LAWRLWYTHO PDF I BRINTIO

Mae Darparwyr Gofal Cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol wrth amddiffyn a gofalu am y dinasyddion sydd fwyaf mewn perygl yn ein cymunedau. Mae'r rhain yn amseroedd heriol ac mae arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gwerthfawrogi popeth rydych chi'n ei wneud i gadw pobl yn ddiogel.

Dylid darllen y ddogfen hon ar y cyd â'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a Llywodraeth Cymru.

Nod y briff hwn yw rhoi gwybod i ddarparwyr am y diweddariadau diweddaraf, darparu cyngor ac ymateb i ymholiadau cyffredinol.

 

Pwnc

Manylion

Dolen

ADSS Cymru

Cymorth  coronafeirws gan ADSS Cymru ar gyfer darparwyr a gomisiynir

Mae ADSS Cymru wedi diweddaru ei ganllawiau ar gyfer darparwyr a gomisiynir yn unol â newidiadau yn y canllawiau gan Lywodraeth Cymru. Fe’u cynhyrchwyd ar y cyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), Gofal Cymdeithasol Cymru (GCC), Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a Llywodraeth Cymru ac mae ar gyfer comisiynwyr awdurdodau lleol. Eu nod yw rhoi crynodeb o'r pwysau a roddwyd ar ddarparwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru yn sgil COVID-19 ac i awgrymu ffyrdd y gall comisiynwyr leddfu'r pwysau hwn.

https://www.adss.cymru/cy/blog/post/covid19-commissioners

 

Coronafeirws (COVID-19) - Cymorth i Ddarparwyr a Gomisiynwyd - DIWEDDARIAD 17 Mehefin

Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Astudiaeth PRINCIPLE - Gwerthuso triniaethau posib ar gyfer COVID-19 mewn pobl hŷn

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cefnogi’r cychwyniad o astudiaeth Platfform Iechyd Cyhoeddus Brys ledled Cymru o fewn gofal sylfaenol o'r enw astudiaeth PRINCIPLE a gynhelir gan Brifysgol Rhydychen. Nod y treial PRINCIPLE yw dod o hyd i driniaethau ar gyfer pobl hŷn ar gyfer COVID-19. Mae'r astudiaeth eisiau dod o hyd i feddyginiaethau a all helpu pobl â symptomau COVID-19 i wella'n gyflym a'u hatal rhag gorfod mynd i'r ysbyty.

 

Mae tîm yr astudiaeth yn chwilio am gartrefi gofal i helpu i hyrwyddo'r astudiaeth trwy arddangos poster (wedi'i gynnwys yn y Bwletin) i helpu i godi ymwybyddiaeth o’r astudiaeth ymysg staff a thrigolion.

Os hoffech chi gymryd rhan, gallwch dod o hyd i fwy o wybodaeth yma: https://www.phctrials.ox.ac.uk/principle-trial

PRINICPLE Poster i staff cartrefi gofal

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Y cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynghori y bydd siopau nad ydynt yn hanfodol yn parhau i fod ar gau yng Nghymru, er eu bod yn ailagor yn Lloegr. Nid yw'r trefniadau yn Lloegr sy'n caniatáu swigen gymorth gyda chartref arall, a gorfodi gwisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn gymwys yng Nghymru.  Mae'n wir bod Cymru'n argymell gwisgo gorchudd wyneb sydd â thair haen pan na ellir cynnal pellter cymdeithasol, fel ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Gweler y datganiad llawn yma: https://covid19phwstatement.nhs.wales/

  

Prifysgol Ulster / Cyngor Gofal Cymdeithasol

Arolwg Gweithlu

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Ulster yn chwilio am weithwyr cymdeithasol rheng flaen, gweithwyr gofal cymdeithasol a nyrsys yng Nghymru i gymryd rhan mewn astudiaeth am ansawdd bywyd gwaith gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod y pandemig COVID-19. Caiff y canfyddiadau eu cyhoeddi fel rhan o astudiaeth sy'n ystyried yr heriau a wynebwyd gan weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol ar draws y DU wrth iddynt weithio yn ystod pandemig, a sut y gwnaethant ymdopi â'r heriau hynny.

Fide oar Trydar yn esbonio’r arolwg: https://twitter.com/ni_scc/status/

 

https://niscc.info/news/333-workforce-survey

Gofal Cymdeithasol Cymru

Porth swyddi Gofalwn.Cymru

 

Cyflogwyr gofal cymdeithasol: rydym am helpu i fynd i'r afael â phrinderau staff y gallech fod yn eu hwynebu ar hyn o bryd. I'ch helpu i ddod o hyd i'r bobl gywir i lenwi'ch swyddi gwag a chefnogi'ch busnes, rydym wedi creu porth swyddi a fydd yn rhestru'r swyddi gofal cymdeithasol presennol yng Nghymru.

Postiwch eich swyddi gwag ar Twitter gan gynnwys y manylion canlynol:

  • teitl y swydd
  • awdurdod lleol (os yw'r swydd yn cwmpasu mwy nag un awdurdod, dylech gynnwys pob un)
  • disgrifiad cryno o'r rôl
  • hashnod: #SwyddiGofalwnCymru (mae'n rhaid i chi gynnwys hwn) 

 

Rydym hefyd yn gofyn am  cynnal arolwg i ddeall agweddau pobl tuag at y sectorau gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar a gofal plant.

https://www.gofalwn.cymru/

 

 

I gwblhau’r arolwg: https://wh1.snapsurveys.com/s.asp?k=158982007929

 

Llywodraeth Cymru

Adnodd asesu risg COVID-19 ar gyfer y gweithlu

Gall gweithwyr GIG a gofal cymdeithasol wirio os oes risg uwch i chi gael symptomau mwy difrifol os ydych yn dod i gyswllt â COVID-19.

https://llyw.cymru/adnodd-asesu-risg-covid-19-ar-gyfer-y-gweithlu

Datganiad Ysgrifenedig: Taliad arbennig i’r gweithlu gofal cymdeithasol

Datganiad ysgrifenedig gan y Prif Weinidog i gadarnhau, er mwyn cydnabod y cyfraniad hwnnw, bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi fis diwethaf y bydd pob gweithiwr mewn cartrefi gofal a phob gweithiwr gofal cartref yn cael taliad untro o £500. Caiff ei ymestyn hefyd i'r holl staff ategol sy'n gweithio mewn cartrefi gofal sydd wedi chwarae rhan weithredol wrth gefnogi'r gwaith o ddarparu gofal. 

https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-taliad-arbennig-ir-gweithlu-gofal-cymdeithasol 

Canllawiau – Y broses brofi ar gyfer cartrefi gofal: COVID-19

Sut mae preswylwyr a staff cartrefi gofal yn cael eu profi am y coronafeirws.

https://llyw.cymru/y-broses-brofi-ar-gyfer-cartrefi-gofal-covid-19

Canllawiau – Sut i brofi staff cartrefi gofal am COVID-19

Mae'n rhaid i gartrefi gofal ddilyn y canllawiau hyn i brofi staff am COVID-19.

https://llyw.cymru/sut-i-brofi-staff-cartrefi-gofal-am-covid-19

Canllawiau – Gwneud cais i gael prawf coronafeirws (y cyhoedd a gweithwyr hanfodol)

Darllenwch sut y gallwch gael prawf er mwyn darganfod a yw'r coronafeirws arnoch os ydych yn aelod o'r cyhoedd neu'n weithiwr hanfodol.

https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws

Canllawiau – Olrhain cysylltiadau: os ydych wedi cael canlyniad positif

Ceir esboniad o sut mae’r system olrhain cysylltiadau’n gweithio os ydych wedi cael canlyniad positif am y coronofeirws.

https://llyw.cymru/olrhain-cysylltiadau-os-ydych-chi-wedi-cael-prawf-positif

Canllawiau – Olrhain cysylltiadau: os oes cadarnhad eich bod wedi dod i gysylltiad â rhywun sydd â’r coronafeirws

Ceir esboniad o sut mae'r system olrhain cysylltiadau'n gweithio os oes cadarnhad eich bod wedi dod i gysylltiad â rhywun sydd â’r coronafeirws.

https://llyw.cymru/olrhain-cysylltiadau-os-oes-cadarnhad-eich-bod-wedi-dod-i-gysylltiads

Canllawiau – Olrhain cysylltiadau: bod yn wyliadwrus o sgiamiau

Ceir esboniad o sut i adnabod cyfathrebiad go iawn gan ein tîm olrhain cysylltiadau.

https://llyw.cymru/olrhain-cysylltiadau-bod-yn-wyliadwrus-o-sgamiau

Pecyn cymorth ar gyfer cyflogwyr gweithwyr hanfodol

Pecyn cymorth ac asedau ar gyfer cyflogwyr gweithwyr hanfodol er mwyn cyfleu’r strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu.

https://llyw.cymru/pecyn-cymorth-ar-gyfer-cyflogwyr-gweithwyr-hanfodol

Cartrefi gofal yn elwa ar gyflwyno dyfeisiau digidol

Mae cartrefi gofal ledled Cymru yn elwa ar gael dyfeisiau digidol a ddarperir iddynt fel rhan o gynllun gan Lywodraeth Cymru er mwyn helpu preswylwyr i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau, ac i helpu gydag ymgynghoriadau meddygol drwy gyfleuster fideo.

https://llyw.cymru/cartrefi-gofal-yn-elwa-o-gyflwyno-dyfeisiau-digidol

Canllawiau – Cyngor y Prif Swyddog Meddygol ar fasgiau wyneb

Cyngor y Prif Swyddog Meddygol y dylai Llywodraeth Cymru gefnogi hawl y cyhoedd i ddewis gwisgo gorchudd wyneb yn y rhan fwyaf o leoliadau.

https://llyw.cymru/chief-medical-officers-advice-on-face-masks

Canllawiau – Masgiau meddygol:  cwestiynau cyffredin

Pwy ddylai wisgo masg meddygol mewn lleoliad clinigol neu ofal, a phryd.

https://llyw.cymru/medical-masks-frequently-asked-questions

Datganiad Ysgrifenedig: defnyddio masgiau meddygol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

Datganiad ysgrifenedig gan Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â defnyddio masgiau meddygol.

https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-defnyddio-masgiau-meddygol-ym-maes-iechyd-gofal-cymdeithasol

Canllawiau – Sut i wneud gorchudd wyneb â thair haen

Cyfarwyddiadau cam wrth gam ar gyfer gwneud gorchudd wyneb anfeddygol â thair haen gartref.

https://llyw.cymru/sut-i-wneud-gorchudd-wyneb-3-haen

Canllawiau ar warchod ac amddiffyn pobl a ddiffinnir ar sail feddygol fel rhai sy'n eithriadol o agored i niwed i'r coronafeirws (COVID-19)

Gwybodaeth am warchod ac amddiffyn pobl a ddiffinnir ar sail feddygol fel rhai sy'n eithriadol o agored i niwed i'r coronafeirws (COVID-19).

https://llyw.cymru/canllawiau-ar-warchod-ac-amddiffyn-pobl-ddiffinnir-ar-sail-feddygol-fel-rhai-eithriadol-o-agored-0

Canllawiau – Cymorth i bobl sy'n agored i niwed gan awdurdodau lleol a grwpiau gwirfoddol

Bydd pobl sy'n eithriadol o agored i niwed yn derbyn llythyr oddi wrth Brif Swyddog Meddygol Cymru.

https://llyw.cymru/cymorth-i-bobl-agored-i-niwed-gan-awdurdodau-lleol-grwpiau-gwirfoddol

Asesiadau Meddygol Rhithwir – Darpar Fabwysiadwyr

Yn ystod yr argyfwng COVID-19 mae materion wedi codi gyda’r cyfleoedd i ddarpar fabwysiadwyr gael archwiliad gan Ymgynghorydd Cyffredinol oherwydd bod y Gwasanaeth Iechyd wedi gorfod ailedrych ar ei flaenoriaethau er mwyn ymateb i’r argyfwng. Er mwyn mynd i’r afael â’r broblem hon mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ynghyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynllunio proses ar ran asiantaethau mabwysiadu yng Nghymru sy’n galluogi i asesiadau meddygol barhau yn ystod yr argyfwng presennol.

 

O 15 Mehefin 2020 ymlaen, bydd proses asesiadau meddygol rhithwir yn cael ei chyflwyno yng Nghymru ar gyfer mabwysiadwyr, i’w defnyddio pan na fydd modd cynnal archwiliad ac ymgynghoriad wyneb yn wyneb ag Ymgynghorydd Cyffredinol. Ceir cyfyngiadau amser ar y broses hon a bydd ar waith yn ystod yr argyfwng pan fo’n dal i fod yn anodd cael mynediad at archwiliadau wyneb yn wyneb. Bydd yr ateb dros dro hwn yn galluogi darpar fabwysiadwyr i symud ymlaen at y panel mabwysiadu a’r penderfyniad cymeradwyo, ac yn galluogi i’r broses fabwysiadu ddirwyn yn ei blaen felly a gellir hefyd parhau i leoli plant gyda’u teuluoedd parhaol. 

 

Protocol ar gyfer cael gafael ar adroddiadau meddygol oedolion

Datganiad Ysgrifenedig: Sicrhau bod ymweliadau â chartrefi gofal yn ddiogel

Datganiad ysgrifenedig ar y cyd rhwng Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyhoeddi bod y cyfyngiadau’n cael eu llacio er mwyn caniatáu i ymwelwyr fynd i gartrefi gofal ar gyfer ymweliadau yn yr awyr agored. 

https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-sicrhau-bod-ymweliadau-chartrefi-gofal-yn-ddiogel

Canllawiau - Ymweliadau i gartrefi gofal a'r coronafeirws: canllawiau i ddarparwyr gwasanaeth

Sut y gall cartrefi gofal dderbyn ymweliadau gan deulu a ffrindiau yn ddiogel yn yr awyr agored.

https://llyw.cymru/ymweliadau-i-gartrefi-gofal-ar-coronafeirws-canllawiau-i-ddarparwyr-gwasanaeth

Canllawiau - Cyfleusterau profi coronafeirws rhanbarthol

Mae capasiti profi Cymru wedi’i gefnogi gan rwydwaith helaeth o gyfleusterau ledled y wlad.

https://llyw.cymru/cyfleusterau-profi-coronafeirws-rhanbarthol

Profi diweddariad wythnosol 16 Mehefin 2020: coronafeirws

Gwybodaeth am y nifer o bobl a brofwyd am y coronafeirws yng Nghymru hyd at 14 Mehefin 2020.

https://llyw.cymru/profi-diweddariad-wythnosol-16-mehefin-2020-coronafeirws

Profi am y coronafeirws: diweddariadau wythnosol

Yn cynnwys y nifer a chanlyniadau profion y coronafeirws a ble cawsant eu profi.

https://llyw.cymru/profi-am-y-coronafeirws-diweddariadau-wythnosol

Edrychwch i weld a ydych yn gymwys i gael cymorth busnes ac ariannol

Er mwyn sicrhau nad yw darparwyr gofal cymdeithasol yn colli’r cyfle i gael cymorth busnes ac ariannol, rydym yn eu hannog i edrych ar wefan Busnes Cymru i weld a ydynt yn gymwys.

https://businesswales.gov.wales/coronavirus-advice/cy

  • Awdur: ADSS Cymru & Partners
  • Dyddiad: 17/06/2020