y Gweithlu
Sefydlwyd Grŵp Arweinyddiaeth Gweithlu ADSS Cymru ym mis Chwefror 2021 i gefnogi'r gwaith o weithredu'r Strategaeth Gweithlu Genedlaethol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a chodi proffil materion y gweithlu ar draws gofal cymdeithasol yng Nghymru. Chwaraeodd y grŵp ran bwysig wrth gryfhau arweinyddiaeth y gweithlu, dylanwadu ar flaenoriaethau cenedlaethol ac ymgorffori ystyriaethau'r gweithlu ym musnes craidd ADSS Cymru.
Yn dilyn adolygiad yng ngwanwyn 2026, cytunodd ADSS Cymru fod y Grŵp Arweinyddiaeth Gweithlu wedi cyflawni ei ddiben gwreiddiol yn llwyddiannus. Mae blaenoriaethau'r gweithlu bellach wedi'u hymgorffori yn nhrefniadau arweinyddiaeth a llywodraethu ehangach ADSS Cymru, gan sicrhau bod materion y gweithlu yn parhau'n ganolog i'r broses o wneud penderfyniadau strategol ar draws y sefydliad.
Heddiw, mae'r Rhaglen Gweithlu yn parhau â'r etifeddiaeth hon drwy raglen ehangach o weithgarwch strategol, prosiectau cenedlaethol a gwaith partneriaeth sydd wedi'i gynllunio i gefnogi a chryfhau'r gweithlu gofal cymdeithasol ledled Cymru.
Newyddion a diweddariadau'r gweithlu
Cadwch yn gyfredol â'r newyddion diweddaraf am y gweithlu, diweddariadau'r rhaglen a datblygiadau prosiectau o bob cwr o Gymru.
Am newyddion y Gweithlu, cliciwch yma - https://www.adss.cymru/en/category/workforce-items
