LAWRLWYTHO PDF I BRINTIO

Mae Darparwyr Gofal Cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol wrth amddiffyn a gofalu am y dinasyddion sydd fwyaf mewn perygl yn ein cymunedau. Mae'r rhain yn amseroedd heriol ac mae arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gwerthfawrogi popeth rydych chi'n ei wneud i gadw pobl yn ddiogel.

Dylid darllen y ddogfen hon ar y cyd â'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a Llywodraeth Cymru.

Nod y briff hwn yw rhoi gwybod i ddarparwyr am y diweddariadau diweddaraf, darparu cyngor ac ymateb i ymholiadau cyffredinol.

 

Pwnc

Manylion

Dolen

ADSS Cymru

Gweminar ar y Canllawiau ar Gymorth ar gyfer Darparwyr a Gomisiynir

Dyddiad: Dydd Iau 16 Gorffennaf, 11am-12pm

Wedi'i chynnal gan ADSS Cymru mewn cysylltiad â'r Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru

Mae'r Canllawiau ar Gymorth ar gyfer Darparwyr a Gomisiynir wedi datblygu yn ystod y broses o reoli'r argyfwng COVID-19 ac fe'u lluniwyd i grynhoi'r pwysau a roddir ar ddarparwyr gofal cymdeithasol i blant, pobl ifanc ac oedolion o ganlyniad i'r pandemig, ac i archwilio'r ffyrdd posibl y gallai comisiynwyr eu lliniaru.

Mae'r weminar hon, a gynhelir gan ADSS Cymru, yn gyfle i gomisiynwyr a darparwyr archwilio'r egwyddorion craidd a'r gwerthoedd sy'n sail i'r canllawiau; archwilio rhywfaint o'r cyngor gweithredol technegol a sut y caiff ei ddarparu'n ymarferol; a gwrando ar lais y darparwr, er mwyn deall yr heriau a'r cyfleoedd sy'n bodoli, trwy trefniadau bartneriaethau comisiynu cydlynol ac aeddfed, wrth i ni symud tuag at gam newydd o ran rheoli'r feirws.

Cofrestrwch er mwyn mynychu'r weminar:

 

Cyswllt i'r webinar

 

Cyswllt i'r rhaglen

Y Senedd

Ymchwiliad i effaith Covid-19, a’r modd y mae’n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru: Adroddiad 1

Gwnaeth Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon cynnal ymchwiliad i effaith Covid-19, a'r modd y mae'n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Gyhoeddwyd y pwyllgor eu adroddiad cyntaf yng Ngorffennaf 2020.

Cyswllt i'r adroddiad

Gofal Cymdeithasol Cymru / Cydffederasiwn GIG Cymru

Mae’n iawn fod yn optimistaidd am ein harwyr iechyd a gofal cymdeithasol

Mae ein Prif Weithredwr Sue Evans wedi ysgrifennu post blog ar gyfer gwefan Conffederasiwn y GIG lle mae’n rhannu ei balchder yng ngweithlu gofal cymdeithasol Cymru a’r gwerth a ddangoswyd ganddynt gyda’u hymateb i Covid-19. Yn y darn, mae hi hefyd yn galw am arweinyddiaeth gref i sicrhau bod y gydnabyddiaeth yma o werth yn arwain at gydraddoldeb parch â’u cydweithwyr yn y GIG.

Cyswllt i'r blog

 

(Saesneg yn unig)

Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Mae digon o amser ar ôl ichi gymryd rhan yn Arolwg

Ymchwil

Iechyd a Gofal Cymru! 

 

Rydym wedi bod yn casglu sylwadau a phryderon gan bobl hŷn sy’n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol a’r bobl sy’n eu cynorthwyo. Y nod yw datblygu cynllun ar gyfer ymchwil gofal cymdeithasol a fydd yn galluogi pobl hŷn yng Nghymru i fyw bywydau hapusach a mwy boddhaus. 

Rydym am glywed gan fwy o ymarferwyr sy’n darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol a chymorth ar gyfer pobl 65 oed ac yn hŷn yng Nghymru, gan gynnwys: 

  • Pobl sy’n gweithio mewn cartrefi gofal neu mewn tai â chymorth, a darparwyr gofal cymunedol

  • Gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol sy’n gweithio i awdurdodau lleol a chwmnïau preifat, megis gweithwyr gofal, gweithwyr cymdeithasol, therapyddion galwedigaethol ac eiriolwyr

  • Uwch-reolwyr ac arweinwyr polisi ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol

  • Pobl sy’n gweithio mewn sefydliadau trydydd sector a grwpiau cymunedol, gan gynnwys gwirfoddolwyr sy’n rhoi gofal a chymorth i bobl hŷn a gofalwyr di-dâl.

  • Cynorthwywyr personol

Mae’r arolwg hwn yn ddienw, ac ni fydd ond yn cymryd 10 munud i’w gwblhau. Bydd yn cau ar Dydd Llun 13 Gorffennaf.

I gymryd rhan, ewch i https://www.y mchwiliechyda gofal.llyw.cym ru/newyddion ////gosod-yblaenoriaetha u-ar-gyferymchwil-gofalcymdeithasolyngnghymru/?forc

e=2

 

 

 

 

Llywodraeth Cymru

Ymweliadau i gartrefi gofal: canllawiau i ddarparwyr

Canllawiau i ddarparwyr cartrefi gofal ar gyfer oedolion a phlant ar sut i alluogi ymwelwyr i ymweld yn ddiogel yn ystod pandemig coronafeirws.

Cyswllt i'r ganllawiau

Pen-blwydd GIG 72

Mae'r Gweinidog Iechyd wedi ysgrifennu llythyr agored ar drothwy pen-blwydd y GIG yn 72nd, yn myfyrio ar y pandemig coronafeirws yng Nghymru.

Cyswllt i'r llythyr agored

Canllawiau ar adael eich cartref a gweld pobl eraill

O 6 Gorffennaf 2020 ymlaen, mae'r rheolau wedi'u llacio ymhellach sy'n golygu y cewch chi:

Ffurfio aelwyd estynedig gydag un aelwyd arall, gan gynnwys yr hawl i aros yn yr aelwyd honno dros nos.

Teithio y tu hwnt i'ch ardal leol ar gyfer unrhyw ddiben.

Gyswllt i ganllawiau ar adael eich cartref

 

Cyswllt i ganllawiau ar-aelwydydd estynedig

 

Cyswllt i aelwydydd estynedig cwestiynau cyffredin

Adolygiad o fesurau'r cyfyngiadau symud a chyfyngiadau diogelu iechyd

Y Prif Weinidog yn gwneud datganiad ar yr adolygiad o'r cyfyngiadau symud (6 Gorffennaf 2020)

Cyswllt i datganiad ysgrifennedig ar adolygiad fesurau'r cyfyngiadau symud

 

CAFCASS gwybodaeth i blant a phobl ifanc ynghylch COVID-19

Canllawiau i bobl ifanc ynghylch sut y gallai pandemig y coronafeirws effeithio achosion llys.

 

Cyswllt i wybodaeth CAFCASS

 

Fframwaith Gweithredu GIG Cymru COVID-19

Fframwaith gweithredu i helpu’r GIG ddarparu gwasanaethau iechyd hanfodol yn ystod COVID-19.

Cyswllt i Fframwaith Gwithredu GIG Cymru COVID-19

 

Canllawiau rhyddhau o’r ysbyty

Rhaid i bartneriaid iechyd, gofal cymdeithasol, trydydd sector ac annibynnol yng Nghymru ddilyn y canllawiau rhyddhau hyn.

Cyswllt i canllawiau rhyddhau o'r ysbyty

 

Darparu toiledau mwy diogel i’r cyhoedd

Canllawiau i reoli toiledau a ddefnyddir gan y cyhoedd yn ddiogel yn ystod pandemig y coronafeirws.

Cyswllt i doiledau mwy diogel

Cynllun Yswiriant Bywyd

Cafodd y cynllun hwn ei gyhoeddi gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Ebrill.

Mae'r cynllun hwn bellach ar agor ac yn darparu taliad o £60,000 i fuddiolwyr staff iechyd a gofal cymdeithasol y gellir priodoli eu marwolaeth i'r coronafeirws a'u cyflogaeth.

Mae manylion llawn am gymhwysedd a sut y gellir gwneud hawliad ar gael ar y ddolen sy'n atodedig.

Cyswllt i'r datganiad

 

Cyswllt i'r ganllawiau

 

Canllawiau Hawdd eu Deall – Cyngor ar warchod

Mae Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru wedi cyhoeddi diweddariad ar y cyngor ar warchod, mewn fformat hawdd ei ddeall.

Cyngor cysgodi i Gymru tan 16 Awst 2020 Datganiad hawdd ei

Canllawiau Hawdd eu Deall - Beth sy’n digwydd pan gewch brawf am y coronafeirws

Esboniad hawdd ei ddarllen o pryd i gael eich profi a beth fydd y GIG yn gofyn os fyddwch yn cael prawf positif.

 

Pan gewch chi brawf am y coronafeirws (COVID-19) (hawdd ei ddeall)

Canllawiau Hawdd eu Deall - Gwneud prawf coronafeirws Ar gyfer pobl sy’n gadael yr ysbyty ac yn mynd i gartref gofal neu gartref byw gyda chefnogaeth

Fersiwn hawdd ei deall o sut y dylai systemau a darparwyr iechyd a gofal newid eu trefniadau rhyddhau a'r broses o ddarparu cymorth i'r gymuned yn ystod sefyllfa'r coronafeirws.

 

 

Cael prawf coronafeirws ar ol bod yn yr ysbyty hawdd ei ddeall

 

Adsefydlu

Canllawiau ar anghenion adsefydlu pobl y mae sefyllfa’r pandemig coronafeirws wedi effeithio arnynt.

Cyswllt i ganllawiau ar adsefydlu

Gwasanaethau Meddygol Sylfaenol ar gyfer cartrefi gofal - Cyfarwyddydau

Mae’r Cyfarwyddydau yn darparu bod modd i feddygon teulu gyflenwi gwasanaethau i drigolion cartrefi gofal yn ystod y pandemig COVID-19.

Gwasanaethau meddygol sylfaenol - gwasanaethau ychwanegol

Hawolgaethau ariannol byrddau iechyd lleol – gwasanaethau ychwanegol

Cyfarwyddydau i fyrddau iechyd lleol ar ddiwygiadau i’r contract gwasanaethau meddygol cyffredinol.

 

Hawlogaethau byrddiau iechyd lleol - gwasanethau ychwanegol

Gweithwyr hanfodol (allweddol) y coronafeirws: cymhwysedd prawf

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu rhestr o'r holl weithwyr hanfodol sy'n gymwys i'w profi.

Cyswllt i weithwyr hanfodol - cymhwysedd prawf

Canllawiau ar gwarchod

Gwybodaeth ar gyfer gwarchod ac amddiffyn pobl a ddiffinnir ar sail feddygol fel rhai eithriadol agored in niwed yn sgil COVID-19.

Cyswllt i ganllawiau ar warchod

Llythyr gan y Prif Swyddog Meddygol i bobl agored i niwed

Gwybodaeth i’r bobl sydd mewn perygl mawr iawn o fynd yn ddifrifol wael gyda’r coronfafeirws.

Cyswllt i lythyr y prif swyddog meddygol

Gwerthuso effaith gwasanaethau adsefydlu ar ôl COVID-19

Canllawiau ar werthuso effaith gwasanaethau adsefydlu i helpu pobl sydd wedi'u heffeithio gan COVID-19.

Cyswllt i'r ganllawiau

Dileu £470M o ddyled y GIG

Mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi dileu'r £470m sy'n ddyledus gan gyrff GIG Cymru fel y gallan nhw ganolbwyntio ar adfer o bandemig COVID-19.

Cyswllt i'r gyhoeddiad

Ymestyn ymgyngoriadau fideo i wasanaethau fferylliaeth, optometreg a deintyddiaeth yng Nghymru

Mae’r Gweinidog Iechyd wedi cyhoeddi heddiw (dydd Mawrth 7 Gorffennaf) y bydd ymgyngoriadau fideo yn cael eu hymestyn i bractisau deintyddol, i optegwyr ac i fferyllfeydd cymunedol. Daw hyn ar ôl cyflwyno’r gwasanaeth yn llwyddiannus mewn gofal sylfaenol, gofal cymunedol a gofal eilaidd yn ystod y pandemig coronafeirws.

Cyswllt i'r gyhoeddiad

Rhaglenni imiwneiddio

Datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Iechyd ar y rhaglenni imiwneiddio.

Cyswllt i'r datganiad ysgrifennedig

Rheoliadau: Cwestiynau cyffredin

Beth allwch chi a busnesau ei wneud yn ystod yr argyfwng a beth sy'n digwydd os byddwch yn torri'r deddfau newydd hyn.

Cyswllt i'r ganllawiau ar rheoliadau

Canllawiau'r Gweithle y Coronafeirws

Sut i weithio'n ddiogel yn ystod pandemig COVID-19

Canllawiau ar swyddfeydd a chanolfannau cyswllt

 

Canllawiau ar adeiladu neu gweithio ty fas

Gofal Cymdeithasol Cymru

Porth swyddi Gofalwn.Cymru

 

Cyflogwyr gofal cymdeithasol: rydym am helpu i fynd i'r afael â phrinderau staff y gallech fod yn eu hwynebu ar hyn o bryd. I'ch helpu i ddod o hyd i'r bobl gywir i lenwi'ch swyddi gwag a chefnogi'ch busnes, rydym wedi creu porth swyddi a fydd yn rhestru'r swyddi gofal cymdeithasol presennol yng Nghymru.

Postiwch eich swyddi gwag ar Twitter gan gynnwys y manylion canlynol:

  • teitl y swydd
  • awdurdod lleol (os yw'r swydd yn cwmpasu mwy nag un awdurdod, dylech gynnwys pob un)
  • disgrifiad cryno o'r rôl
  • hashnod: #SwyddiGofalwnCymru (mae'n rhaid i chi gynnwys hwn) 

https://www.gofalwn.cymru/

 

 

  • Awdur: ADSS Cymru & Partners
  • Dyddiad: 08/07/2020