LAWRLWYTHO PDF I BRINTIO

Mae Darparwyr Gofal Cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol wrth amddiffyn a gofalu am y dinasyddion sydd fwyaf mewn perygl yn ein cymunedau. Mae'r rhain yn amseroedd heriol ac mae arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gwerthfawrogi popeth rydych chi'n ei wneud i gadw pobl yn ddiogel.

Dylid darllen y ddogfen hon ar y cyd â'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a Llywodraeth Cymru.

Nod y briff hwn yw rhoi gwybod i ddarparwyr am y diweddariadau diweddaraf, darparu cyngor ac ymateb i ymholiadau cyffredinol

 

Pwnc

Manylion

Dolen

Datganiadau a Newyddion Llywodraeth Cymru

Coronafeirws a'r gyfraith: beth a wnaed yn wahanol yng Nghymru?

Gan fod y penderfyniad i osod cyfyngiadau eang wedi'i wneud yn seiliedig ar y DU gyfan, mae'r rhan fwyaf o'r darpariaethau yr un peth neu'n debyg iawn ar draws y DU. Fodd bynnag, ceir gwahaniaethau o ran dull, ac mae rhai ohonynt yn arwyddocaol. Mae'r prif wahaniaethau rhwng y ddeddfwriaeth sy'n gymwys yng Nghymru a'r ddeddfwriaeth sy'n gymwys yn Lloegr wedi'u nodi gan Lywodraeth Cymru

https://llyw.cymru/
coronafeirws-ar-gyfraith

 

https://llyw.cymru
/coronafeirws
-beth-y-maer-gyfraith-
yng-nghymru-yn-ei-ddweud

£40m ychwanegol i gefnogi gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru

Mae canllawiau ychwanegol ar y cyllid hwn wedi cael eu hanfon i gynrychiolwyr awdurdodau lleol, a'u copïo i gynrychiolwyr darparwyr gofal cymdeithasol ar gyfer oedolion. Mae'n cwmpasu'r sefyllfa ble mae awdurdodau lleol yn dymuno talu'r costau ychwanegol y mae darparwyr ar gyfer oedolion yn mynd iddynt o ganlyniad i COVID-19 drwy dâl atodol. Mae hefyd yn darparu eglurhad mewn perthynas â gofal iechyd. Mae copi o'r canllawiau a'r canllawiau blaenorol wedi'u hatodi.

Diben y cyllid hwn yw sicrhau bod awdurdodau lleol yn gallu mynd i'r afael â'r costau ychwanegol sy'n deillio o COVID-19 y mae darparwyr gofal cymdeithasol ar gyfer oedolion yn eu hwynebu. Bydd hyn yn cynnwys gwariant ychwanegol y mae darparwyr yn mynd iddo sy'n uwch na'r hyn a gomisiynir fel arfer ar eitemau megis costau staff uwch, mwy o staff asiantaeth, neu fwy o reolaeth ar heintiau.

Mae'r arian wedi'i glustnodi ar gyfer gofal cymdeithasol ar gyfer oedolion ac mae wedi'i gynnwys yng Nghronfa Caledi Llywodraeth Leol COVID-19 a sefydlwyd yn ddiweddar. Dylai'r arian helpu i sicrhau bod darparwyr gofal cymdeithasol ar gyfer oedolion yn gallu cynnal eu darpariaeth gofal ac yn gallu ymateb i unrhyw alw ychwanegol am ofal sy'n codi. Bydd y dyraniad hwn yn cael ei fonitro'n agos i sicrhau ei fod yn parhau i allu gwneud hyn.

Mae mwy o fanylion wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer cynrychiolwyr darparwyr ac awdurdodau lleol ac maent yn yr e-bost atodol. Os bydd darparwyr gofal oedolion yn wynebu costau o'r fath dylent drafod hyn â'u hawdurdod comisiynu lleol. Er bod y cyhoeddiad hwn yn ymwneud â gofal cymdeithasol ar gyfer oedolion, mae'r sefyllfa ar gyfer gofal plant hefyd yn cael ei monitro.

Saesneg yn unig

 

Guidance issued on Initial £40 million for adult social care providers

Canllawiau - Gofynion gwasanaeth rhyddhau o'r ysbyty: COVID-19

Rhaid i bartneriaid iechyd, gofal cymdeithasol, trydydd sector ac annibynnol yng Nghymru ddilyn y canllawiau rhyddhau diweddaraf hyn.

Hefyd drwy’r ddolen hon, gellir dod o hyd i’r gweminar a gynhaliwyd ar 24 Ebrill a dogfen Cwestiynau Cyffredin.

https://llyw.cymru/gofynion-gwasanaeth-rhyddhau-or-ysbyty-covid-19

Coronafeirws a chyfarpar diogelu personol (PPE)

Crynodeb o’r pethau rydym yn eu gwneud i ddarparu cyfarpar diogelu personol i bobl.

https://llyw.cymru/
coronafeirws-chyfarpar
-diogelu-personol-ppe

Profi am COVID-19 mewn cartrefi gofal: datganiad consensws

Datganiad gan y Gell Cyngor Technegol ynglŷn â phrofi am COVID-19 mewn cartrefi gofal.

https://llyw.cymru/profi
-am-covid-19-mewn-
cartrefi-gofal-datganiad-consenws

Profi am y coronafeirws: diweddariadau wythnosol

Yn cynnwys y nifer a chanlyniadau profion y coronafeirws a ble cawsant eu profi.

https://llyw.cymru/profi-am-y-coronafeirws-
diweddariadau-wythnosol

Diweddariad profi wythnosol 19 Mai 2020: coronafeirws

Gwybodaeth am y nifer o bobl a brofwyd am y coronofeirws yng Nghymru hyd at 17 Mai 2020.

https://llyw.cymru/profi
-diweddariad-wythnosol
-19-mai-2020-coronafeirws

Llythyr ar y cyd gan y Prif Swyddog Meddygol a’r Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol

Mae’r llythyr at holl ddarparwyr gofal cartref, cyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol a phrif Weithredwyr pob bwrdd iechyd yn rhoi diweddariad ar y cyhoeddiadau a’r canllawiau diweddaraf ynglŷn ag iechyd a gofal cymdeithasol.

Llythyr ar y cyd gan y Prif Swyddog Meddygol_18 Mai

Datganiad gan bedwar Prif Swyddog Meddygol y DU ar ddiweddariad i symptomau’r coronafeirws

Canllawiau newydd gan bedwar Prif Swyddog Meddygol y DU ar symptomau’r coronafeirws.

https://llyw.cymru/
datganiad-gan-bedwar
-prif-swyddog-meddygol
-y-du-ar-ddiweddariad
-i-symptomaur-coronafeirws

Datganiad Ysgrifenedig: Profi am COVID-19

Mae'r pedair llywodraeth ar draws y DU wedi agor gwefan newydd ar gyfer pobl â symptomau coronafeirws sy'n gymwys ar gyfer archebu prawf yn y cartref. Mae hon yn rhan bwysig o'n strategaeth Profi, Olrhain a Diogelu a gall pobl ledled Cymru archebu prawf trwy www.gov.wales/coronavirus neu www.llyw.cymru/coronafeirws.

https://llyw.cymru/
datganiad-ysgrifenedig
-profi-am-covid-19

Adolygiad o'r profion ar gyfer COVID-19

Adolygiad o'n cynllun a gwelliannau ar gyfer profi gweithwyr allweddol (hanfodol).

https://llyw.cymru/
adolygiad-or-profion
-ar-gyfer-covid-19

Canllawiau - Canolfannau profi ac unedau profi symudol

Gall gweithwyr hanfodol yng Nghymru sydd â symptomau gysylltu â'r canolfannau profi hyn.

https://llyw.cymru/
canolfannau-profi-ac-
unedau-profi-symudol

 

Dull cenedlaethol Cymru o brofi am COVID–19:Mai 2020

Dull profi am COVID-19 yng Nghymru.

https://llyw.cymru/
dull-cenedlaethol-cymru
-o-brofi-am-covid-19
-mai-2020

 

Profion ar gael i bawb yng Nghymru sy’n arddangos symptomau’r coronafeirws

Bydd pawb sydd â symptomau’r coronafeirws yng Nghymru nawr yn gallu gwneud cais am brawf wrth i wasanaeth archebu ar-lein newydd ddechrau.

https://llyw.cymru/profion
-ar-gael-i-bawb-yng-
nghymru-syn-arddangos
-symptomaur-coronafeirws

Canllawiau – Gwneud cais i gael prawf coronafeirws

Gwirio cymhwysedd i gael prawf ar gyfer coronafeirws, a darganfod sut i gael prawf.

https://llyw.cymru/
gwneud-cais-i-gael-
prawf-coronafeirws

Llywodraeth Cymru yn ymestyn y profi i bob cartref gofal

Bydd profion coronafeirws yn cael eu hymestyn i holl drigolion a staff cartrefi gofal – mae'r cam hwn yn dilyn y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf.

https://llyw.cymru/
llywodraeth-cymru-
yn-ymestyn-y-profi-
i-bob-cartref-gofal

Datganiad Ysgrifenedig: Y Diweddaraf ar Brofion COVID-19 mewn Cartrefi Gofal gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (16 Mai)

Mae'r drefn o brofi am COVID-19 mewn cartrefi gofal yn cael ei hymestyn ymhellach. Caiff profion eu cynnig hefyd i'r holl staff a phreswylwyr symptomatig ac asymptomatig nad ydynt wedi cael prawf positif am COVID-19 o'r blaen, hyd yn oed os nad yw'r cartref wedi rhoi gwybod am achosion posibl neu achosion a gadarnhawyd.

 

Bydd Llywodraeth Cymru yn ysgrifennu at y sector ynghylch y broses ar gyfer cynyddu'r nifer sy'n cael eu profi, gan gynnwys mynediad i borth profi Cartrefi Gofal Llywodraeth y DU.

https://llyw.cymru/
datganiad-ysgrifenedig
-y-diweddaraf-ar-brofion
-covid-19-mewn-cartrefi-gofal

Plant a phobl ifanc sy’n agored i niwed: coronafeirws

Cwestiynau Cyffredin

 

Ar 6ed Ebrill cyhoeddodd Llywodraeth Cymru wybodaeth sy'n darparu atebion i Gwestiynau Cyffredin am blant sy’n agored i niwed a diogelu yn ystod pandemig y coronafeirws.

 

Mae o ddiddordeb i unrhyw un sy'n gweithio yn y maes hwn neu sy'n ymwneud ag unrhyw un o'r materion a godwyd.

 

Diweddarwyd ac ailgyhoeddwyd y Cwestiynau Cyffredin ar 13 Mai.

https://llyw.cymru/
plant-agored-i-niwed
-diogelu-y-coronafeirws

 

 

 

 

Canllawiau – Gweithwyr allweddol (hanfodol) y coronafeirws

Y rheini sydd wedi'u dynodi'n weithwyr allweddol, os yw eu gwaith yn hanfodol i'r ymateb i COVID-19.

https://llyw.cymru/
gweithwyr-allweddol
-hanfodol-y-coronafeirws

 

Rhan y Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd mewn adfer iechyd yn ystod ac ar ôl COVID-19

Mae’r datganiad hwn yn amlinellu blaenoriaethau strategol cyfunol ein pedair gwlad a’u dull gweithredu o ran arweinyddiaeth adsefydlu Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd yn ystod ac yn dilyn COVID-19.

https://llyw.cymru/rhan-
y-gweithwyr-proffesiynol
-perthynol-i-iechyd-mewn
-adfer-iechyd-yn-ystod-ac
-ar-ol-covid-19

Gwybodaeth ac Adnoddau ynghylch Gofal Lliniarol yn ystod COVID-19

 

 

 

Mae adnoddau Gwybodaeth ynghylch Gofal Lliniarol yn ystod COVID-19 wedi'u cyhoeddi bellach, ac maent yn darparu gwybodaeth, cyngor a dolenni i adnoddau er mwyn cefnogi sefydliadau iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector fel y gallant ymateb i bandemig byd-eang COVID-19 mewn perthynas â gofal lliniarol a gofal diwedd oes.

Mae'r ffocws ar ganllawiau a chyngor a fydd yn helpu i sicrhau gofal urddasol a thosturiol diwedd oes i gleifion sy'n oedolion na fyddent yn cael budd o gyfarpar cynnal bywyd, neu ble nad yw hyn wedi bod yn llwyddiannus a ble mae eu cyflwr wedi dirywio o ganlyniad i COVID-19.

Saesneg yn unig

Llythyr gan yr Athro Chris Jones_12 Mai

Gwybodath ac Adnoddau ynghylch Gofal Lliniarol

Comisiynydd Pobl Hŷn

Comisiynydd Pobl Hŷn  Cymru: Rhoi llais i bobl sy'n byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal yng Nghymru

               

 

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru eisiau clywed gan bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal, eu ffrindiau a’u teulu, a staff cartrefi gofal am eu profiadau yn ystod pandemig a chyfyngiadau symud COVID-19.

 

Mae'r Comisiynydd am glywed ynglŷn ag

  • unrhyw broblemau a heriau y maent wedi'u hwynebu, neu yn eu hwynebu, a'r
  • hyn sydd angen ei newid i ddiogelu a chynorthwyo pobl sy'n byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal.

 

Mae hi hefyd am i bobl rannu enghreifftiau o unrhyw gamau gweithredu ac arfer da a ddarperir mewn cartrefi gofal sy'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl hŷn

https://www.older
peoplewales.com/
cy/news/news/20-05-14/Giving_a_voice_to_
people_living_
and_working_in_care_
homes
_in_Wales.aspx

 

 

Help for Heroes

Help For Heroes – Canllaw Maes i Hunanofal

Mae Help for Heroes wedi sicrhau bod eu “Canllaw Maes i Hunanofal” ar gael am ddim i unrhyw un a allai elwa ohono, ond yn enwedig y gweithwyr rheng flaen hynny yn ein systemau iechyd a gofal.

 

Mae'r canllaw yn adnodd hygyrch i helpu pobl i wynebu'r newidiadau yr ydym i gyd yn delio â hwy ers i'r achosion Coronavirus ddechrau.

 

Mae'r deunyddiau wedi'u datblygu gyda, ac ar gyfer, personél milwrol sydd wedi profi digwyddiadau trawmatig, ac maent yn annog unrhyw un sy'n ei chael hi'n anodd yn yr amseroedd heriol cyfredol i'w lawrlwytho o wefan Help for Heroes.

 

Mae adnoddau myfyrdod dan arweiniad bellach wedi'u rhyddhau yn y Gymraeg.

Gwybodaeth am adnoddau Help for Heroes

Able Futures

 

Able Futures: Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith

 

Mae Able Futures yn cyflenwi'r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad at Waith:

  • Hyd at naw mis o gefnogaeth gan weithiwr iechyd meddwl proffesiynol
  • Yn rhad ac am ddim i'r gweithiwr / cyflogwr
  • Dim rhestr aros
  • Ymgeisiwch ar-lein neu ffoniwch 0800 321 3137.

 

Os ydych chi neu unrhyw un o'ch gweithwyr yn profi problemau megis gorbryder, iselder, galar neu straen, neu os ydych yn brwydro i ddelio â phroblemau megis dyled, diffyg cwsg neu dor-perthynas a allai fod yn effeithio ar eich iechyd meddwl, gall Able Futures eich helpu i gryfhau eich gwytnwch, i fynd i'r afael â phroblemau, i deimlo'n well a dysgu ffyrdd newydd o reoli eich iechyd meddwl trwy gydol uchafbwyntiau ac isafbwyntiau bywyd.

Gwybodaeth am Able Futures

Poster dwyieithog Able Futures

Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC)

Mae Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) wedi lansio gwasanaeth meddyginiaethau diwedd oes COVID-19 newydd y GIG

 

Mae'r gwasanaeth wedi'i sefydlu er mwyn sicrhau mynediad cyflym i feddyginiaethau Diwedd Oes 24/7.

 

 

Dylai rheolwyr cartrefi gofal hefyd ddarllen y ddogfen Novel coronavirus (COVID-19) standard operating procedure Running an END OF LIFE medicines reuse scheme in a care home or hospice setting.

 

Cymeradwyir y cynllun hwn yn llawn gan Grŵp y Prif Fferyllwyr Cenedlaethol a'i gefnogi gan yr Arweinydd Clinigol Cenedlaethol, Gofal Lliniarol a Diwedd Oes, Cymru.

https://www.awttc.
org/covid-19-eol-
medicines-service

 

novel coronavirus
(COVID-19) standard
operating procedure on
End of Life medicines
re-use scheme

Gofal Cymdeithasol Cymru

Buddion y cerdyn gweithiwr gofal cymdeithasol

 

Mae mwy na 25,000 o gopïau digidol o'r cerdyn gweithiwr gofal cymdeithasol, sy'n helpu gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru i brofi eu bod yn weithwyr allweddol, wedi'u lawrlwytho erbyn hyn.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae bron pob un o'r archfarchnadoedd mawr wedi cytuno i dderbyn y cerdyn, fel y mae Vodafone, AO.com a'r apiau Sleepio a Daylight. Gallwch ddod o hyd i restr lawn o'r buddion y mae'r cerdyn yn eu cynnig ar ein tudalennau Cwestiynau Cyffredin - gwiriwch yn rheolaidd i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y buddion diweddaraf.

https://gofalcymdeithasol
.cymru/gwella-gwasanae
thau/cwestiynau-cyffredin-cerdyn-gweithiwr-gofal-cymdeit
hasol

 

Gweithio mewn gofal cymdeithasol: Swyddi Gofalwn Cymru

 

 

Cyflogwyr gofal cymdeithasol: rydym am helpu i fynd i'r afael â'r broblem prinder staff y gallech fod yn ei hwynebu ar hyn o bryd. Er mwyn eich helpu i ddod o hyd i'r bobl iawn i lenwi'ch swyddi gwag a chefnogi'ch busnes, rydym wedi creu porth swyddi fydd yn rhestru swyddi gofal cymdeithasol cyfredol yng Nghymru.

Postiwch eich swyddi gwag ar Twitter gan gynnwys y manylion canlynol:

  • teitl y swydd
  • yr awdurdod lleol (os yw'r rôl o fewn mwy nag un awdurdod, ychwanegwch bob un ohonynt)
  • disgrifiad byr o'r rôl

hashnod: #WeCareWalesJobs #GofalwnCymru (mae'n rhaid i chi gynnwys y rhain).

https://www.gofalwn.cymru/?_ga=2.91271642.1959
382489.1589908947-612381641.1589908947

 

  • Awdur: ADSS Cymru & Partners
  • Dyddiad: 20/05/2020