DOWNLOAD PRINTABLE PDF

Mae Darparwyr Gofal Cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol wrth amddiffyn a gofalu am y dinasyddion sydd fwyaf mewn perygl yn ein cymunedau. Mae'r rhain yn amseroedd heriol ac mae arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gwerthfawrogi popeth rydych chi'n ei wneud i gadw pobl yn ddiogel.

Dylid darllen y ddogfen hon ar y cyd â'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a Llywodraeth Cymru.

Nod y briff hwn yw rhoi gwybod i ddarparwyr am y diweddariadau diweddaraf, darparu cyngor ac ymateb i ymholiadau cyffredinol.

Pwnc

Manylion

Dolen

Datganiadau a Newyddion Llywodraeth Cymru

£40 miliwn ychwanegol i gefnogi gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru

Mae arweiniad ychwanegol ar y cyllid hwn newydd gael ei gyhoeddi i gynrychiolwyr awdurdodau lleol, a'i gopïo i gynrychiolwyr darparwyr gofal cymdeithasol i oedolion. Mae'n cwmpasu'r sefyllfa lle bydd awdurdodau lleol yn dymuno talu'r costau ychwanegol y mae darparwyr yn mynd iddynt o ganlyniad i COVID-19 trwy daliad atodol. Mae hefyd yn darparu eglurhad mewn perthynas â gofal iechyd. Mae copi o hwn a'r arweiniad blaenorol ynghlwm.

 

Diben y cyllid hwn yw helpu i sicrhau y gall awdurdodau lleol fynd i'r afael â'r costau ychwanegol y mae darparwyr gofal cymdeithasol i oedolion yn eu hwynebu o ganlyniad i COVID-19. Bydd hyn yn cynnwys gwariant ychwanegol y mae darparwyr yn mynd iddo uwchben yr hyn a gomisiynir fel arfer ar eitemau fel cynnydd yng nghostau staff, mwy o staff asiantaeth, neu fwy o waith rheoli heintiau.

 

Mae wedi'i neilltuo ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion ac wedi'i gynnwys yng 'nghronfa galedi' COVID-19 y llywodraeth leol a sefydlwyd yn ddiweddar. Ei ddiben yw sicrhau y gall darparwyr gofal cymdeithasol i oedolion barhau â’u darpariaeth gofal a'u bod yn gallu ymateb i unrhyw alw ychwanegol am ofal sy'n codi. Bydd y dyraniad hwn yn cael ei fonitro'n agos er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i allu gwneud hyn.

 

Mae manylion pellach newydd gael eu cyhoeddi i gynrychiolwyr darparwyr ac awdurdodau lleol ac maent i'w gweld yn yr e-bost sydd ynghlwm. Os bydd unrhyw ddarparwr gofal i oedolion yn wynebu costau o'r fath, dylai drafod hyn â'i awdurdod lleol sy'n ei gomisiynu. Er bod y cyhoeddiad hwn yn ymwneud â gofal cymdeithasol i oedolion, bydd y sefyllfa o ran gofal i blant hefyd yn cael ei monitro.

https://llyw.cymru/ps40m-ychwanegol
-i-gefnogi-gofal-cymdeithasol-i-oedolion-yng-nghymr
u

 

Archebu prawf coronafeirws a'r broses

Pwy sy’n gymwys i gael prawf coronafeirws a sut i gael prawf.

https://llyw.cymru/archebu-prawf-
coronafeirws-ar-broses

Profion coronafeirws (COVID-19): eich cwestiynau

Cwestiynau ac atebion ynglŷn â phwy fydd yn cael eu profi a sut

https://llyw.cymru/profi-coronafeirws
-covid-19-eich-cwestiynau

 

 

 

 

Profi am y coronafeirws: diweddariadau wythnosol

Diweddariad wythnosol sy’n cynnwys gwybodaeth am nifer y profion coronafeirws a gynhaliwyd, y canlyniadau, pwy gafodd eu profi ac ym mhle

https://llyw.cymru/profi-am-y-coronafeirws-diweddariadau-wythnosol

 

Profi: diweddariad wythnosol 12 Mai 2020: coronafeirws

Gwybodaeth am nifer y bobl a gafodd eu profi am y coronafeirws yng Nghymru hyd at 10 Mai 2020.

https://llyw.cymru/profi-diweddariad
-wythnosol-12-mai-2020-coronafeirws
 

Nyrsys a bydwragedd sy'n dychwelyd i'r GIG i gynorthwyo â COVID-19: canllawiau 

Yn cynnwys tâl, pensiynau a gwybodaeth indemniad ar gyfer nyrsys a bydwragedd sy'n dychwelyd yn ystod y pandemig COVID-19.

https://llyw.cymru/temporarily-
registered-nurses-and-midwives-guidance

Datganiad Ysgrifenedig: Y Gell Cyngor Technegol - Y Modelu Diweddaraf

Mae'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi gwneud datganiad ynglŷn â modelu diweddaraf y Gell Cyngor Technegol.

https://llyw.cymru/datganiad
-ysgrifenedig
-y-gell-cyngor-technegol-y-
modelu-
diweddaraf

Y Gell Cyngor Technegol - Y Modelu Diweddaraf

Gwybodaeth sy'n cael ei defnyddio gan weinidogion i wneud penderfyniadau gwybodus er budd gorau poblogaeth Cymru, er mwyn ymateb i'r pandemig COVID-19.

https://llyw.cymru/y-gell-cyngor-technegol-y-modelu-diweddaraf

Coronafeirws (COVID-19): cyngor ar gyfer cael estyniad i fisa ar gyfer y DU

Mae'r Swyddfa Gartref yn caniatáu estyniadau i fisâu ar gais i'r rheiny sydd â chaniatâd a ddaw i ben cyn 31 Mai 2020 ac sy'n methu â gadael oherwydd y coronafeirws

 

Mae arweiniad y llywodraeth yn nodi: Os ydych yn y DU a daw eich caniatâd i ben rhwng 24 Ionawr 2020 a 31 Mai 2020, caiff eich fisa estyniad hyd at 31 Mai 2020 os na allwch adael y DU oherwydd cyfyngiadau teithio neu hunan-ynysu sy'n gysylltiedig â'r coronafeirws

 

Er mwyn cael yr estyniad hwn, rhaid i'r rheiny y mae’n effeithio arnynt gwblhau ffurflen ar-lein.

 

Arweiniad Llywodraeth y DU

https://www.gov.uk/guidance/
coronavirus-
covid-19-advice-for-uk-visa-applicants
-and-temporary-uk-residents

 

Ffurflen ar-lein ar gyfer cael estyniad i fisa

https://gov.smartwebportal.co.
uk/homeoffice/
public/webform.asp?id=199
&id2=5C97E7

 

Blog gwreiddiol

https://www.freemovement.
org.uk/coronavirus/

Asesiadau meddygol ar gyfer darpar ofalwyr maeth

 

Cyflwynwyd rhywfaint o hyblygrwydd interim ar gyfer cynnal asesiadau ac adroddiadau meddygol ar gyfer darpar ofalwyr maeth yn ystod y pandemig COVID-19. Ceir manylion y broses yn y ddogfen sydd ynghlwm. Caiff manylion llawn eu cynnwys yn yr arweiniad ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Blant diweddaraf y disgwylir iddo gael ei ddiweddaru a'i ailgyhoeddi yn ystod yr wythnos nesaf. 

 

https://llyw.cymru/gwasanaethau-cymdeithasol
-i-blant-yn-ystod-y-
pandemig-covid-19-
canllawia
u

 

 

Asesiadau meddygol ar gyfer darpar ofalwyr maeth

Gweithio’n ddiogel yn ystod y coronafeirws (COVID-19)

Canllawiau ar gyfer unigolion sy’n gweithio yng nghartrefi pobl eraill, sy’n ymweld â chartrefi pobl eraill neu sy’n cludo nwyddau i gartrefi pobl eraill.

https://www.gov.uk/guidance/working
-safely-during-coronavirus-covid-19/
homes#homes-3-2

Canllawiau: Ailddefnyddio meddyginiaethau diwedd oes mewn hosbisau a chartrefi gofal yn ystod y pandemig COVID-19

Llythyr oddi wrth y Prif Swyddog Fferyllol at fyrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau am ailddefnyddio meddyginiaethau diwedd oes yn ystod y pandemig COVID-19.

https://llyw.cymru/ailddefnyddio-
meddyginiaethau-diwedd-oes-mewn-
hosbisau-chartrefi-gofal-yn-ystod-
covid-19

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer Cartrefi Gofal a Lleoliadau Preswyl

Canllawiau diwygiedig gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer Cartrefi Gofal a Lleoliadau Preswyl a gyhoeddwyd ar 7 Mai.

phw/care home guidance

Gofal Cymdeithasol Cymru

Y cerdyn gweithiwr gofal cymdeithasol

 

Mae mwy na 24,000 o gopïau digidol o'r cerdyn gweithiwr gofal cymdeithasol wedi'u lawrlwytho bellach. Diben y cerdyn yw helpu gweithwyr gofal cymdeithasol i brofi eu bod yn weithwyr allweddol yn ystod y pandemig COVID-19.

Dolen Gofal Cymdeithasol Cymru /
Cerdyn i weithwyr gofal

Tudalennau gwybodaeth Gofal Cymdeithasol Cymru am COVID-19 gan gynnwys defnyddio taliadau uniongyrchol mewn ffordd hyblyg

 

Rydym wedi ychwanegu gwybodaeth newydd, cyfeiriadau ac adnoddau am ddefnyddio taliadau uniongyrchol mewn ffordd hyblyg yn ystod y pandemig a chefnogi gofal diwedd oes mewn lleoliadau gofal cymdeithasol yn ystod y pandemig i’n tudalennau gwe ar COVID-19.

https://gofalcymdeithasol
.cymru/gwella
-gwasanaethau/gwybodaeth
-ac-adnoddau
-ich-tywys-trwy-covid-19

 

Gwybodaeth benodol am daliadau uniongyrchol

 

Dolen – taliadau uniongyrchol

Canllaw cyflym ar gyfer dementia ar ffurf fideo

 

Mae fersiwn fideo o'r canllaw cyflym ar gyfer dementia ar gael ar ein gwefan bellach. Mae'r adnodd wedi'i anelu at unrhyw un sy'n newydd i ofalu am bobl sy'n byw gyda dementia a gellir ei ddefnyddio fel rhan o raglen sefydlu.  

gofalcymdeithasol.cymru/gwella-gwasanaethau/dementia
 

Arolygaeth Gofal Cymru

E-bost Arolygiaeth Gofal Cymru am gymorth ariannol ar gyfer cartrefi gofal

Ddydd Mawrth (12 Mai) anfonodd Arolygiaeth Gofal Cymru e-bost at bob cartref gofal i oedolion gyda gwybodaeth ynghylch y cymorth ariannol sydd ar gael, drwy Lywodraeth Cymru.

Darllenwch yr e-bost yma: https://content.gov
delivery.com/accounts/
UKWALES_CSSIW_
INT/bulletins/28b171b

 

  • Awdur: ADSS Cymru & Partners
  • Dyddiad: 13/05/2020