LAWRLWYTHO PDF I BRINTIO

Mae Darparwyr Gofal Cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol wrth amddiffyn a gofalu am y dinasyddion sydd fwyaf mewn perygl yn ein cymunedau. Mae'r rhain yn amseroedd heriol ac mae arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gwerthfawrogi popeth rydych chi'n ei wneud i gadw pobl yn ddiogel.

Dylid darllen y ddogfen hon ar y cyd â'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a Llywodraeth Cymru.

Nod y briff hwn yw rhoi gwybod i ddarparwyr am y diweddariadau diweddaraf, darparu cyngor ac ymateb i ymholiadau cyffredinol

 

Datganiadau a Newyddion Llywodraeth Cymru

1. Rheolau Coronafeirws Diwygiedig

Cyflwynwyd ychydig o newidiadau i reoliadau'r coronafeirws er mwyn egluro'r canlynol:

  • Y rhesymau y gall pobl adael eu cartrefi.
  • Y gall pobl anabl, neu'r rheiny sydd â chyflyrau iechyd arbennig adael eu cartref fwy nag unwaith bob dydd ar gyfer ymarfer corff;
  • Mae'r diffiniad o unigolyn sy'n agored i niwed bellach yn cynnwys grwpiau penodol eraill a allai elwa ar gael cymorth, ac y mae darparu cyflenwadau iddynt yn esgus rhesymol i unigolyn arall adael ei gartref (er enghraifft, pobl sydd â dementia)

https://llyw.cymru/datgelu-rheolau
-coronafeirws-adolygedig-ar-gyfer
-cymru

 

https://llyw.cymru/rheoliadau-diogelu
-iechyd-cyfyngiadau-coronafeirws-cymru
-diwygio-rhif-2-2020

2. Lliniaru'r risg o gyflwyno a lledaenu Covid-19 mewn cartrefi gofal

Trefniadau newydd ar gyfer y canlynol:

  • profion ar gyfer pobl sy'n dychwelyd i gartrefi gofal a sicrhau bod canlyniadau ar gael cyn eu rhyddhau o ysbytai.
  • profion ar gyfer pobl sy'n trosglwyddo rhwng cartrefi gofal, a derbyniadau newydd.
  • llwybr rhyddhau newydd gyda gofal cam-i-lawr ar gyfer pobl sydd wedi cael canlyniad prawf positif ac opsiynau ar gyfer pobl sydd wedi cael canlyniad prawf negatif.

 

Mae arweiniad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer lleoliadau preswyl yn cael eu diweddaru ar hyn o bryd.

Ar gael yn Saesneg yn unig

Llythyr i ddarparwyr gofal (22-Ebr)

Llythyr i Byrddau Iechyd ac eraill

https://llyw.cymru/gofynion-gwasanaeth
-rhyddhau-or-ysbyty-covid-19

3. Datganiad Ysgrifenedig: Fframwaith i arwain Cymru allan o bandemig y coronafeirws

Mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi fframwaith i arwain Cymru allan o bandemig y coronafeirws.

https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig
-fframwaith-i-arwain-cymru-allan-or-
pandemig-coronafeirws

4. £40m yn ychwanegol i gefnogi gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru

“Mae'r arian hwn ar gyfer helpu i sicrhau y gall awdurdodau lleol fynd i'r afael â'r costau ychwanegol sy'n deillio o Covid-19 y mae darparwyr gofal cymdeithasol i oedolion yn eu hwynebu. Bydd hyn yn cynnwys darparwyr gwariant ychwanegol sy'n mynd i gostau uwchlaw'r hyn a gomisiynir fel arfer ar eitemau fel costau staff uwch, mwy o staff asiantaeth neu fwy o reolaeth heintiau.

Mae’r cyllid wedi'i neilltuo ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion ac mae wedi'i gynnwys yng Nghronfa Galedi COVID-19 Llywodraeth Leol a sefydlwyd yn ddiweddar. Bydd yn helpu i sicrhau bod darparwyr gofal cymdeithasol i oedolion yn gallu cynnal eu darpariaeth gofal ac yn gallu ymateb i unrhyw alw ychwanegol am ofal sy'n codi. Bydd y dyraniad hwn yn cael ei fonitro'n ofalus i sicrhau ei fod yn gallu parhau i wneud hyn.

Mae rhagor o fanylion newydd gael eu rhannu â chynrychiolwyr darparwyr ac awdurdodau lleol ac maent i’w cael yn y neges e-bost sydd ynghlwm.

 

Yn y cyfamser, os bydd darparwyr gofal i oedolion yn wynebu costau o'r fath, dylent drafod hyn gyda'r awdurdod lleol sy'n comisiynu. Er bod y cyhoeddiad hwn yn ymwneud â gofal cymdeithasol i oedolion, mae'r sefyllfa o ran gofal plant hefyd yn cael ei monitro.”

https://llyw.cymru/ps40m-ychwanegol
-i-gefnogi-gofal-cymdeithasol-i-
oedolion-yng-nghymru

5. £10m i gefnogi cleifion sydd wedi gwella o coronafeirws ddychwelyd adref

Mae £10m o gyllid yn cael ei ddarparu i sefydliadau iechyd a gofal Cymru i helpu’r rheini sydd wedi gwella o COVID-19 i ddychwelyd adref yn gyflymach.  

Bydd y cyllid hwn yn ariannu pecynnau cymorth cartref newydd a gwell i gleifion sy’n gadael yr ysbyty er mwyn iddynt barhau i adfer eu hiechyd ac ar gyfer eu hasesu’n barhaus. Bydd hefyd yn helpu i ariannu gwasanaethau cymunedol hanfodol sy’n cefnogi’r ymateb i COVID-19 sydd o gymorth i unigolion aros yn eu cartrefi yn ddiogel.

https://llyw.cymru/ps10m-i-helpu-
cleifion-sydd-wedi-gwella-or-
coronafeirws-yn-eu-cartrefi

 

https://llyw.cymru/gofynion-gwasanaeth
-rhyddhau-or-ysbyty-covid-19

6. Offeryn capasiti gofal a chymorth

  • Diolch i'r holl ddarparwyr cartrefi gofal i oedolion hynny sydd wedi cofrestru ar gyfer yr offeryn capasiti gofal a chymorth hyd yn hyn.
  •  
  • Mae'n hanfodol fod cartrefi gofal i oedolion yn cofrestru ar gyfer yr offeryn ac yn ei ddefnyddio i ddiweddaru gwybodaeth am eu lleoedd gwag, gan y bydd hyn yn hanfodol wrth lywio'r gwaith cynllunio ar gyfer COVID-19 ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Bydd Data Cymru yn galw'r holl gartrefi gofal hynny sydd heb gofrestru ar gyfer yr offeryn eto.

 

Dylai darparwyr 'gofrestru' er mwyn agor cyfrif gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost y mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn ei ddefnyddio i gysylltu â nhw. E-bostiwch help@dewis.wales am unrhyw gymorth, neu fel arall ffoniwch 07773 486891 rhwng 8am a 8pm bob dydd.

Gellir cael mynediad i'r wefan er mwyn
cofrestru ar gyfer yr offeryn drwy'r ddolen
hon https://www.dewis.cymru.

Addysg a Gwella Iechyd Cymru

Hyfforddiant rhoi meddyginiaeth ar gael ar-lein (AaGIC)

Mae hyfforddiant byr ar gyfer rhoi meddyginiaeth ar gael ar-lein ar wefan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC):

  • Mae wedi'i ddylunio ar gyfer gweithwyr sy'n rhoi meddyginiaeth/rhoi meddyginiaeth o becyn gwreiddiol am y tro cyntaf yn hytrach na phaciau pothellog.
  • Rhestr wirio i atgoffa gweithwyr gofal i roi meddyginiaeth yn ddiogel; gellir ei defnyddio gan reolwyr ar gyfer asesiadau cymhwysedd.

NODER: Gall fferyllwyr roi taflenni Cofnod Rhoi Meddyginiaeth (MAR) wrth ddosbarthu meddyginiaeth yn ei phecyn gwreiddiol. Gallai fod angen i ddarparwyr ofyn am y rhain er mwyn sicrhau proses gofnodi gadarn.

https://www.wcppe.org.uk/covid-19-medication-administration/

 

Hyfforddiant meddyginiaethau AaGIC

Arolygaeth Gofal Cymru

Adnodd ar-lein gan y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS)

Mae'r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) wedi creu adnodd ar-lein i blant, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol i gefnogi iechyd meddwl a lles plant. Mae gan yr adnodd nifer o offer, apiau, fideos a llyfrau ar-lein sy'n cynnwys gwybodaeth am coronafirws. Mae'r adnodd ar-lein hwn yn offeryn ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant, gan gynnwys gofalwyr maeth a staff gofal preswyl, a bydd yn cefnogi eu gwaith ar yr adeg anodd hon wrth gefnogi lles emosiynol plant.

https://www.camhs-resources.co.uk/

Datganiad ar y cyd gan AGC a AGIC: Cynllunio gofal ymlaen llaw yng Nghymru

Mae Arolygaeth Gofal Cymru wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd â Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ar gynllunio gofal ymlaen llaw yng Nghymru.

https://arolygiaethgofal.cymru/200421-datganiad-ar-y-cyd-ag-agic-cynllunio-gofal-ymlaen-llaw-yng-nghymru

ADSS Cymru

Sut gall comisiynwyr roi'r cymorth gorau i ddarparwyr gofal cymdeithasol?

 

Dweud eich dweud!

Mae'r arweiniad ar gyfer darparwyr a gomisiynir wrthi'n cael ei adolygu.

Cysylltwch â maria.bell@walga.gov.uk  gydag unrhyw adborth

Diolch

https://www.adss.cymru/cy/blog/post/covid19-commissioners

 

Gofal Cymdeithasol Cymru

Y cerdyn gweithiwr gofal cymdeithasol

 

Mae mwy na 21,500 o weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru wedi cofrestru ar gyfer fersiwn digidol y cerdyn gweithiwr gofal cymdeithasol ers iddo lansio pythefnos yn ôl.

 

Nod y cerdyn yw nodi gweithwyr gofal cymdeithasol a chadarnhau eu bod yn weithwyr allweddol wrth ymladd y pandemig COVID-19.

 

Yn dilyn ymlaen o lythyr agored ein Prif Weithredwr, Sue Evans, i'r archfarchnadoedd yn gofyn iddynt gydnabod y cerdyn yn ffurfiol ar 17 Ebrill, mae'r rhan fwyaf wedi gwneud hynny bellach. Mae Asda, The Food Warehouse, Iceland, M&S, Morrisons, Sainsbury’s, Tesco and Waitrose i gyd wedi dweud y byddant yn derbyn y cerdyn yn eu siopau.

https://gofalcymdeithasol.
cymru/gwella-gwasanaethau
/cwestiynau-cyffredin-
cerdyn-gweithiwr-gofal-
cymdeithasol

 

https://gofalcymdeithasol.
cymru/straeon-newyddion/
llythyr-agored

Helpwch i ymladd COVID-19 – Cefnogwch y fyddin gudd, nawr a phob amser

 

Yn ei cholofn ddiweddaraf ar gyfer y Western Mail (a gyhoeddwyd ddydd Llun 27 Ebrill), rhoddodd Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru, Sue Evans, glod i'r fyddin gudd o weithwyr gofal cymdeithasol sy'n brwydro'n ddiwyd ar y rheng flaen, gan ddarparu gofal a chymorth i'n ffrindiau, teuluoedd a chymdogion sydd fwyaf agored i niwed.

https://gofalcymdeithasol.cymru/straeon-newyddion/helpwch-i-ymladd-covid-19

Tudalennau gwe COVID-19 Gofal Cymdeithasol Cymru

 

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn parhau i ddiweddaru ei dudalennau gwybodaeth, cyfeirio ac adnoddau mewn perthynas â COVID-19. Yn ystod yr wythnos ddiwethaf rydym wedi ychwanegu gwybodaeth am:

  • dementia a COVID-19
  • rhoi cymorth i bobl sydd ag anableddau dysgu
  • modiwlau hyfforddi a chyrsiau ar gyfer gweithwyr gofal
  • awgrymiadau ar gyfer rhoi cymorth i berthnasau hŷn sydd wedi'u hynysu
  • brwydro yn erbyn unigrwydd mewn hinsawdd o hunan-ynysu ar gyfer preswylwyr tai hŷn
  • neges ar gyfer gweithwyr cymdeithasol ynglŷn ag alcohol a COVID-19.

https://gofalcymdeithasol.
cymru/gwella-gwasanaethau
/gwybodaeth
-ac-adnoddau-ich-tywys-
trwy-covid-19

 

Busnes Cymru

Diweddariad

-au i dudalennau cymorth Busnes Cymru

Mae Busnes Cymru wedi diweddaru ei dudalennau cymorth o amgylch Coronafeirws (COVID-19) gyda chefnogaeth i fusnesau, gweithwyr hunangyflogedig, cyflogwyr a gweithwyr. Mae'r wybodaeth ar gael ar 6 maes allweddol gan cynnwys arweiniad ar gymorth ariannol a grantiau, a chyfraddau busnes.

https://businesswales.gov.
wales/coronavirus-advice
/cy/cymorth

  • Awdur: ADSS Cymru & Partners
  • Dyddiad: 29/04/2020