LAWRLWYTHO PDF I BRINTIO

Mae Darparwyr Gofal Cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol wrth amddiffyn a gofalu am y dinasyddion sydd fwyaf mewn perygl yn ein cymunedau. Mae'r rhain yn amseroedd heriol ac mae arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gwerthfawrogi popeth rydych chi'n ei wneud i gadw pobl yn ddiogel.

Dylid darllen y ddogfen hon ar y cyd â'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a Llywodraeth Cymru.

Nod y briff hwn yw rhoi gwybod i ddarparwyr am y diweddariadau diweddaraf, darparu cyngor ac ymateb i ymholiadau cyffredinol.

Pwnc

Manylion

Dolen

ADSS Cymru

Gweminar ar y Canllawiau ar Gymorth ar gyfer Darparwyr a Gomisiynir

Nodyn i'ch atgoffa o'r weminar a gynhelir ddydd Iau 16 Gorffennaf, 11 am-12pm

 

Wedi’i chynnal gan ADSS Cymru ar y cyd â'r Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru.

 

Mae agenda ar gael i'w gweld ar-lein.

Cofrestrwch er mwyn mynychu'r weminar:

 

Link to webinar

 

Cyswllt i’r rhaglen (Saesneg yn unig)

Llywodraeth Cymru

Canllawiau Hawdd eu Deall – Cyngor ar warchod

Canllaw hawdd ei ddarllen i'ch helpu i fod yn barod i aros gartref ac i arbed coronafeirws rhag lledaenu.

Cyswllt i'r canllawiau

Sut i gael prawf y coronafeirws: poster hawdd ei ddarllen

Argraffwch a rhannwch neu dangoswch y poster hawdd ei ddarllen i godi ymwybyddiaeth o sut i gael prawf y coronafeirws.

Cyswllt i'r poster

 

Gwybodaeth amlieithog profi / symptomau Covid-19

Gwybodaeth amlieithog am symptomau’r coronafeirws, profi am y coronafeirws ag olrhain cysylltiadau.

Cyswllt i'r wybodaeth

Ap Astudio Symptomau COVID-19

Gwybodaeth am brosesu a diogelu data personol sydd wedi’u casglu drwy’r ap olrhain a thracio.

Link to information

 

Adnodd asesu risg COVID-19 ar gyfer y gweithlu

Mae'r adnodd yma'n eich helpu chi i ystyried eich ffactorau risg personol ar gyfer COVID-19 ac yn argymell sut gallwch aros yn ddiogel. Mae wedi ei ddylunio ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol ond gall gael ei ddefnyddio mewn unrhyw weithle.

Cyswllt i'r adnodd

 

 

Adolygiad o fesurau'r cyfyngiadau symud a chyfyngiadau diogelu iechyd

Y Prif Weinidog yn gwneud datganiad ar yr adolygiad o'r cyfyngiadau symud (10 Gorffennaf 2020)

Cyswllt i'r datganiad

 

Rheoliadau

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod cyfyngiadau ar unigolion, busnesau ac eraill i amddiffyn iechyd y cyhoedd. Maent yn disodli Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafirws) (Cymru) 2020.

Cyswllt i'r datganiad ar y rheoliadau

 

Cyswllt i'r Rheoliadau

Leisiau Cartrefi Gofal

Adroddiad diweddar y Comisiynydd Pobl Hŷn ar Lleisiau Cartrefi Gofal

Cyswllt i'r datganiad

Diogelu plant a phobl ifanc gyda’n gilydd wrth ailgodi ar ôl COVID-19 - Canllawiau anstatudol i ymarferwyr

Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio'r canllawiau anstatudol hyn i atgoffa ymarferwyr sy'n gweithio ar draws asiantaethau o'u cyfrifoldebau i ddiogelu plant, ac i'w cefnogi i ymateb i bryderon ynghylch plant sy'n wynebu risg.

Cyswllt i'r canllawiau

Gorchuddion Wyneb

Bydd yn orfodol i bawb sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru wisgo gorchudd wyneb o ddydd Llun 27 Gorffennaf, mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi cyhoeddi.

https://llyw.cymru/rhaid-i-bawb-syn-teithio-ar-drafnidiaeth-gyhoeddus-yng-nghymru-wisgo-gorchudd-wyneb

Cymunedau Digidol Cymru

Carwsél Hyfforddiant Digidol Am Ddim i Gartrefi Gofal – Dydd Mercher 22 Gorffennaf, 2pm

 

Rydym wedi datblygu sesiwn hyfforddiant sy’n dwy awr o hyd, yn benodol ar gyfer cartrefi gofal. Mae’r sesiwn hon yn agored i holl staff cartrefi gofal a bydd yn arbennig o fuddiol i Gydgysylltwyr Gweithgareddau. Bydd mynychu’r sesiwn yn rhoi llawer o syniadau, cyngor ac awgrymiadau ymarferol newydd i chi fel y gallwch chi ddangos i’ch preswylwyr y nifer o ffyrdd cyffrous y gellir defnyddio technoleg ddigidol. Byddwn yn ymdrin â phum pwnc gwahanol sy’n cynnwys: Atgofion, Gemau a Chwisiau, Podlediadau, Seinyddion Clyfar, Cerddoriaeth a Chadw’n Egnïol / Bwyd Iach. Byddwch yn gallu rhannu eich profiadau a’ch syniadau â chartrefi eraill hefyd.

 

I archebu, ewch i:

https://bit.ly/CareHomesTrainingCarousel

 

Arolygiaeth Gofal Cymru

Hwyluso ymweliadau awyr agored i wwasanaethau gofal

 

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn ceisio barn pobl ar sut mae ymweliadau awyr agored yn cael eu hwyluso mewn gwasanaethau gofal yng Nghymru yn dilyn arweiniad diweddar Llywodraeth Cymru. Maent yn gofyn i bobl gysylltu trwy wefan CIW i roi eu barn.

https://arolygiaethgofal.cymru/cysylltwch-a-ni/cysylltwch-a-ni

 

Gofal Cymdeithasol Cymru

Porth swyddi Gofalwn.Cymru

 

Cyflogwyr gofal cymdeithasol: rydym am helpu i fynd i'r afael â phrinderau staff y gallech fod yn eu hwynebu ar hyn o bryd. I'ch helpu i ddod o hyd i'r bobl gywir i lenwi'ch swyddi gwag a chefnogi'ch busnes, rydym wedi creu porth swyddi a fydd yn rhestru'r swyddi gofal cymdeithasol presennol yng Nghymru.

Postiwch eich swyddi gwag ar Twitter gan gynnwys y manylion canlynol:

  • teitl y swydd
  • awdurdod lleol (os yw'r swydd yn cwmpasu mwy nag un awdurdod, dylech gynnwys pob un)
  • disgrifiad cryno o'r rôl
  • hashnod: #SwyddiGofalwnCymru (mae'n rhaid i chi gynnwys hwn) 

https://www.gofalwn.cymru/

 

 

  • Awdur: ADSS Cymru & Partners
  • Dyddiad: 15/07/2020