Welsh Government dragon logo used for stickers and snacks - BBC News

 

Diweddariad diwethaf: 17/06/20
Cyhoeddiad cyntaf: 30/03/20

LAWRLWYTHO PDF I BRINTIO

 

Cynnwys:

  1. Cyflwyniad
  2. Egwyddorion a gwerthoedd
  3. Comisiynu strategol
  4. Cydweithio a chyfathrebu
  5. Arian a chymorth i’r sector
  6. Cynlluniau parhad busnes
  7. Llif arian
  8. Cymodi ôl-weithredol
  9. Gofal a chymorth yn y cartref (gan gynnwys gofal cartref, byw â chymorth a gofal ychwanegol, a chymorth tai)
  10. Gofal preswyl
  11. Argaeledd gweithlu
  12. Tâl salwch
  13. Addasu cymorth yn gyflym
  14. Rheoli heintiau
  15. Defnyddio darparwyr heb gontract
  16. Gwybodaeth ddefnyddiol arall
  17. Atodiad 1: Newidiadau deddfwriaethol Deddf Coronafeirws 2020 ar Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

 

1. Cyflwyniad

Mae'r nodyn arweiniad hwn wedi cael ei lunio ar y cyd gan Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS) Cymru, Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), Gofal Cymdeithasol Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a Llywodraeth Cymru, ac mae ar gyfer comisiynwyr byrddau iechyd ac awdurdodau lleol.

Dyma ailadroddiad ein harweiniad, sydd wedi datblygu drwy gydol y gwaith o reoli’r pandemig COVID-19. Er ei fod yn darlunio datblygiadau dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rydym yn cydnabod y bydd materion eraill yn codi, a gall canllawiau y mae’r dogfen hon yn cysylltu atynt newid. Felly byddem yn disgwyl ategu'r canllaw hwn eto yng ngoleuni materion o'r fath, a chynghori pob comisiynydd i sicrhau eu bod yn darllen y canllawiau mwyaf diweddar.

Dyluniwyd yr arweiniad yn wreiddiol i grynhoi'r pwysau ar ddarparwyr gofal cymdeithasol plant a phobl ifanc ac oedolion yng Nghymru oherwydd COVID-19 ac archwilio ffyrdd posib y gallai comisiynwyr eu lliniaru.

Fodd bynnag, wrth i ni symud ymlaen o gyfnod argyfyngus cychwynnol y pandemig, dyma gyfle i archwilio ffyrdd o gefnogi gwydnwch integredig a chynllunio adferiad mewn ffordd fwy cyfannol a sicrhau ein bod yn canolbwyntio unwaith eto ar yr egwyddorion a gwerthoedd allweddol a nodir yn Cymru Iachach.[1]

Daw'r arweiniad hwn o uchelgais a rennir i sicrhau bod darparwyr yn cael eu cefnogi i fwyafu argaeledd gofal a chymorth ac i barhau i fod yn wydn yn weithredol ac yn ariannol, nid yn unig yn ystod y tymor byr ond yn y tymor hir hefyd. Mae gwasanaethau cymorth a gofal cymdeithasol yn rhan o'n system iechyd a gofal yn ei chyfanrwydd. Felly, yn seiliedig ar Cymru Iachach, rydym am bwysleisio ein huchelgais, ein hegwyddorion a'n gwerthoedd a rennir mewn perthynas â'n cymorth i'r darparwyr hyn yn ystod yr ymateb i COVID-19:

  • Comisiynu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn ddi-dor ym mhob rhanbarth o Gymru, bydd y system iechyd a gofal cymdeithasol yn cydweithio i gynllunio, sicrhau ac ariannu gwasanaethau cynaliadwy sy'n darparu profiad di-dor a chanlyniadau iechyd a llesiant gwell i bobl;
  • Yr holl bartneriaid yn gweithio gyda'i gilydd fel partneriaid cyfwerth – er mwyn i'n gwasanaethau weithio fel system unigol, mae angen i bawb weithio gyda'i gilydd yn agored ac yn dryloyw;
  • Rhannu gwybodaeth i gefnogi gwneud penderfyniadau ar y cyd yn well – gweld y defnyddiwr gwasanaeth yn ei gyfanrwydd a chynllunio i gefnogi ei ganlyniadau iechyd a llesiant ar y cyd;
  • Trosglwyddo pobl a gwasanaethau'n ddiogel o ysbytai i gymunedau,gan sicrhau bod hyrwyddo adferiad yn 'fusnes i bawb'.
  • Sicrhau cydraddoldeb parch rhwng y gweithlu iechyd a gofal yng Nghymru, fel bod pob gwasanaeth yn lle diogel a gwerthfawr i weithio ynddo.

Nid yw'r arweiniad hwn yn ymdrin â materion rheoli heintiau, y mae modd cael mynediad ar wahân iddynt yma. Yn lle hynny, mae'n canolbwyntio ar yr hyn y dylai comisiynwyr fod yn ei ystyried a'r hyn y gallant ei wneud i gefnogi darparwyr, gyda'r wybodaeth fod Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill fel Arolygiaeth Gofal Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru hefyd yn cyhoeddi eu canllawiau a'u mesurau lliniaru eu hunain i gefnogi'r sector yn y cyfnod hwn.

Rydym yn disgrifio'r camau gweithredu hyn fel yr hyn y "gall" comisiynwyr ei wneud oherwydd ein disgwyliad a rennir yw y bydd comisiynwyr yn ystyried yr holl faterion hyn a mesurau lliniaru posib yn weithredol ac yn gwneud yr hyn sy'n iawn ac yn angenrheidiol i gefnogi eu darparwyr lleol. Rydym hefyd yn cydnabod y byddant yn gweithio gyda'u darparwyr lleol a’u cynghorau gwirfoddol sirol ar y cyd i nodi materion a chytuno ar gamau gweithredu a disgwyliadau ar y cyd.

Yn ogystal â'r newidiadau deddfwriaethol â therfyn amser a wnaed i ofal cymdeithasol  yng Nghymru gan Ddeddf Coronafeirws 2020 Llywodraeth y DU, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda rheoleiddwyr i lacio rhai o'r gofynion a roddir ar ddarparwyr, yn arbennig y rhai hynny sy'n ymwneud â Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, er mwyn rhoi’r gallu iddynt fod yn hyblyg ac addasu i amgylchiadau newidiol y gallent ddod ar eu traws wrth ymdrin â'r feirws a'i effaith. Unwaith eto, mae'r newidiadau hyn â therfyn amser a byddant yn cael eu hadolygu.

Gallwch weld rhagor o wybodaeth am newidiadau deddfwriaethol Deddf Coronafeirws 2020 ar Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn Atodiad 1.

Er bod ffocws sylweddol ar effaith COVID-19 ar leoliadau gofal cymdeithasol i oedolion, mae llawer o'r arweiniad hwn, mewn perthynas ag egwyddorion comisiynu, gwerthoedd a dulliau arfer gorau, yr un mor berthnasol i wasanaethau plant.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau gweithredol i wasanaethau cymdeithasol plant oherwydd COVID-19, y dylech eu darllen ar y cyd â'r arweiniad hwn.

Dyma ailadroddiad ein harweiniad, sydd wedi datblygu drwy gydol y gwaith o reoli’r pandemig COVID-19. Er ei fod yn darlunio datblygiadau dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rydym yn cydnabod y bydd materion eraill yn codi. Felly, byddem yn disgwyl atodi'r arweiniad hwn unwaith eto yng ngoleuni materion o'r fath.


2. Egwyddorion a gwerthoedd

Er bod Deddf Coronafeirws 2020 wedi gwneud rhai addasiadau â therfyn amser i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae egwyddorion trosfwaol y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yno o hyd:

  • Atal ac ymyrryd yn fuan – lleihau'r cynnydd mewn anghenion critigol;
  • Llais a rheolaeth – mae'r unigolyn a'i anghenion yn hollbwysig;
  • Cydgynhyrchu – annog cynllunio a chyflwyno gofal unigol.

Dylai'r rhain barhau i fod yn egwyddorion arweiniol craidd. Fodd bynnag, mae'n glir fod comisiynwyr a darparwyr gofal yn wynebu pwysau sy’n tyfu’n gyflym wrth fod angen cefnogaeth ar fwy o bobl oherwydd bod eu teulu/gofalwyr yn sâl neu nid ydynt yn gallu eu cyrraedd, ac wrth i weithwyr gofal orfod hunanynysu neu’n peidio â gallu gweithio am resymau eraill.Felly, mae'n rhaid i fframwaith cymorth ychwanegol fod yn sail i unrhyw gynllunio neu benderfyniadau sy'n ymwneud â gwasanaethau yn yr argyfwng iechyd cyhoeddus hwn.

Yn ogystal â gwerthoedd ac egwyddorion Cymru Iachach a nodir yn y cyflwyniad, mae arweiniad Llywodraeth Cymru ar Gwasanaethau cymdeithasol i oedolion yn ystod y pandemig COVID-19 hefyd yn tynnu sylw at y Fframwaith Moesegol ar gyfer Gofal Cymdeithasol, y mae pedair gweinyddiaeth y DU wedi cofrestru iddo, ac mae'n rhaid iddo fod yn gydran allweddol o broses gynllunio a gwneud penderfyniadau gwasanaethau comisiynu.

3. Comisiynu strategol

Yn yr amser heriol hwn, ymateb a diwygiadau cyflym i gyflawni gwasanaethau yw'r flaenoriaeth gyntaf i gomisiynwyr. Fodd bynnag, mae'n hanfodol fod sefydliadau comisiynu a chomisiynwyr yn parhau i ddiogelu’r gallu i ystyried yr agweddau ehangach ar gomisiynu strategol a'r cylchred comisiynu (gweler Ffigur 1).  Mae gan gomisiynwyr gyfrifoldeb i ddadansoddi patrymau cyflenwi a galw yn effeithiol a chynllunio i sicrhau darpariaeth gwasanaeth briodol sy'n cyd-fynd. Bydd yr ymchwydd mewn achosion o COVID-19, o ran galw a gallu, yn effeithio ar rannau gwahanol o'r system iechyd a gofal cymdeithasol ar adegau gwahanol. Mae'n hanfodol fod comisiynwyr yn casglu ac yn dadansoddi data'n effeithiol i'w helpu i gynllunio'n effeithiol ar gyfer y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hwy.

 

Ffigur 1 – Cylchred comisiynu'r Sefydliad Gofal Cyhoeddus

4. Cydweithio a chyfathrebu

Mae cynllunio a chyflawni gwasanaethau yn ystod adeg argyfwng ac ansefydlogrwydd yn gofyn am agoredrwydd, ymddiriedaeth a rhannu adnoddau lle y bo'n bosib.  Dylai comisiynwyr a darparwyr geisio mwyafu eu harbenigedd, eu doniau a'u profiadau ar y cyd i ddod o hyd i'r datrysiadau cywir i ddefnyddwyr gwasanaethau a'u gweithlu. Yr hyn sy'n ganolog i hyn yw'r angen am sianeli cyfathrebu effeithiol ac ymatebol.

Mae darparwyr yn wynebu amgylchedd ansicr sy'n symud yn gyflym ac rydym yn rhagweld y bydd pwysau ar wasanaethau yn cynyddu dros yr wythnosau a misoedd nesaf. Felly, bydd angen iddynt fod â'r gallu i godi materion a chael atebion yn gyflym, a gallu datrys problemau ar y cyd, gyda chomisiynwyr a chyda'i gilydd.

Byddem yn argymell yn gryf y cynhelir deialog llyfr agored leol er mwyn meithrin ymddiriedaeth rhwng darparwyr a chomisiynwyr. Bydd cael sgyrsiau ddwyffordd, tryloyw gyda darparwyr cyn gynted â phosib yn rhoi'r cyfle iddynt ddod â'u profiadau a'u harbenigedd i'r adwy ac yn helpu i lywio'r broses o gomisiynu, cynllunio a gwneud penderfyniadau. Hefyd, bydd cael trafodaethau/cyfarfodydd 'wyneb yn wyneb' rheolaidd gyda darparwyr (gan ddefnyddio platfformau TG priodol lle y bo'n bosib) yn hwyluso hyder perthynas ymhellach ac yn sicrhau yr ymdrinnir ag unrhyw rwystrau i gyflawniad gweithredol yn amserol.

Camau gweithredu a argymhellir:

Cam gweithredu

Pwy

Sicrhau cyfathrebu dwyffordd effeithiol:

  • Cynghori darparwyr o ran pwy y dylent gysylltu â nhw yn yr awdurdod lleol a bwrdd iechyd a sut i wneud hyn ar unrhyw adeg o’r dydd;
     
  • Sicrhau bod cyfathrebu effeithiol ar waith gydag unigolion cyfrifol ym mhob gwasanaeth a reoleiddir a nodi unrhyw bwyntiau cyswllt eraill ar gyfer pob darparwr (sicrhau bod hyn yn cael ei gyfleu yn eich sefydliad);
     
  • Sicrhau bod cyfathrebu allanol yn symlach ac yn gyson, gan gyfeirio darparwyr at gyngor cenedlaethol lle bo hynny’n briodol;
    Darparu mecanweithiau briffio/diweddaru rheolaidd, h.y. drwy gyfarfodydd wythnosol (yn well) a/neu friffiau ysgrifenedig gan brif bwyntiau cyswllt ac atynt. Pan ofynnir darparwyr i ddarparu diweddariadau, gallant wneud hyn mewn ffordd "dweud wrthym unwaith" gyda diweddariadau rheolaidd, gydag angen hefyd i ddarlunio'r heriau y mae modd eu defnyddio i lywio'r sector lle bydd angen cymorth arno;
     
  • Pennu fframweithiau a gweithdrefnau uwchgyfeirio, gan nodi manylion cymorth amlasiantaeth/amlddisgyblaethol i ddarparwyr os bydd achosion a/neu bwysau anghynaliadwy.

 

Awdurdodau lleol ar y cyd â byrddau iechyd lleol – yn ddelfrydol, byddai hyn yn cael ei goladu ar lefel Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol lle y bo'n briodol a'i gysylltu â Fforymau Lleol Cymru Gydnerth.

 

 

 

ADSS Cymru i gydlynu a llunio bwletin diweddariadau gwasanaeth wythnosol ar ran asiantaethau partner cenedlaethol (Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru, Arolygiaeth Gofal Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru) ac i Arolygiaeth Gofal Cymru ddosbarthu'r bwletin i ddarparwyr. Bydd y bwletin, ynghyd ag ychwanegiadau blaenorol, ar gael ar wefan ADSS Cymru.

ADSS Cymru, Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol, Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).

Rhannu polisïau a gweithdrefnau rheoli heintiau a deunyddiau hyfforddi (gan gynnwys mynediad i hyfforddiant ar-lein) gyda darparwyr i sicrhau bod polisïau ac arferion yn dilyn y cyngor ac arweiniad diweddaraf.

Iechyd Cyhoeddus Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru ac ADSS Cymru (bwletin wythnosol).

Darparu gwybodaeth (e.e. cwestiynau cyffredin) a chanllawiau i ofalwyr anffurfiol, y rheiny sy'n derbyn taliadau uniongyrchol a'u cynorthwywyr personol, a hunan-gyllidwyr (bydd darparwyr a sefydliadau trydydd sector yn gallu helpu wrth ledaenu’r wybodaeth). Dylai hyn gynnwys pwyntiau cyswllt os bydd trefniadau gofal unigol yn dirywio.

Gofal Cymdeithasol Cymru

 

5. Arian a chymorth i’r sector

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi sawl pecyn o gymorth ariannol i helpu'r sector yn ystod y cam cyntaf hwn o reoli effaith y pandemig:

  • Y sector annibynnol – Mae Busnes Cymru wedi datblygu cyfres o wybodaeth a chanllawiau ar amrywiaeth o faterion sy'n ymwneud â COVID-19. Mae'r rhai yn cynnwys cyfres o weminarausy'n ymdrin â phynciau fel modelau busnes gwahanol ac arallgyfeirio, llif arian a chael mynediad i gyllid, polisïau a gweithdrefnau adnoddau dynol (gan gynnwys cyfraith cyflogaeth, tâl salwch a chontractau dim oriau), rheoli timau a llwyth gwaith o bell, annog cynhyrchedd, a chyd-drafod â chyflenwyr a chwsmeriaid.

Daeth y dyddiad cau i dderbyn ceisiadau ar gyfer Cam 1 Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru ar ddiwedd mis Ebrill. Fodd bynnag, mae Cam 2 y Gronfa Cadernid Economaidd wedi cael ei lansio (9 Mehefin) a bydd cwmnïau nad ydynt wedi cofrestru at ddibenion TAW yn gallu cyflwyno cais. Gallwch weld gwybodaeth am y cynllun yma ac mae modd gweld Gwiriwr Cymhwysedd y Gronfa Cadernid Economaidd yma.

  • Y trydydd sector – Cronfa Cadernid y Trydydd Sector gwerth £24 miliwn i hyrwyddo gwirfoddoli a datblygu capasiti'r sector ymhellach i helpu gydag ymatebion cymunedol lleol i'r pandemig. Yn ogystal, hyblygrwydd cyfalaf ychwanegol drwy'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, i alluogi prynu neu ddisodli cyfarpar i gefnogi'r ymateb i COVID-19.

    Mae rhagor o gymorth a gwybodaeth hefyd ar gael o wefan CGGC neu'n fwy lleol o aelodau Cymorth Trydydd Sector Cymru.

Mae cyngor ar ariannu hefyd ar gael ar borth ar-lein Cyllido Cymru.

  • Y sector cyhoeddus – Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol gwerth £10 miliwn i sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol Cymru i helpu'r rheiny sydd wedi gwella ar ôl dioddef COVID-19 i fynd adref yn gynt. Bydd y cyllid hwn yn ariannu pecynnau gofal cartref newydd a gwell i gefnogi cleifion i adael yr ysbyty er mwyn iddynt gael eu hasesu a gwella’n barhaus. Bydd hefyd yn helpu i ariannu gwasanaethau cymunedol hanfodol sy'n cefnogi'r ymateb i COVID-19 ac sy'n helpu pobl i barhau yn eu cartrefi'n ddiogel.

    Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi cronfa draws-sector a glustnodwyd, gwerth £40 miliwn, ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion, sydd wedi cael ei chynnwys yng Nghronfa Caledi COVID-19 Llywodraeth Leol. Ei nod yw helpu i ymdrin â’r costau ychwanegol rhesymol (mis Mawrth i fis Mehefin 2020) sy'n deillio'n uniongyrchol o'r pandemig y mae darparwyr gofal cymdeithasol i oedolion yn eu hysgwyddo er mwyn cynnal eu darpariaeth gofal a gallu ymateb i unrhyw alw ychwanegol am ofal sy'n codi.

    Cafodd dogfen arweiniad(Saesneg yn unig) ei dosbarthu gan Lywodraeth Cymru (27 Ebrill) i egluro diben yr arian. Nid yw'r gronfa yn ymwneud â'r canlynol:
     
    • costau ychwanegol sy'n codi mewn perthynas â gofal iechyd (gofal iechyd parhaus, gofal nyrsio a ariennir)
    • incwm coll gan hunan-gyllidwyr.

6. Cynlluniau parhad busnes

Mae cynllunio parhad busnes da'n helpu gyda gwydnwch. Bydd sicrhau parhad gwasanaethau’n gofyn am waith ar y cyd a hyblygrwydd yr holl bartneriaid, gan gadw at yr egwyddorion a gwerthoedd allweddol a nodir uchod.

Dylai comisiynwyr osgoi gofyn i ddarparwyr gofal gyflwyno'u cynlluniau parhad busnes eu hunain neu ofyn iddynt gyflwyno data/gwybodaeth gwydnwch busnes, oni bai fod bwriad i ddadansoddi'r wybodaeth ar y cyd a chynnig arweiniad a chymorth adeiladol. Dylai cynlluniau parhad busnes fod y man cychwyn rhwng darparwyr a chomisiynwyr i nodi gwydnwch a pharhad gwasanaethau a pha agweddau y mae angen mwy o waith neu gymorth arnynt. Lle y bo'n bosib, dylai dadansoddiad o'r fath gael ei wneud ar lefel ranbarthol/genedlaethol a'i rannu, e.e. mae Consortiwm Comisiynu Plant Cymru'n coladu ac yn dadansoddi darparwyr fframwaith preswyl a maethu.

Dylai fod cydnabyddiaeth hefyd fod rhai agweddau ar gynlluniau parhad yn dibynnu ar gymorth gan sefydliadau eraill yn y gymuned o Fforymau Lleol Cymru Gydnerth.

Gall comisiynwyr hefyd helpu darparwyr drwy sicrhau eu bod yn rhannu eu cynlluniau gwydnwch/ail-flaenoriaethu lleol eu hunain, a thrwy sicrhau bod darparwyr yn cael eu cynnwys yn ystyriaethau a chynlluniau ehangach Fforymau Lleol Cymru Gydnerth, fel dosbarthu cyfarpar diogelu personol, cael mynediad i brofion, gofal plant, ysgolion a gwasanaethau trafnidiaeth.


Camau gweithredu a argymhellir:

Cam gweithredu

Pwy

Nodi cyfleoedd cyd-gymorth  (partneriaid mewnol ac allanol):

-    Comisiynwyr i bennu gweithdrefnau cysylltu a threfniadau rhannu data gyda darparwyr, gan alluogi llai o gyswllt â mwy o ffocws ar draws asiantaethau, e.e. Swyddog Iechyd yr Amgylchedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr awdurdod lleol a’r bwrdd iechyd (sy'n gysylltiedig â'r fframwaith uwchgyfeirio a chymorth a nodir uchod);

  • Osgoi dyblygu ymweliadau gweithwyr proffesiynol â chartrefi pobl ar gyfer tasgau gwahanol ac archwilio'r defnydd effeithlon o amser gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol trwy ddarparu’r holl ofal mewn un cyswllt, e.e. gweithwyr gofal a chymorth yn gweinyddu meddyginiaethau a/neu'n ymgymryd â thasgau iechyd dirprwyedig;
  • Mwyafu'r defnydd o blatfformau/technoleg ddigidol er mwyn cyfathrebu a rhoi cymorth, e.e. ymgynghoriadau rhithwir 'unrhyw le' y GIG.
  • Rhannu offer asesu risg i staff (yn enwedig gweithwyr BAME), dadansoddi effaith a mapio sgiliau, cyngor adnoddau dynol ar newidiadau i drefniadau gwaith fel gweithio'n hyblyg, a chynyddu oriau gwaith staff (staff rhan-amser ac amser llawn i fodloni'r galw);
     
  • Archwilio opsiynau a datblygu protocolau i wneud y canlynol:
  • Defnyddio ymateb cyflym (gan gynnwys staff nyrsio, iechyd a gofal, staff nad ydynt yn staff gofal fel staff gweinyddol, cogyddion ac ati) mewn sefyllfaoedd lle mae niferoedd uchel o staff darparwr yn cael canlyniad positif a'u bod yn hunanynysu, gan adael y gwasanaeth â nifer annigonol o staff i ofalu am bobl yn ddiogel.
  • Defnyddio staff rhwng asiantaethau, gan gynnwys rhannu 'staff banc' neu staff sydd wedi cael eu recriwtio ar gyfer ysbytai maes nad ydynt wedi agor eto. Gall hyn hefyd gynnwys cyfeillio cyflogwyr o feysydd gwahanol yn y sector, e.e. staff gofal cartref yn cefnogi cartrefi gofal lle mae achosion o’r clefyd.
  • Cyfeirio ymgeiswyr swyddi rhwng cyflogwyr lle mae mwy o ymgeiswyr na swyddi.

Darparwyr, awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol – yn ddelfrydol, byddai hyn yn cael ei goladu ar lefel Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol lle y bo'n briodol a'i gysylltu â Fforwm Lleol Cymru Gydnerth.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Gofal Cymdeithasol Cymru

 

Gall awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol gydlynu defnyddio staff iechyd a gofal cymdeithasol profiadol nad ydynt yn ymarfer o fewn rhanbarth ar draws sectorau statudol ac annibynnol. Mae angen i hyn gysylltu â’r dull Cymru gyfan drwy'r ‘ymgyrch Gofalwn’ lle mae 'cysylltydd rhanbarthol' yn cael ei nodi ym mhob rhanbarth sy'n cefnogi hyn ar gyfer gofal cymdeithasol. Mae porth swyddi am ddim ar gael hefyd i hysbysebu swyddi.

Dylai egwyddorion cynllunio tymor hwy hefyd gael eu defnyddio. Er enghraifft, er efallai nad oes bwlch neu ddiffyg yn y gweithlu ar hyn o bryd, dylai cyfathrebu barhau gyda phobl sy'n dymuno gweithio yn y gweithlu gofal cymdeithasol gyda’r bwriad o’u cynnwys mewn cyfleoedd hyfforddi a datblygu, gan eu galluogi i ymuno â'r gweithlu pan fo'r angen yn codi.

Darparu arweiniad i ddarparwyr mewn perthynas â gweithdrefnau recriwtio mwy diogel; mae hyn bellach yn cynnwys arweiniadar recriwtio gwirfoddolwyr a luniwyd ar y cyd â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

Gofal Cymdeithasol Cymru, AGC a'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Pennu gweithdrefnau gweithredu safonol ar draws partneriaid (comisiynwyr, rheoleiddwyr ac ati) ar gyfer cael data ar barhad gwasanaethau, gyda'r egwyddor o ofyn unwaith, a rhannu hynny lle y bo'n bosib.

Yr holl asiantaethau gwasanaethau cyhoeddus.

Arolygiaeth Gofal Cymru i gysylltu â darparwyr unigol yn uniongyrchol gyda 'gwiriad dros y ffôn' bob pythefnos i ofyn am unrhyw heriau, pwysau neu bryderon penodol sy'n ymwneud â chyflawniad gweithredol eu gwasanaeth a sut gall mwy o gymorth gael ei roi os oes angen.

Caiff yr adborth a roddir ei ddefnyddio i ddatblygu canllawiau a chyngor drwy adran Cwestiynau Cyffredin y wefan.

Arolygaeth Gofal Cymdeithasol i arwain, gan ymgysylltu ag awdurdodau lleol a byrddau iechyd.

Rhannu gwybodaeth am waith arloesol lleol, e.e.

  • Comisiynu gwasanaethau cam-i-fyny/cam-i-lawr pwrpasol ar gyfer gofal pobl hŷn â COVID-19 sy'n lleihau'r risg o drosglwyddo’r feirws i gartrefi gofal.
  • Taliadau cadw a thaliadau ar gyfer gwasanaethau ailddechrau ysbytai.
  • Opsiynau llety a chymorth amgen, e.e. gofal ychwanegol, darparwyr bywydau a rennir, cartrefi gofal / wardiau gwag, gwestai.

Gall Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, y Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol a'r Grŵp Comisiynu Cenedlaethol gefnogi nodi a rhannu gwaith arloesol.

Dylai comisiynwyr bellach fod yn cynllunio ar gyfer y canlynol:

- Cynaliadwyedd; cynnal a chadw gwasanaethau hanfodol yr effeithiwyd arnynt yn negyddol gan COVID-19 (gweithredu fframweithiau uwchgyfeirio a chymorth, gan gynnwys defnyddio’r gweithlu, gyda gweithdrefnau gweithredu safonol ar gyfer dosbarth cyfarpar diogelu personol a llwybrau profi wedi'u symleiddio mewn lleoliadau caeedig). Mae hyn yn cysylltu â dyletswyddau awdurdodau lleol o dan adran 144B o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

 - Gwydnwch (os bydd mwy o achosion) a chynllunio'n seiliedig ar fodelu ar gyfer mathau newydd o angen/galw am wasanaethau);

  • Gweithredu ar yr hyn nad yw wedi gweithio mor dda, adeiladu ar yr hyn sydd wedi gweithio'n dda ac y dylai fod yn weithdrefn weithredu safonol; gweithgaredd â ffocws ar gefnogi a datblygu’r gweithlu a chadernid cymunedol (cydlyniant ardal leol a mentrau gwirfoddoli)
  • Adolygu gwaith modelu, gan gynnwys 'capasiti ymchwydd' cynlluniedig a chynllunio ar gyfer sefyllfaoedd yn seiliedig ar ddysgu o’r grŵp tasg a gorchwyl adsefydlu, cydnabod y gall rhannu gwahanol o'r system iechyd a gofal gael eu heffeithio a'u defnyddio ar gamau gwahanol, e.e. cynllunio ar gyfer yr effaith ar ofal cartref wrth i rannau eraill o'r system ddychwelyd i weithgareddau busnes fel arfer.

- Adferiad; adfer a mheintio cywir, gan gynnwys:

  • Ymgorffori cynllunio ac arloesedd gwydnwch / modelau newydd o weithio, gan sicrhau bod capasiti ar gael i'w gweithredu, e.e. rhyddhau i wella ac asesu modelau comisiynu a chyflawni.
  • Dychwelyd i drefniadau codi tâl safonol (gadael llwybrau ychwanegol, ailgyflwyno, e.e. prosesau gofal iechyd parhaus).
  • Dychwelyd i'r galw blaenorol ym meysydd gofal sylfaenol ac eilaidd ac mewn gwasanaethau cymunedol am, e.e. ail-alluogi ac adsefydlu, gofal a chymorth yn y cartref, cymorth i ofalwyr teulu i gynnal eu rôl ofalu.

 

Awdurdodau lleol ar y cyd â byrddau iechyd lleol (cynllunwyr, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd arweiniol) – yn ddelfrydol byddai hyn yn cael ei goladu ar lefel Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol lle y bo'n briodol a'i gysylltu â Fforymau Lleol Cymru Gydnerth.

 

 

7. Llif arian

Dylai comisiynwyr fod yn trafod gyda darparwyr a oes unrhyw newidiadau'n digwydd sy'n cael effaith ar wydnwch gweithredol ac ariannol darparwyr. Gall ceisiadau gan gomisiynwyr am wybodaeth gan ddarparwyr am bobl sy'n ariannu eu gofal eu hunain fod yn arbennig o sensitif a dylent gynnwys cyngor clir ar pam na fyddai darparu hon yn torri’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).

Bydd creu anfonebau'n dod yn weithgaredd mwyfwy cymhleth. Bydd darparwyr yn canolbwyntio ar gyflawni cymorth i bobl a rheoli absenoldeb salwch yn eu gweithluoedd eu hunain.

Efallai y bydd darparwyr yn wynebu heriau cynaliadwyedd ariannol ychwanegol sy'n ymwneud â cholli incwm oherwydd unedau gwag (gwasanaethau preswyl / byw â chymorth / maethu) a llai o gyflawniad oherwydd diffyg staff, a bydd hyn yn cael ei deimlo'n fwy gan ddarparwyr llai yn y farchnad y bydd ganddynt lai o adnoddau i'w defnyddio.

Bydd darparwyr hefyd yn wynebu costau ychwanegol nad ydynt wedi cael eu rhagweld fel defnyddio staff asiantaeth yn fwy, mwy o atebolrwydd ar gyfer tâl salwch statudol, y defnydd ychwanegol o gyfarpar diogelu personol (gan gynnwys cyfarpar diogelu personol arbenigol), a chostau uwch yswiriant atebolrwydd.

Camau gweithredu a argymhellir:

Cam gweithredu

Pwy

Dylai comisiynwyr wneud pob ymdrech i flaenoriaethu taliadau i ddarparwyr gofal cymdeithasol a phennu trefniadau hyblyg fel a ganlyn:

  • Cynyddu amlder a chyflymder taliadau, gwneud taliadau ymlaen llaw, sicrhau mai ad-daliadau cyflym yw'r norm;
  • Adolygu trefniadau ar gyfer cymodi anfonebau er mwyn sicrhau taliadau hwylus;
  • Sicrhau nad yw symiau cynhennus yn oedi talu symiau anfonebau rheolaidd;
  • Cynyddu disgresiwn darparwyr i gyflawni mwy/llai o ofal i unigolion yn seiliedig ar gyflenwad staff ac anghenion â blaenoriaeth;
  • Talu darparwyr ar gyfer gofal cynlluniedig pan fo dinasyddion yn gwrthod ymweliadau heb rybudd. (Efallai y bydd comisiynwyr hefyd yn gorfod cyfathrebu â phobl sy'n derbyn cymorth am sut gallai hyn effeithio ar daliadau.)
  •  

Awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol.

Lliniaru risgiau drwy wneud y canlynol:

  • Talu am ofal cartref (gan gynnwys lleoliadau byw â gofal a gofal ychwanegol) "ar y cynllun" (h.y. yr oriau cynlluniedig ar gyfer pob unigolyn sy'n derbyn gofal cartref, yn hytrach na gofyn am fanylion yr oriau a ddarparwyd i bob unigolyn a/neu daflenni amser wedi'u llofnodi);
  • Ymrwymiad a gadarnhawyd i dalu am ofal cynlluniedig am gymaint o amser â phosib (gallai enghraifft fod yn ymrwymiad 3-6 mis).
  • Talu am gostau ychwanegol cymorth a ddarperir mewn lleoliadau byw â chymorth oherwydd diffyg mynediad i gyfleoedd dydd/gwaith a/neu oherwydd diffyg cymorth gan ofalwyr sy'n aelodau teulu / gwirfoddolwyr oherwydd gwarchod/ynysu;
  • Archwilio opsiynau ar gyfer talu am unedau gwag / defnydd lle gall hyn fel arall arwain at anghynaliadwyedd ariannol / gwasanaethau'n cau lle mae dadansoddiad o'r farchnad yn nodi angen hanfodol i gadw'r gwasanaeth;
  • Ystyried amrywio contractau/taliadau i liniaru colli incwm darparwyr oherwydd gofynion rhyddhau pan geir canlyniad swab negyddol a chyfnodau o hunanynysu cyn dychwelyd adref. 

Awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol – yn ddelfrydol, byddai hwn yn ddull cyson ar lefel Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol lle y bo'n briodol.

Amodi a meintioli costau darpariaeth ychwanegol a gwneud diwygiadau i ffioedd / taliadau uwch dros dro lle y bo'n bosib ac yn angenrheidiol.

Rhannu gwaith arloesol lleol, e.e.

  • Amrywiadau contract (taliadau).

Gall y Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol a'r Grŵp Comisiynu Cenedlaethol roi cymorth gyda rhannu gwaith arloesol.

Darparu dogfennau cyfathrebu ysgrifenedig ffurfiol i ddarparwyr sy'n nodi manylion amrywiadau (i reoliadau/arweiniad/contractau) a ganiateir yn ystod y cyfnod cynllunio at argyfwng hwn, e.e.

  • Recriwtio mwy diogel;
  • Hysbysiadau;
  • Newidiadau i drefniadau talu;
  • Mwy o ddisgresiwn i ddarparwyr ddiwygio darpariaeth gofal er mwyn ymateb i'r angen.

AGC, Gofal Cymdeithasol Cymru, comisiynwyr, gan gynnwys awdurdodau lleol a byrddau/ymddiriedolaethau iechyd lleol


8. Cymodi ôl-weithredol

Mae'n ddealladwy y bydd gan ddarparwyr bryderon am oblygiadau cymodi ôl-weithredol. Fodd bynnag, mae cymodi’n briodol pan fo lefelau go iawn o gymorth yn amrywio'n sylweddol o'r hyn a gynlluniwyd. Eto i gyd, dylai comisiynwyr fod yn ymwybodol o’r holl gostau ychwanegol i ddarparwyr yn ystod y cyfnod hwn, ac unrhyw broblemau efallai y byddant yn eu hwynebu wrth leihau costau amrywiol mewn amgylchedd gweithredu mor gyfnewidiol. Dylai darparwyr gofio, lle mae lefelau cymorth llawer yn is na'r cynllun, efallai yr oedd angen i gomisiynwyr ariannu cymorth mewn man arall.

Mae sut yr ymdrinnir â'r trafodaethau a'r broses yn hanfodol. Mae'n rhaid i gomisiynwyr ymdrin â'r sefyllfa mewn modd sensitif a thryloyw a thrwy drafodaethau agored dwyffordd, yn hytrach na thrwy orfodaeth unochrog. Po gynharaf y mae darparwyr yn cael eu cynnwys mewn trafodaethau o'r fath, y gorau bydd y canlyniad tebygol i'r ddau barti. Mae'n rhaid i'r egwyddorion a gwerthoedd a amlygwyd uchod fod yn sail i'r trafodaethau hynny ac unrhyw ddull a gymerir fel bod modd cynnal a chadw ymddiriedaeth a hyder yn y berthynas, a chadarnhau sicrwydd i’r darparwr.


9. Gofal a chymorth yn y cartref (gan gynnwys gofal cartref, byw â chymorth a gofal ychwanegol a chymorth tai, bywydau a rennir, a gofal maeth)

Bydd mwy o alw am wasanaethau a phwysau ar ddarparwyr cartrefi gofal dros yr wythnosau a misoedd nesaf, yn arbennig mewn perthynas ag adsefydlu’r cleifion hynny sydd wedi cael COVID-19 ac sydd wedi treulio cyfnodau hir yn yr ysbyty. Wrth ragweld y galw hwn am wasanaethau ychwanegol, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid gwerth £10 miliwn ychwanegol i sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol Cymru i helpu i drosglwyddo'r rheiny sydd wedi gwella ar ôl dioddef COVID-19 adref yn gynt (gweler yr adran 'Arian a chymorth i'r sector'). Mae rhagor o waith cynllunio'n cael ei wneud i ddarparu cymorth ac arweiniad ychwanegol i reoli'r cam nesaf hwn a chaiff hwnnw ei gyhoeddi'n fuan.

Fodd bynnag, yn y cyfamser, mae sicrhau llif arian i'r darparwyr hynny yn y farchnad yn bwysig iawn, oherwydd bydd llif arian llai yn effeithio'n arbennig ar ddarparwyr gofal cartref. Bydd oedi wrth anfonebu, anghydfodau o ran anfonebau a pheidio â thalu anfonebau'n cael effaith negyddol ddifrifol ar lif arian a chynaliadwyedd darparwyr mewn marchnad sydd eisoes yn fregus a dylid ei osgoi.

Gall comisiynwyr hefyd ystyried gwneud taliadau cadw i ddarparwyr sy'n cynnig, e.e. gwasanaethau seibiant, nad ydynt bellach yn gallu cynnig y gwasanaethau hynny.

Mae gweithwyr gofal cartref wedi cael eu cynnwys yn y meini prawf profi ar gyfer gweithwyr y GIG a gweithwyr nad ydynt yn gweithio i'r GIG oherwydd eu bod ynweithwyr hanfodol y coronafeirws’. Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio canllawiau  ar sut dylai comisiynwyr a darparwyr llety â chymorth i reoli eu lleoliadau yn ystod y pandemig COVID-19.

Maent yn nodi'r angen am fesurau ymarferol i sicrhau bod y rheiny sy'n byw ac yn gweithio mewn lleoliadau llety â chymorth yn cael y cymorth, adnoddau a pholisïau y mae eu hangen i ddiogelu eu hunain a bod ganddynt hefyd fynediad at y cyfleusterau a fydd yn eu galluogi i gadw at ganllawiau iechyd cyhoeddus ar hylendid ac ynysu a mesurau i liniaru’r risg. Hefyd, maent yn tynnu sylw at yr angen i ystyried gwydnwch meddyliol a chorfforol pobl mewn lleoliadau llety â chymorth a phwysigrwydd ymarfer sy’n ystyried trawma.

Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiauar gyfer ymdrin â phobl nad ydynt yn fodlon neu nad ydynt yn gallu hunanynysu neu ddilyn cyfarwyddiadau o ran cyfyngiadau symud y coronafeirws.

10. Gofal preswyl

Gall llif arian hefyd effeithio ar gartrefi gofal, a gall comisiynwyr unwaith eto gynnig cymorth drwy dalu am y cymorth cynlluniedig i bobl mewn cartrefi gofal penodol (e.e. ymestyn telerau taliadau yn ystod cyfnodau yn yr ysbyty / cyfleusterau'r GIG, talu amser ychwanegol ar ôl marwolaethau er mwyn caniatáu am arweiniad ar lanhau mwy trwyadl / gwaredu gwastraff) a chymodi am unrhyw ddiwygiadau oherwydd marwolaethau neu ffactorau eraill. Mae hyn hyd yn oed yn fwy pwysig wrth i lefelau meddiannaeth ddod yn fwy cyfnewidiol, gyda mwy o unedau gwag o bosib oherwydd canllawiau rhyddhau a mesurau rheoli heintiau. Gall comisiynwyr gytuno gyda chartrefi gofal lleol ar ba lefel o sicrwydd o ran taliadau cynlluniedig fydd yn eu helpu i oresgyn y cyfnod cyfnewidiol hwn.

Efallai y bydd rhai darparwyr cartrefi gofal yn amharod i dderbyn preswylwyr newydd neu i gefnogi trosglwyddo preswylwyr yn ôl i'r cartref o'r ysbyty neu gyfleuster GIG.  Efallai y byddant hefyd yn gorfod rhoi cyfyngiadau ar breswylwyr fel hunanynysu a gall y rhain amddifadu unigolion o'u rhyddid. Yn yr achosion hynny, mae angen i ddarparwyr gael eu cefnogi gyda'r wybodaeth ac arweiniad cywir fel bod y penderfyniadau cywir yn cael eu gwneud i'r unigolyn, fel y rheiny â dementia.

Mewn perthynas â rhyddhau o'r ysbyty, dylai'r holl gomisiynwyr (awdurdodau lleol a byrddau iechyd) fod yn dilyn y canllawiau ar ryddhau sydd wedi cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru a dylent gefnogi darparwyr, lle y bo'n briodol, i liniaru'r risgiau o drosglwyddo unigolyn yn ôl i gartref gofal yn ddiogel. Yn debyg, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar Atal a rheoli haint ac achosion o COVID-19 mewn Lleoliadau Preswyl yng Nghymru (Saseneg yn unig).

Mae'r trefniadau profi mewn cartrefi gofal wedi cael eu diweddaru (20Mai) fel y gall pob cartref gofal yng Nghymru bellach gael mynediad i brofion i breswylwyr a staff. Mae polisïau a chanllawiau ynghylch trefniadau profi yng Nghymru'n datblygu'n gyflym, yn arbennig gyda gweithrediad y cynllun Profi Olrhain Diogelu. Mae modd gweld yr wybodaeth ddiweddaraf ar wefan Profi ar gyfer Coronafeirws (COVID-19) Llywodraeth Cymru.

11. Argaeledd gweithlu

Bydd darparwyr yn wynebu cyfraddau absenoldeb uwch ymysg eu gweithlu, oherwydd gwarchod a argymhellir yn feddygol, hunanynysu, salwch, a chyfrifoldebau gofalu am deuluoedd. Er bod ysgolion wedi cael eu cau ar lefel genedlaethol yng Nghymru yn unol â chenedlaethau eraill y DU, mae cynlluniau ar waith i sicrhau bod plant gweithwyr allweddol (wedi'u diffinio gan Lywodraeth Cymru) yn cael parhau yn yr ysgol. Wrth i gynlluniau polisi i ailagor ysgolion gael eu datblygu'n genedlaethol, cyfrifoldeb pob Awdurdod Addysg Lleol fydd y cyflawniad gweithredol. Gallwch weld rhagor o wybodaeth yma.

Bydd angen i weithwyr gofal allu defnyddio eu staff mewn modd hyblyg a chyflogi staff newydd yn gyflym. Byddant yn wynebu mwy o bwysau cost oherwydd y defnydd uwch o staff asiantaeth. Mae AGC a Gofal Cymdeithasol Cymru wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddiwygio ac anghymhwyso rhai o'r rheoliadau presennol yn dilyn gweithrediad Deddf Coronafeirws 2020. Hefyd, mae'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd wedi darparu canllawiau ynghylch yr hyn mae'n ei wneud i gefnogi'r frwydr yn erbyn COVID-19.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu arian i awdurdodau lleol (drwy’r Gronfa Caledi) i gefnogi darparwyr gofal cymdeithasol gyda'r costau ychwanegol hyn. Gall comisiynwyr liniaru hyn drwy gydnabod ac ariannu'r pwysau cost ychwanegol hyn. Gallant hefyd sicrhau bod eu contractau'n caniatáu hyblygrwydd i ddarparwyr wrth gyflogi a defnyddio staff.

Gweler hefyd y camau gweithredu a argymhellir yn yr adrannau 'Cydweithio a chyfathrebu' a 'Cynlluniau parhad busnes' uchod.

Er mai'r canfyddiad efallai yw na fydd yn rhaid rhoi staff ar ffyrlo yn y sector gofal cymdeithasol ar hyn o bryd oherwydd y pwysau digynsail ar y gwasanaethau a'r diffyg staff, gall rhai sefyllfaoedd godi lle nad oes angen i'r staff weithio neu nad ydynt yn gallu gweithio, a fyddai'n caniatáu i ddarparwyr wneud cais i Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws Llywodraeth y DU. Er enghraifft, gallai hyn ddigwydd lle mae aelod o staff mewn grŵp iechyd risg uchel neu'n gwarchod yn unol â chanllawiau'r llywodraeth ac yn parhau i fod yn absennol o'r gweithle.

Os yw darparwyr am archwilio'r opsiynau sydd ar gael iddynt dan y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws, yna dylai unrhyw hawliad newydd gael ei wneud a'i gyflwyno erbyn 30 Mehefin 2020 fan bellaf.

Dylai cofnodion manwl gael eu cadw o ran y rhesymeg gwneud penderfyniadau a fabwysiadwyd ynghylch gorfod rhoi staff ar ffyrlo, ynghyd â chrynodeb o dâl staff o’i gymharu â'r arian cyhoeddus a dderbyniwyd ac unrhyw ostyngiadau yn nifer y lleoliadau neu ddefnyddwyr gwasanaethau.

Mae llesiant y gweithlu hefyd yn hynod bwysig ar hyn o bryd. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi datblygu cyfres o wybodaeth am adnoddau i gefnogi rheolwyr a'r gweithlu yn fwy cyffredinol. Mae'r wybodaeth hon yn cael ei diweddaru a'i datblygu drwy'r amser.

12. Tâl salwch

Mae darparwyr yn wynebu pwysau costau uwch oherwydd cyfraddau salwch uwch ymhlith eu gweithlu: maent yn gorfod talu tâl salwch statudol i staff neu wneud taliadau salwch ar lefel uwch na thâl salwch statudol oherwydd bod ganddynt gynllun tâl salwch dan gontract (a elwir hefyd yn 'gynllun galwedigaethol') sy'n cynnig taliadau i weithwyr sy'n uwch na swm sylfaenol tâl salwch statudol, sef £94.25 yr wythnos. Gallwch weld gwybodaeth am hawliau tâl salwch statudol yma.

Yn gyffredinol, bydd gan gomisiynwyr drefniadau sefydledig gyda phob darparwr, sy'n cynnwys sianeli cyfathrebu clir. Dylai comisiynwyr geisio gwneud popeth y gallant i liniaru pwysau costau tâl salwch statudol. Gallent, er enghraifft, helpu gyda llif arian drwy gytuno i swm rhesymol yn seiliedig ar gyfradd absenoldeb salwch gyfartalog dybiedig a thalu ymlaen llaw, yn hytrach nag aros am gofnodion manwl o gyfnodau salwch gwirioneddol a staff cyflenwi a ddefnyddiwyd, a chytuno i ffyrdd rhesymol a chymesur o gymodi’n ddiweddarach. Gall cyfradd gyfartalog dybiedig gael ei llywio gan dybiaethau cynllunio’r llywodraeth, ond ni ddylai comisiynwyr aros am hyn os yw'n oedi'r cymorth ariannol angenrheidiol.

Mae mwy o ganllawiau manwl gan Lywodraeth Cymru i helpu darparwyr fel cyflogwyr a'u staff i fynd i'r afael â materion COVID-19 allweddol, gan gynnwys:

  • Tâl salwch
  • Ardystio
  • Yr hyn i'w wneud os bydd angen amser o'r gwaith i weithiwr ofalu am rywun

ar gael yma.
 

13. Addasu cymorth yn gyflym

Bydd angen i gymorth gael ei addasu'n gyflym. Bydd pobl yn mynd i'r ysbyty, efallai y bydd gofyn iddynt hunanynysu a pheidio â chael mynediad i gyfleusterau cymunedol, gan gynnwys ystafelloedd ymolchi a cheginau, bydd ymweliadau gofal yn cael eu newid i ddiwallu'r anghenion mwyaf brys, a bydd darparu rhai gofal a chymorth yn cymryd mwy o amser oherwydd rhagofalon rheoli heintiau ac argaeledd staff.

Mae hyn yn golygu y bydd penderfyniadau cyflym yn gorfod cael eu gwneud am ddiwygiadau priodol i becynnau gofal, gyda phroses gwneud penderfyniadau glir ar waith. Bydd hefyd yn cynyddu costau darparwyr oherwydd y bydd yn gofyn am fwy o amser rheoli i wneud y diwygiadau hyn. Mae'n debygol y bydd cymhareb uwch o amser teithio i gyswllt mewn cartrefi gofal oherwydd aildrefnu cyflym amserlenni.

Gall comisiynwyr liniaru hyn yn gyntaf drwy gytuno gyda'u darparwyr ar sut i ddiwygio pecynnau mewn modd amserol nad yw’n fiwrocrataidd, heb ofyn am awdurdod ymlaen llaw, ond o fewn cyfyngiadau cytunedig.

Os yw comisiynwyr yn dewis cadw’r pŵer i wneud penderfyniadau am newidiadau i becynnau gofal, bydd angen digon o staff arnynt ar y lefel gywir i allu gwneud y penderfyniadau hyn yn gyflym a chael prosesau syml ar waith.

Gall comisiynwyr hefyd ariannu costau ychwanegol oherwydd gwaith gweinyddol ychwanegol ac amserau teithio ac ymweliadau hwy mewn lleoliadau cartref nad ydynt yn derbyn cymorth 24/7 (sy'n gysylltiedig â 'gwisgo a thynnu' cyfarpar diogelu personol yn ddiogel), ac ar gyfer costau gweinyddol ychwanegol.


14. Rheoli heintiau

Bydd darparwyr yn wynebu costau ychwanegol drwy'r angen am y canlynol:

  • mwy o gyfarpar diogelu personol;
  • mwy o waith glanhau, diheintio a golchi dillad;
  • trefniadau gwaredu gwastraff manylach;
  • mabwysiadu patrymau gwaith gwahanol i leihau lledaenu'r haint, e.e. rhoi rhai aelodau staff mewn parthau mewn cartrefi gofal, darparu llety i staff.

Efallai y gall darparwyr hefyd wynebu mwy o anhawster yn caffael cynnyrch rheoli heintiau, cyfarpar diogelu personol, sebon golchi dwylo a thywelion dwylo tafladwy, oherwydd y galw mwy amdanynt.

Dylai unrhyw stociau o gyfarpar diogelu personol neu gyfarpar arall a ddarperir gan Lywodraeth Cymru ac sydd gan awdurdodau lleol gael eu dosbarthu yn unol â'r angen blaenoriaethol ac yn deg ar draws rhannau gwahanol o'r sector gofal cymdeithasol i oedolion, a phlant a phobl ifanc.

Gall awdurdodau lleol helpu'r broses hon drwy ddyrannu cyfarwyddiadau clir i'w staff ynghylch y canlynol:

  • sut i asesu cyfanswm y galw posib am gyfarpar diogelu personol ar draws yr holl ddarparwyr gofal cymdeithasol yn eu hardal, a
  • sut dylai stociau o'r fath fod ar gael i ddarparwyr sydd eu hangen (gan gynnwys mynediad 24/7) a pha stociau (e.e. cyfarpar arbenigol) sydd ar gael gan fyrddau iechyd.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi nodiadau cynghori ar ddefnyddio cyfarpar diogelu personol mewn lleoliadau penodol – mewn lleoliadau gofal cymdeithasol (cartrefi gofal a gofal cartref) ac mewn lleoliadau cymorth tai, iechyd a gofal cymdeithasol.

Dylai comisiynwyr sicrhau bod darparwyr yn ymwybodol o arweiniad cyfredol a meddu ar weithdrefnau a threfniadau rheoli risg effeithiol i hyfforddi, cynghori a chefnogi staff a sicrhau cyflenwadau priodol mewn perthynas â'r canlynol:

Mae'r dogfennau atodedig canlynol yn darparu arweiniad ychwanegol ar wisgo a thynnu cyfarpar diogelu personol:

Gwisgo PPE (Saesneg yn unig)

Dadwisgo PPE (Saesneg yn unig)


15. Defnyddio darparwyr heb gontract

Efallai y bydd comisiynwyr sy'n contractio â darparwyr cymeradwy neu 'fframwaith' ar brisiau sefydlog hefyd yn chwilio am ddarparwyr eraill heb gontract yn yr ardal leol, wrth i'r galw am ofal a chymorth gyrraedd uchafbwynt. Dylai ystyriaeth gael ei rhoi i effaith bosib talu darparwyr sydd wedi'u contractio ar gyfradd is na'r darparwyr nad ydynt dan fframwaith neu gontract.

Gall comisiynwyr liniaru hyn drwy ystyried y prisiau maent yn eu talu am ofal a'r capasiti sydd ar gael yn y farchnad leol yn ofalus, a dylent gofio'r effaith tymor hwy ar y farchnad os bydd defnydd mwy o ddarparwyr heb gontract.

Camau gweithredu a argymhellir:

Cam gweithredu

Pwy

Efallai bydd yn rhaid i gomisiynwyr geisio eithrio eu hunain o reoliadau contractio a chaffael er mwyn contractio â darparwyr y tu allan i fframweithiau contract arferol / darparwyr nad ydynt wedi'u cymeradwyo.

Awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol – yn ddelfrydol, byddai hyn yn gyson ar draws ardal Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol

Dylai comisiynwyr rannu gwybodaeth diwydrwydd dyladwy (cofrestru, lefelau yswiriant, gwiriadau Dun a Bradstreet) ac ati gyda chomisiynwyr eraill o ran darparwyr y tu allan o fframweithiau contract arferol / darparwyr nad ydynt wedi'u cymeradwyo yn eu hardal sydd wedi'u cymeradwyo mewn rhannau eraill o Gymru.

Gall y Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol, y Grŵp Comisiynu Cenedlaethol a'r unedau comisiynu cenedlaethol helpu gyda rhannu gwybodaeth.

Bydd y Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol ar y cyd â’r Grŵp Comisiynu Cenedlaethol ac unedau comisiynu cenedlaethol yn darparu cymorth o ran monitro risgiau sy’n ymwneud â chynaliadwyedd y farchnad.

Y Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol, y Grŵp Comisiynu Cenedlaethol a'r unedau comisiynu cenedlaethol

 

16. Gwybodaeth ddefnyddiol arall

Cyn yr argyfwng iechyd cyhoeddus, gwnaeth ADSS Cymru lunio nodiadau cyngor manwl i gefnogi comisiynwyr ar ddatblygu modelau gwasanaeth integredig a chyllidebau cyfun, y mae modd eu gweld yma.

17. Atodiad 1: Newidiadau deddfwriaethol Deddf Coronafeirws 2020 ar Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Adran 25

 

Darpariaeth i egluro ymatebion awdurdodau lleol yn dilyn gwrthod asesiad o anghenion ar gyfer gofalwr oedolion (ond yn destun

gofynion ynghylch cam-drin neu esgeuluso).

 

Paragraff 21

Adran 32(1)(a)

 

Penderfynu a yw anghenion yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd.

 

Paragraff 22(2)(a)

Adran 32(2)(b)

 

Penderfynu ar daliadau fel rhan o benderfyniad ar gymhwysedd.

 

Paragraff 22(2)(b)

Adran 32(1)

 

Hepgor testun Saesneg sy'n ymwneud â phenderfynu a yw anghenion yn bodloni'r

meini prawf cymhwysedd.

 

Paragraff 22(3)(a) a (b)

Adran 32(2)(b)

 

Hepgor testun Cymraeg sy'n ymwneud â phenderfynu a yw anghenion yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd.

 

Paragraff 22(4)(a) a (b)

Adran 35

 

Darpariaeth i egluro y gall asesiadau gael eu gwneud a gall penderfyniadau gael eu gwneud ar gymhwysedd er mwyn diwallu anghenion oedolyn neu ofalwr oedolyn.

 

 

Paragraff 23

Adran 35(3)(a)

 

Hepgor yr isadran hon.

 

Paragraff 26

Adran 40

 

Darpariaeth i egluro y gall asesiadau gael eu gwneud a gall penderfyniadau gael eu gwneud ar gymhwysedd er mwyn diwallu anghenion oedolyn neu ofalwr oedolyn.

 

Paragraff 23

Adran 40(3)

 

Amnewid testun Saesneg sy'n ymwneud ag amodau ar gyfer diwallu anghenion gofalwr oedolyn.

 

Paragraff 27(a) a (b)

Adran 40(3)

 

Amnewid testun Cymraeg sy'n ymwneud ag

amodau ar gyfer diwallu anghenion gofalwr oedolyn.

 

Paragraff 27(b)

Adran 54 ac adran 55

 

Darpariaeth i egluro nad oes rhaid i awdurdodau lleol gydymffurfio â dyletswyddau i baratoi cynllun gofal a chymorth i oedolyn neu gynllun cymorth i

ofalwr oedolyn ac agweddau perthnasol ar y rheoliadau cysylltiedig dan adran 55.

 

Paragraff 31

Adran 56

 

Darpariaeth i egluro nad oes rhaid i awdurdodau lleol gydymffurfio â dyletswyddau sy'n ymwneud â symudedd gofal a chymorth yn ystod cyfnod yr argyfwng.

 

Paragraff 32

Adran 56

 

Gwneir darpariaeth hefyd mewn perthynas â symudedd gofal a chymorth am y cyfnod yn dilyn

yr argyfwng.

 

Paragraff 33

Adran 57

 

Darpariaeth i egluro nad oes rhaid i awdurdodau lleol gydymffurfio â dyletswyddau pan fo unigolyn yn mynegi ffafriaeth ar gyfer llety penodol.

 

 

Paragraff 29

Adran 63(2)

 

Darpariaeth i egluro cyfrifoldebau awdurdodau lleol i gynnal asesiad ariannol cyn codi tâl am ddiwallu anghenion oedolyn neu ofalwr oedolyn dan adrannau 35 neu 40 ac am godi tâl am ddiwallu anghenion yn ystod argyfwng.

 

Paragraffau 25, 28 a

30

 

  • Awdur: ADSS Cymru & Partners
  • Dyddiad: 17/06/2020