LAWRLWYTHO PDF I BRINTIO

Mae Darparwyr Gofal Cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol wrth amddiffyn a gofalu am y dinasyddion sydd fwyaf mewn perygl yn ein cymunedau. Mae'r rhain yn amseroedd heriol ac mae arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gwerthfawrogi popeth rydych chi'n ei wneud i gadw pobl yn ddiogel.

Dylid darllen y ddogfen hon ar y cyd â'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a Llywodraeth Cymru.

Nod y briff hwn yw rhoi gwybod i ddarparwyr am y diweddariadau diweddaraf, darparu cyngor ac ymateb i ymholiadau cyffredinol.

Pwnc

Manylion

Dolen

 

Cronfa Cadernid Economaidd

Darparwyr Gofal Cymdeithasol – Mae’r Gronfa Cadernid Economaidd wedi'i sefydlu i gynorthwyo busnesau trwy'r cyfnod anodd hwn.

I adolygu'ch cymhwysedd ar gyfer y cronfeydd hyn a gwneud cais, neu i gael rhagor o wybodaeth, arweiniad a chefnogaeth, ewch i wefan Business Wales.

https://businesswales.gov.wales
/coronavirus-advice/cy

 

Llywodraeth Cymru

Animeiddiad - Teclyn Asesu Risg y Gweithlu COVID-19 Cymru Gyfan

Mae Teclyn Asesu Risg y Gweithlu COVID-19 Cymru Gyfan wedi cael ei ddylunio i fod yn addas i’r holl staff iechyd a gofal cymdeithasol ei ddefnyddio. Mae’r Teclyn yn eich helpu i ystyried eich ffactorau risg personol mewn perthynas â COVID-19 a beth allwch chi ei wneud i’ch helpu i gadw’n ddiogel.

Mae'r animeiddiad hwn yn helpu i egluro sut mae'r teclyn yn gweithio.

Animeiddiad: https://youtu.be/rQdLZiNqT2U

Cyswllt I’r teclyn: https://llyw.cymru/adnodd
-asesu-risg-covid-19-gweithlu

Canllawiau - Cyfleusterau profi coronafeirws rhanbarthol

Mae capasiti profi Cymru wedi’i gefnogi gan rwydwaith helaeth o gyfleusterau ledled y wlad.

https://llyw.cymru/cyfleusterau-profi
-coronafeirws-rhanbarthol

Canllawiau - Gwneud cais i gael prawf coronafeirws

Cael prawf i ddarganfod a oes gennych coronafeirws.

https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-
gael-prawf-coronafeirws

Canllawiau - Profion gwrthgyrff: coronafeirws (COVID-19)

Esbonio profi am wrthgyrff ar gyfer COVID-19 gan gynnwys na all ddweud wrth bobl os oes ganddynt imiwnedd.

https://llyw.cymru/profion-gwrthgyrff
-coronafeirws-covid-19

Profi am y coronafeirws: diweddariadau wythnosol

Yn cynnwys y nifer a chanlyniadau profion y coronafeirws a ble cawsant eu profi.

https://llyw.cymru/profi-am
-coronafeirws-diweddariadau

Canllawiau - Gwneud cais i gael prawf coronafeirws

Cael prawf i ddarganfod a oes gennych coronafeirws.

https://llyw.cymru/gwneud-cais
-i-gael-prawf-coronafeirws

Canllawiau COVID-19 ar gyfer gofalwyr di-dâl – Cyfarpar Diogelu Personol (PPE)

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i unrhyw un sy'n darparu gofal personol rheolaidd i ffrind neu berthynas agored i niwed. Mae'r canllaw yn esbonio'r sefyllfaoedd lle mae gofalwyr di-dâl:

• efallai y bydd angen defnyddio PPE

• lle gallant gael gafael ar PPE

• sut i ddefnyddio PPE yn ddiogel.

https://llyw.cymru/canllawiau-covid
-19-ar-gyfer-gofalwyr-di-dal-
cyfarpar-diogelu-personol-ppe

 

Ymweliadau i gartrefi gofal: canllawiau i ddarparwyr

Canllawiau i ddarparwyr cartrefi gofal ar gyfer oedolion a phlant ar sut i alluogi ymwelwyr i ymweld yn ddiogel yn ystod pandemig coronafeirws.

https://llyw.cymru/ymweliadau-i-
gartrefi-gofal-canllawiau-i-ddarparwyr

Datganiad ysgrifenedig: Cyfraniad myfyrwyr nyrsio a bydwreigiaeth yn ystod y pandemig

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn diolch  holl fyfyrwyr a ddaeth ymlaen i gefnogi gwasanaethau iechyd a gofal.

https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig
-cyfraniad-myfyrwyr-nyrsio-
bydwreigiaeth-yn-ystod-y-pandemig

Hunanynysu: canllawiau aros gartref i aelwydydd â coronafeirws posibl

Sut i hunanynysu ac edrych ar ôl eich hun yn y tŷ os oes haint coronafeirws posibl yn eich cartref.

https://llyw.cymru/hunanynysu-
canllawiau-aros-gartref-i-
aelwydydd-coronafeirws-posibl

                                                                                                 

Canllawiau ar warchod ac amddiffyn pobl a ddiffinnir ar sail feddygol fel rhai eithriadol o agored i niwed yn sgil y coronafeirws (COVID-19)

Gwybodaeth ar gyfer gwarchod ac amddiffyn pobl a ddiffinnir ar sail feddygol fel rhai eithriadol agored in niwed yn sgil COVID-19.

https://llyw.cymru/canllawiau-
ar-warchod-ac-amddiffyn-pobl-ddiffinnir
-ar-sail-feddygol-fel-rhai-
eithriadol-o-agored-0

 

Creu Catrefi Estynedig fel bod teuluoedd yn cael dod at ei gilydd eto

Bydd Prif Weinidog Cymru yn cyhoeddi heddiw [dydd Llun Mehefin 29] y bydd pobl o ddau gartref ar wahân yn gallu dod at ei gilydd i ffurfio un cartref estynedig.

https://llyw.cymru/creu-catrefi-estynedig
-fel-bod-teuluoedd-yn-cael-dod-ei-gilydd-eto

Canllawiau - Olrhain cysylltiadau: cymorth ar gyfer gweithwyr a’r hunangyflogedig

Cymorth i bobl sy'n hunanynysu.

https://llyw.cymru/olrhain-cysylltiadau
-cymorth-ar-gyfer-gweithwyr-
hunangyflogedig

Gwiriad olrhain cysylltiadau dyddiol: symptomau, canllawiau a chymorth

Dilynwch y canllawiau os rydych wedi cael eich cysylltu gan Gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru.

https://llyw.cymru/gwiriad-olrhain-
cysylltiadau-dyddiol-symptomau
-canllawiau

Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Mae digon o amser ar ôl ichi gymryd rhan yn Arolwg Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru!

 

Rydym wedi bod yn casglu sylwadau a phryderon gan bobl hŷn sy’n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol a’r bobl sy’n eu cynorthwyo. Y nod yw datblygu cynllun ar gyfer ymchwil gofal cymdeithasol a fydd yn galluogi pobl hŷn yng Nghymru i fyw bywydau hapusach a mwy boddhaus.


Rydym am glywed gan fwy o ymarferwyr sy’n darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol a chymorth ar gyfer pobl 65 oed ac yn hŷn yng Nghymru, gan gynnwys:

  • Pobl sy’n gweithio mewn cartrefi gofal neu mewn tai â chymorth, a darparwyr gofal cymunedol
  • Gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol sy’n gweithio i awdurdodau lleol a chwmnïau preifat, megis gweithwyr gofal, gweithwyr cymdeithasol, therapyddion galwedigaethol ac eiriolwyr
  • Uwch-reolwyr ac arweinwyr polisi ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol
  • Pobl sy’n gweithio mewn sefydliadau trydydd sector a grwpiau cymunedol, gan gynnwys gwirfoddolwyr sy’n rhoi gofal a chymorth i bobl hŷn a gofalwyr di-dâl.
  • Cynorthwywyr personol

Nid oes angen ichi wybod dim am waith ymchwil fel y cyfryw – rydym yn awyddus i gael gwybod eich barn ac am eich profiadau.

Beth yw’r heriau yr ydych yn eu hwynebu wrth wneud eich gwaith? Pa bethau sy’n gweithio’n dda yn eich barn chi? Sut gallwn ni wella’n ffordd o ddarparu cymorth a gofal i bobl hŷn?  

Mae’r arolwg hwn yn ddienw, ac ni fydd ond yn cymryd 10 munud i’w gwblhau.

I gymryd rhan, ewch i https://www.ymchwiliechydagofal
.llyw.cymru/newyddion////gosod-y-blaenoriaethau-
ar-gyfer-ymchwil-gofal-cymdeithasol-yng-nghymru/
?force=2

 

 

 

 

 

 

 

Gofal Cymdeithasol Cymru

Porth swyddi Gofalwn.Cymru

 

Cyflogwyr gofal cymdeithasol: rydym am helpu i fynd i'r afael â phrinderau staff y gallech fod yn eu hwynebu ar hyn o bryd. I'ch helpu i ddod o hyd i'r bobl gywir i lenwi'ch swyddi gwag a chefnogi'ch busnes, rydym wedi creu porth swyddi a fydd yn rhestru'r swyddi gofal cymdeithasol presennol yng Nghymru.

Postiwch eich swyddi gwag ar Twitter gan gynnwys y manylion canlynol:

  • teitl y swydd
  • awdurdod lleol (os yw'r swydd yn cwmpasu mwy nag un awdurdod, dylech gynnwys pob un)
  • disgrifiad cryno o'r rôl
  • hashnod: #SwyddiGofalwnCymru (mae'n rhaid i chi gynnwys hwn) 

Rydym hefyd yn gofyn am cynnal arolwg i ddeall agweddau pobl tuag at y sectorau gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar a gofal plant.

https://www.gofalwn.cymru/

 

 

I gwblhau’r arolwg: https://wh1.snapsurveys
.com/s.asp?k=158982007929

 

  • Awdur: ADSS Cymru & Partners
  • Dyddiad: 01/07/2020