LAWRLWYTHO PDF I BRINTIO

Mae Darparwyr Gofal Cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol wrth amddiffyn a gofalu am y dinasyddion sydd fwyaf mewn perygl yn ein cymunedau. Mae'r rhain yn amseroedd heriol ac mae arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gwerthfawrogi popeth rydych chi'n ei wneud i gadw pobl yn ddiogel.

Dylid darllen y ddogfen hon ar y cyd â'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a Llywodraeth Cymru.

Nod y briff hwn yw rhoi gwybod i ddarparwyr am y diweddariadau diweddaraf, darparu cyngor ac ymateb i ymholiadau cyffredinol.

 

Pwnc

Manylion

Dolen

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Newidiadau i gyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru

Yr wythnos hon, mae cyngor ICC wedi'i ddiweddaru er mwyn cadarnhau newidiadau i reolau cyfyngiadau symud a chadw pellter cymdeithasol yng Nghymru.

Mae'r gwaith o olrhain cysylltiadau hefyd wedi dechrau'r wythnos hon, a'r cyngor yw cadw nodyn o'ch gweithgareddau rhag ofn y bydd rhywun yn cysylltu â chi fel rhan o'r gwaith olrhain.

Gweler y datganiad llawn yma: https://covid19-phwstatement.nhs.wales/

Cyfuno cefnogaeth ac anghenion mewn ymateb i COVID-19

Mae cydweithrediad rhwng Is-adran Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru, Uned Epidemioleg Cyfannol MRC ym Mhrifysgol Bryste a Sefydliad Alan Turing, wedi mapio gwybodaeth am fod mewn perygl (yn cynnwys data ar ddosbarthu achosion COVID-19 a nifer y bobl sydd â risg uwch) a lefelau cymorth cymunedol o dan arweiniad dinasyddion (a nodir trwy ffynonellau’r cyfryngau cymdeithasol, cymunedau hunan-drefnu a sefydliadau’r trydydd sector) ar draws Cymru.

 

Mae Map Ymateb COVID Cymru wedi cael ei ddylunio i nodi meysydd lle mae mwy o bobl a allai fod mewn mwy o berygl o COVID-19, lle mae llai o gymorth cymunedol o bosibl. Er nad yw’r map yn cyfleu’r holl gymorth cymunedol, nac yn awgrymu bod pob grŵp sydd mewn perygl angen cymorth, gall helpu i hysbysu’r cyhoedd, grwpiau cymunedol a’r sector cyhoeddus pa ardaloedd allai elwa ar gymorth ychwanegol.  Mae hefyd yn darparu’r dolenni i’r grwpiau cymunedol lleol a nodir sydd yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael yn lleol.

 

Hoffai ICC clywed eich safbwyntiau am y ffordd y gall hyn fod yn fwy defnyddiol, neu ffynonellau data symudiadau cymunedol a allai gael eu cynnwys. Cysylltwch â icc.ymchwil@wales.nhs.uk

Saesneg yn unig: https://covidresponsemap.wales/

 

Llywodraeth Cymru

Staff ar ffyrlo – pecyn cymorth sgiliau i bawb

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio adnodd sy'n hyrwyddo hyfforddiant am ddim ar gyfer gweithwyr ar ffyrlo, gan roi mynediad hawdd, am ddim i bobl i gyrsiau o safon i feithrin sgiliau, gwneud cynnydd yn y gwaith a hybu rhagolygon swyddi. 

https://llyw.cymru/pecyn-cymorth-sgiliau-i-bawb

Diogelu Cymru yn y gwaith

Canllawiau i gyflogwyr a gweithwyr

Mae Llywodraeth Cymru bellach yn dilyn dull gofalus o lacio'r cyfyngiadau symud ac ailagor gweithleoedd. Mae canllawiau ar gyfer y gweithle ar gyfer cyflogwyr a gweithwyr yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi'u lansio bellach gan gymryd y newidiadau diweddaraf hyn i ystyriaeth.

https://llyw.cymru/canllawiau
-ar-gyfer-y-gweithle-i-
gyflogwyr-chyflogeion-covid-1
9

Datganiad i'r wasg –  Gofal critigol ar gyfer y coronafeirws mewn niferoedd

Mae gofal critigol wedi chwarae rhan hanfodol – gan achub bywydau yn aml – wrth drin pobl sydd wedi bod yn ddifrifol wael ar ôl dal y coronafeirws yng Nghymru.

https://llyw.cymru/gofal-critigol-ar-gyfer-y-coronafeirws-mewn-niferoedd

Canllawiau – Cyfleusterau profi coronafeirws rhanbarthol

Mae capasiti profi Cymru wedi’i gefnogi gan rwydwaith helaeth o gyfleusterau ledled y wlad.

https://llyw.cymru/cyfleusterau
-profi-coronafeirws-rhanbartho
l

Datganiad i'r wasg – System olrhain cysylltiadau ar gyfer Cymru yn cael ei chyflwyno

Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, bod system olrhain cysylltiadau ar gyfer y boblogaeth gyfan yn cael ei chyflwyno ledled Cymru wrth i’r cyfyngiadau symud gael eu llacio.

https://llyw.cymru/system-olrhain
-cysylltiadau-ar-gyfer-cymru-yn-dechra
u

Canllawiau – Profi, olrhain, diogelu: eich cwestiynau

Pwy fydd yn cael eu profi am y coronafeirws, a sut?

https://llyw.cymru/profi-
olrhain-diogelu-eich-cwestiyna
u

Canllawiau – Olrhain cysylltiadau: eich cwestiynau

Esboniad o sut mae olrhain cysylltiadau yn cael ei ddefnyddio i reoli lledaeniad y coronafeirws.

https://llyw.cymru/olrhain-
cysylltiadau-eich-cwestiyna
u

Datganiad Ysgrifenedig: Lansio Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl Pobl Ifanc

Datganiad ysgrifenedig ar y cyd gan y Gweinidog dros Addysg a'r Gweinidog dros Wasanaethau Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am lansiad y Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl Pobl Ifanc – ar gyfer pobl ifanc 11-25 oed.

https://llyw.cymru/datganiad-
ysgrifenedig-lansio-pecyn-
cymorth-iechyd-meddwl-pobl-ifan
c

Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl Pobl Ifanc

Dolen i'r Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl Pobl Ifanc ar Hwb

https://hwb.gov.wales/
repository/discovery/resource/

Cefnogi'ch gweithwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu anffurfiol.

Yn ystod yr Wythnos Gofalwyr, yr wythnos yn dechrau 8 Mehefin, efallai y byddwch am ystyried, o safbwynt sefydliad, sut rydych yn helpu eich gweithwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu.  Mae'r wefan Employers for Carers (EfC) yn darparu amrediad eang o adnoddau ar gyfer sefydliadau sy'n aelodau i'w helpu i wella'r cymorth y maent yn ei roi i ofalwyr anffurfiol.

https://www.employersfor
carers.org/

 

 

https://www.carersweek.org/

Cyfarwyddyd – Hawlio cyflog drwy’r Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws

Hawliwch 80% o gyflog eich cyflogai yn ogystal ag unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol a phensiwn y cyflogwr, os ydych wedi ei roi ar ffyrlo o ganlyniad i'r coronafeirws (COVID-19).

https://www.gov.uk/
guidance/claim-for-
wages-through-the-
coronavirus-job-
retention-scheme.cy

Gofal Cymdeithasol Cymru

Arolwg Gweithlu

 

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Ulster yn chwilio am weithwyr cymdeithasol rheng flaen, gweithwyr gofal cymdeithasol a nyrsys yng Nghymru i gymryd rhan mewn astudiaeth am ansawdd bywyd gwaith gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod y pandemig COVID-19. Caiff y canfyddiadau eu cyhoeddi fel rhan o astudiaeth sy'n ystyried yr heriau a wynebwyd gan weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol ar draws y DU wrth iddynt weithio yn ystod pandemig, a sut y gwnaethant ymdopi â'r heriau hynny.

https://niscc.info/news/
333-workforce-survey

 

 

Porth swyddi Gofalwn.Cymru

 

Cyflogwyr gofal cymdeithasol: rydym am helpu i fynd i'r afael â phrinderau staff y gallech fod yn eu hwynebu ar hyn o bryd. I'ch helpu i ddod o hyd i'r bobl gywir i lenwi'ch swyddi gwag a chefnogi'ch busnes, rydym wedi creu porth swyddi a fydd yn rhestru'r swyddi gofal cymdeithasol presennol yng Nghymru.

Postiwch eich swyddi gwag ar Twitter gan gynnwys y manylion canlynol:

  • teitl y swydd
  • awdurdod lleol (os yw'r swydd yn cwmpasu mwy nag un awdurdod, dylech gynnwys pob un)
  • disgrifiad cryno o'r rôl

hashnod: #SwyddiGofalwnCymru (mae'n rhaid i chi gynnwys hwn) 

https://www.gofalwn.cymru/

 

Diweddariadau i adnoddau Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae'r adrannau ychwanegol canlynol ar gael bellach:

Mae diweddariadau'n cynnwys:

  • Tudalennau dementia
  • Recriwtio mewn modd sy'n fwy diogel

Adnoddau dysgu newydd – https://gofalcymdeithasol.cymru/gwella-gwasanaethau/modiwlau-hyfforddi-a-chyrsiau-ar-gyfer-gweithwyr-gofal

https://gofalcymd
eithasol.cymru/gwella-gwasanaethau/
gwybodaeth-ac-
adnoddau-ich-tywys
-trwy-covid-19

  • Awdur: ADSS Cymru & Partners
  • Dyddiad: 03/06/2020