Mae'r datganiad ar y cyd hwn wedi'i lunio er mwyn hyrwyddo cyhoeddiad y canllawiau Cymorth Coronafeirws (COVID-19) i Ddarparwyr a Gomisiynwyd, sydd wedi'u diweddaru.

Gyda'r newidiadau ynghylch darparu gofal yn ystod y pandemig COVID-19 yn mynd rhagddynt yn gyflym, mae'r canllawiau a gyhoeddwyd i gomisiynwyr cymorth yn wreiddiol fis Mawrth bellach wedi'u diweddaru'n llawn yn unol â gwybodaeth a chanllawiau cyfredol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a phartneriaid allweddol eraill.

Wrth wraidd y canllawiau mae ffocws ar yr hyn y dylai comisiynwyr ystyried ei wneud er mwyn cynorthwyo darparwyr gofal cymdeithasol (ac iechyd) yn ymarferol i sefydlogi'r farchnad gofal cymdeithasol i oedolion yn ystod yr argyfwng hwn. Nid yw'n bwriadu rhwystro cydberthnasau lleol llwyddiannus gyda darparwyr ond yn hytrach cydnabod, yn genedlaethol, fod pryderon hanfodol ynghylch cynaliadwyedd a phrisiau sydd angen eu datrys er mwyn sicrhau bod darpariaeth gofal yn ddichonadwy nawr, ac yn y dyfodol hyd y gellir ei ragweld.

Mae gan ddarparwyr sawl pryder sy'n adlewyrchu eu gofidiau ynghylch eu gallu i oroesi yn y tymor byr. Mae rhai o'r pryderon hyn yn weithredol, fel yr angen i sicrhau fod gan weithwyr gofal y cyfarpar diogelwch personol cywir, a mynediad i wasanaethau profi priodol. Fodd bynnag, ceir hefyd bryderon uniongyrchol a brys iawn ynghylch y costau cynyddol y maent yn eu hwynebu, a'r effaith y bydd hyn yn ei chael ar eu llif arian.

Mae gan awdurdodau lleol bryderon hefyd am yr amrediad o alwadau sy'n cael eu gwneud ar y £40 miliwn o gyllid COVID-19 ar gyfer gofal cymdeithasol, y gwnaeth Llywodraeth Cymru sicrhau ei fod ar gael iddynt, a'r angen i fonitro'r costau ychwanegol yr eir iddynt yn ofalus er mwyn cefnogi darparwyr gofal cymdeithasol i oedolion.

Mae llawer o awdurdodau wedi cymryd camau gweithredu yn barod er mwyn rhoi cymorth i ddarparwyr i dalu'r costau ychwanegol y maent yn eu hwynebu'n lleol ac i reoli heriau llif arian. Mae'r canllawiau i gomisiynwyr a gyhoeddwyd ar y cyd ar ddiwedd mis Mawrth wedi helpu i hwyluso'r broses gymorth honno.

Rydym yn gobeithio y bydd y wybodaeth ynghylch graddfa a natur yr heriau a chyfleoedd a amlinellir yn y canllawiau hyn yn helpu cynghorau, nad ydynt eto wedi gallu cytuno ar ba lefel o gymorth ychwanegol dros dro y bydd darparwyr yn eu hardal leol ei hangen, i ddod o hyd i'r tir cyffredin hwnnw.

Mae llywodraeth leol yng Nghymru yn rhoi ei chefnogaeth lawn i'r Fframwaith Moesegol ar gyfer Gofal Cymdeithasol, y mae pedair gweinyddiaeth y DU wedi cytuno iddo ar y cyd. Dylai’r holl drafodaethau am gomisiynu gwasanaethau fod yn seiliedig ar y gwerthoedd allweddol a amlinellir yn y fframwaith, sef: 

  • Parch
  • Bod yn rhesymol
  • Lleihau niwed
  • Bod yn gynhwysol
  • Atebolrwydd
  • Hyblygrwydd
  • Bod yn gymesur
  • Cymuned

Er bod y digwyddiadau ac amgylchiadau a gynhyrchwyd gan y pandemig wedi symud yn gyflym, ac wedi bod yn annisgwyl mewn rhai achosion, yr hyn sydd wedi parhau i fod yn sefydlog a chyson yw'r amcanion polisi trosfwaol ac egwyddorion dylunio a amlinellwyd yn Cymru Iachach, ynghyd â'r cyfathrebu agored, diffuant a thryloyw sy'n ofynnol er mwyn meithrin y cydberthnasau cadarn hynny.

Rydym yn gobeithio y bydd comisiynwyr yn gwneud defnydd llawn o'r canllawiau er mwyn cefnogi eu darparwyr drwy'r argyfwng hwn, fel y gallwn  symud ymlaen yn gryfach gyda'n gilydd.

 

Nicola Stubbins
Llywydd, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS) Cymru 
 

Cllr Huw David
Llefarydd dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

                                                                                                           

 

 

  • Awdur: ADSS Cymru and WLGA
  • Dyddiad: 22/06/2020