Astudiaeth Dichonolrwydd Model Masnachfraint/Cydweithfa Gofal Cartref yng Nghymru 

 

Helpwch ni i greu gweledigaeth dros ddyfodol gofal cartref yng Nghymru 

 

Os hoffech yr wybodaeth hon mewn fformat arall megis hawdd ei ddarllen, clywedol neu IAP, e-bostiwch: harriet.coleman@adss.cymru   

 

Ystyr gofal yn y cartref yw gofal a ddarperir i unigolion yn eu cartrefi eu hunain, gan eu cefnogi i fyw bywydau annibynnol, iach a llawn. Caiff gofal ei deilwra i anghenion unigolion a gall amrywio o helpu gyda thasgau beunyddiol fel coginio a glanhau, i gymorth meddygol personol. 

Ydych chi’n poeni am sefyllfa gyfredol gofal cartref a sut mae’n effeithio ar bobl ledled Cymru? 

A oes gennych brofiad o ofal cartref fel defnyddiwr gwasanaeth, gweithiwr gofal neu ddarparwr yng Nghymru? Mae gennym ddiddordeb mewn clywed gennych, os yw eich profiad o’r trydydd sector, y sector preifat, byrddau iechyd neu awdurdod lleol. 

Fe’ch gwahoddir i rannu eich barn a’ch profiadau a chyfrannu at ddatblygiad syniadau newydd ar sut i gefnogi gwasanaethau gofal cartref. Mae hyn yn cynnwys meddwl am ddatrysiadau i faterion allweddol, megis sut i ddatblygu a chynnal darparwyr, cefnogi gweithwyr gofal i ddod i’r proffesiwn a pharhau ynddo, a syniadau newydd a allai fod o fud di unrhyw un sy’n profi neu sy’n rhan o ofal cartref yng Nghymru. 

Mae angen eich barn arnom i’n helpu i lunio’r olwg ar fodel gofal cartref newydd o bosib.  

Dyma sut i gymryd rhan 

Cofrestrwch i rannu eich barn yn y Sioe Deithiol Gofal Cartref: wyneb yn wyneb neu ddigwyddiadau rhannu ar-lein 
Os hoffech gofrestru eich diddordeb mewn mynychu digwyddiad Sioe Deithiol Gofal Cartref, nodwch eich manylion ar y ffurflen yma.  

Yna byddwn yn cysylltu â chi gyda rhagor o fanylion am y digwyddiadau byw y byddwn yn eu cynnal mewn lleoliadau amrywiol ledled Cymru, lle gallwch alw heibio i rannu eich barn. Bydd cyfleoedd hefyd i fynychu digwyddiadau galwadau fideo ar-lein os na allwch ddod wyneb yn wyneb. Byddwn yn cynnal digwyddiadau eraill ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth a’u gofalwyr er mwyn iddynt rannu eu barn o fis Ebrill.  

Os oes gennych anghenion mynediad ynghylch dod i ddigwyddiad wyneb yn wyneb, rhowch wybod. Gallwch e-bostio sian.barclay@adss.cymru neu ffonio uned fusnes ADSS Cymru, Practice Solutions ar: 01443 742384. 

Cofrestru i dderbyn ein cylchlythyr 
Os hoffech gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect hwn, cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr am ddiweddariadau amserol. Gallwch dad-danysgrifio unrhyw bryd ac ni chaiff eich manylion eu rhannu ag unrhyw trydydd barti. Cliciwch ar y ddolen i gofrestru i dderbyn y cylchlythyr <https://adss.activehosted.com/f/1>. 

Beth gallai’r olwg fod ar fodel newydd? 
Drwy rannu eich barn a’ch profiadau, byddwch yn helpu i ddychmygu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol: model newydd posib ar gyfer cyflwyno gofal cartref a fydd i fud di ddefnyddwyr gwasanaeth drwy gefnogi pawb sy’n rhan o gyflwyno gofal cartref yn well. 

Bydd y model newydd hwn y byddwn yn dychmygu gyda’n gilydd yn ffurfio sail astudiaeth o’r enw 'Astudiaeth Ddichonolrwydd Model Masnachfraint/Cydweithfa Gofal Cartref'. Mae’r astudiaeth yn cael ei chynnal gan ADSS Cymru ac mae wedi’i chomisiynu gan Lywodraeth Cymru. Bydd yn archwilio sut gallwn ddysgu gan sefydliadau a busnesau eraill sy’n gweithio ar egwyddorion masnachfraint gymdeithasol, cyd-gynhyrchu a gwasanaethau wedi’u personoli i greu model newydd o ofal cartref yng Nghymru. 

Nodau’r astudiaeth yw archwilio syniadau, a chyflwyno achos ar gyfer newid o bosib drwy gynnig model newydd, ond mae hyn yn dibynnu are ich barn a’ch profiadau, ac a ydych yn meddwl y gallai model newydd weithio. Caiff yr astudiaeth hon ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Awst 2023.