LAWRLWYTHO PDF I BRINTIO

Mae Darparwyr Gofal Cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol wrth amddiffyn a gofalu am y dinasyddion sydd fwyaf mewn perygl yn ein cymunedau. Mae'r rhain yn amseroedd heriol ac mae arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gwerthfawrogi popeth rydych chi'n ei wneud i gadw pobl yn ddiogel.

Dylid darllen y ddogfen hon ar y cyd â'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a Llywodraeth Cymru.

Nod y briff hwn yw rhoi gwybod i ddarparwyr am y diweddariadau diweddaraf, darparu cyngor ac ymateb i ymholiadau cyffredinol

 

Datganiadau a Newyddion Llywodraeth Cymru

£40 miliwn ychwanegol i gefnogi gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru

  • Diben y cyllid hwn yw helpu i gynorthwyo awdurdodau lleol i fynd i'r afael â'r costau gofal cymdeithasol ychwanegol o ganlyniad i COVID-19. Bydd hyn yn cynnwys gwariant ychwanegol y mae darparwyr yn mynd ar eitemau fel cynnydd yng nghostau staff, mwy o staff asiantaeth (heb cynnwys nyrsiau), cynyddiad glanhau a rheoli clefydau.
  • Mae wedi'i neilltuo ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion ac wedi'i gynnwys yng 'nghronfa galedi' COVID-19 y llywodraeth leol a sefydlwyd yn ddiweddar. Ei ddiben yw sicrhau y gall darparwyr gofal cymdeithasol barhau â’u darpariaeth gofal a'u bod yn gallu ymateb i unrhyw alw ychwanegol am ofal sy'n codi. Bydd y dyraniad hwn yn cael ei fonitro'n agos er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i allu gwneud hyn.
  • Mae manylion pellach newydd gael eu cyhoeddi i gynrychiolwyr darparwyr ac awdurdodau lleol ac maent i'w gweld yn yr e-bost sydd ynghlwm.  Os yw unrhyw ddarparwr gofal i oedolion yn wynebu costau o'r fath, dylai drafod hyn â'r awdurdod lleol sy'n ei gomisiynu. Er bod y cyhoeddiad hwn yn ymwneud â gofal cymdeithasol i oedolion, bydd y sefyllfa o ran gofal i blant hefyd yn cael ei monitro.

 

40 miliwn i gofal cymdeithasol

 

https://llyw.cymru/ps40m-ychwanegol-i-gefnogi-gofal-cymdeithasol-i-oedolion-yng-nghymru

 

Datganiad Ysgrifenedig: Coronafeirws (COVID-19) – Diweddariad ar Warchod Pobl

  • Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi gwneud Datganiad Ysgrifenedig ynglŷn â’r 21,000 o gleifion sydd wedi’u hychwanegu at y Rhestr o Gleifion a Warchodir yng Nghymru.
  • Byddant yn cael llythyr gan y Prif Swyddog Meddygol yn y dyddiau nesaf.

https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-coronafeirws-covid-19-diweddariad-ar-warchod-pobl

Llythyr y Prif Swyddog Meddygol i bobl agored i niwed: esboniad o’r cymorth

Canllawiau wedi’u diweddaru ynglŷn â’r trefniadau gwarchod yn sgil y cyhoeddiad bod 21,000 o gleifion wedi’u hychwanegu at y Rhestr o Gleifion a Warchodir yng Nghymru.

https://llyw.cymru/llythyr-y-prif-swyddog-meddygol-i-bobl-agored-i-niwed-esboniad-or-cymorth

Llythyr ar gyfer gofalwyr di-dâl i gael gafael ar feddyginiaethau ledled Cymru

Mae’n gallu bod yn anodd i weithwyr proffesiynol adnabod gofalwyr. Er mwyn brwydro yn erbyn hyn, mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, Gofalwyr Cymru a Llywodraeth Cymru wedi datblygu llythyr ar gyfer gofalwyr o bob oedran sy’n esbonio pam y gallai fod angen cefnogaeth a dealltwriaeth ychwanegol arnyn nhw. Bydd y llythyr safonol hwn ar gael i awdurdodau lleol a gwasanaethau gofalwyr ledled Cymru i helpu mewn amgylchiadau lle nad oes yna unrhyw fodd arall o adnabod rhywun.

https://carers.org/news-and-media/news/post/39-sefydliadauan-cydweithio

Datganiad ysgrifenedig ar ofalwyr

  • Gwnaeth Julie Morgan AC, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddatganiad ysgrifenedig ddydd Llun 4 Mai, yn amlygu cymorth ar gyfer gofalwyr di-dâl ledled Cymru. 
  • Rhoddodd eglurhad o hawliau gofalwyr o dan y ddeddfwriaeth coronafeirws newydd a sut y dylai awdurdodau lleol ystyried egwyddorion allweddol wrth wneud penderfyniadau gydag unigolion a gofalwyr, yn ogystal â sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r trydydd sector, gan weithio mewn partneriaeth ag amrediad o sefydliadau.

https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-datganiad-ysgrifenedig-ar-ofalwyr

Cefnogi gofal cymdeithasol yn ystod pandemig y coronafeirws

  • Mae Llywodraeth Cymru wedi crynhoi'r amrediad o fesurau a gymerir er mwyn cefnogi'r gweithlu gwasanaethau cymdeithasol trwy'r pandemig COVID-19.
  • Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:
  • cyllid
  • cyfarpar diogelu personol
  • profion
  • rheoleiddio ac arolygu
  • gofal preswyl a gofal nyrsio
  • gwasanaethau cymorth cartref
  • diogelu a llawer mwy

https://llyw.cymru/cefnogi-gofal-cymdeithasol-yn-ystod-yr-achos-coronafeirws

Gofynion y gwasanaeth rhyddhau o'r ysbyty o ran COVID-19 (Cymru) – DIWEDDARIAD

 

 

 

  • Mae'r canllawiau (wedi diweddaru ar 30 Ebrill) nodi gofynion y gwasanaeth rhyddhau o'r ysbyty ar gyfer partneriaid iechyd a gofal cymdeithasol a phartneriaid o'r trydydd sector a'r sector annibynnol yng Nghymru a'r camau gweithredu sy'n rhaid eu cymryd ar unwaith er mwyn gwella trefniadau rhyddhau ac wrth ddarparu gofal cymunedol.
  • Mae’r cyswllt yn cynnwys
  • Diweddariad i'r canllawiau mewn perthynas â threfniadau cami-fyny a cham-i-lawr a phrofion COVID-19 cyn rhyddhau
  • Cyflwyniad gweminar.

https://llyw.cymru/gofynion-gwasanaeth-rhyddhau-or-ysbyty-covid-19

Mynediad am ddim i blatfform e-ddysgu GIG Cymru ar gyfer nyrsys sy'n gweithio mewn gofal cymdeithasol

 

  • Mae Dysgu@Cymru yn blatfform dysgu cenedlaethol gan GIG Cymru sy'n cynnal dros 350 o gyrsiau. Mae'r cyrsiau hyn ar gael i sefydliadau sy'n darparu gwasanaeth i'r sector cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys cartrefi gofal preswyl.
  • Mae amrediad eang o gyrsiau am ddim ar gael i gefnogi staff, yn enwedig yn ystod y pandemig COVID-19. Mae'r rhain yn cynnwys testunau fel atal a rheoli clefydau, a diogelu.
  • Am wybodaeth bellach am sut i greu cyfrif, gweler yr hysbyslen sydd ynghlwm.

Mynediad i platfform e-ddysgu GIG

Coronafeirws (COVID-19): Ffeithlun gwarchod

  • Ffeithlun sy'n dangos yr hyn y mae angen i bobl ei wneud os ydynt yn derbyn llythyr gwarchod gan Lywodraeth Cymru.

https://llyw.cymru/coronafeirws-covid-19-infographic-gwarchod

Gwasanaeth newydd gan wirfoddolwyr ar gyfer dosbarthu presgripsiynau i'r rheiny ar y rhestr warchod neu sy’n hunan-ynysu

Mewn ymateb i’r pandemig COVID-19, mae’r Gweinidog dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cyhoeddi trefniadau newydd, mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Fferylliaeth Genedlaethol, sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru a’r Post Brenhinol, i sicrhau bod pobl sydd ar y rhestr warchod neu sy’n hunan-ynysu yn gallu parhau i gael eu meddyginiaethau ar bresgripsiwn.

https://llyw.cymru/gwasanaeth-newydd-gan-wirfoddolwyr-ar-gyfer-danfon-presgripsiynau-i-gartrefi-unigolion-syn-cael-eu

Profion Coronafeirws (COVID-19): eich cwestiynau

Y fersiwn diweddaraf o gwestiynau ac atebion i ddeall pwy fydd yn cael eu profi am COVID-19.

https://llyw.cymru/profi-coronafeirws-covid-19-eich-cwestiynau

Llywodraeth Cymru yn ehangu profion coronafeirws mewn cartrefi gofal

Ar 2 Mai 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd yr holl drigolion a staff mewn cartrefi gofal sydd ag achosion o’r coronafeirws yn cael eu profi am y feirws bellach.

https://llyw.cymru/llywodraeth-cymru-yn-ehangu-profion-coronafeirws-mewn-cartrefi-gofal

Datganiad Ysgrifenedig: Profion y coronafeirws mewn cartrefi gofal

Datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ynglŷn â phwy fydd yn cael ei brofi mewn cartrefi gofal.

https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-profion-y-coronafeirws-mewn-cartrefi-gofal

Rheolau Coronafirws Diwygiedig: Diweddariad gan y Prif Swyddog Nyrsio

Gallai methu â mynd ar daith mewn car waethygu amodau i unigolion ag anabledd dysgu, awtistiaeth, dementia neu rai cyflyrau iechyd meddwl.

 

Ni chynhwyswyd teithiau car yn y newidiadau i'r Rheoliadau oherwydd nad yw taith car wedi'i chynnwys fel ymarfer corff.

 

Gan nad yw'r rhestr o esgusodion rhesymol a nodir yn y Rheoliad yn newid yn gynhwysfawr gellir caniatáu yr amgylchiadau uchod.

 

Dylid defnyddio teithiau car yn gynnil a chadw teithiau i ardaloedd lleol.

https://llyw.cymru/datgelu-rheolau-coronafeirws-adolygedig-ar-gyfer-cymru

 

https://llyw.cymru/rheoliadau-diogelu-iechyd-cyfyngiadau-coronafeirws-cymru-diwygio-rhif-2-2020

 

Cylchlythyr Iechyd Cymru

Canllawiau ar gyfer byrddau iechyd lleol ac Ymddiriedolaethau'r GIG ar ailddefnyddio meddyginiaeth diwedd oes mewn hosbisau a chartrefi gofal (dim ond yn ystod y pandemig COVID-19 y mae'r cyngor yn gymwys)

  • Egwyddorion ac amgylchiadau cyffredinol o ran pryd y gallai fod yn dderbyniol i ailddefnyddio meddyginiaeth

Canllawiau ar gyfer ailddefnyddio meddyginiaeth diwedd oes mewn

Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS) Cymru

Datganiad ysgrifenedig mewn perthynas â COVID-19 a phobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) ar fesurau i ddiogelu'r gweithlu gofal

  • Mae ADSS Cymru, ynghyd â chyflogwyr GIG Cymru a Llywodraeth Cymru, wedi rhyddhau datganiad ar y mesurau a gaiff eu gweithredu er mwyn diogelu'r gweithlu gofal
  • Mae'r datganiad yn dilyn datganiad Vaughan Gething, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ar 21 Ebrill ar y dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg o'r effaith y mae #COVID19 yn ei chael ar unigolion o gymunedau o bobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

https://llyw.cymru/sites/default/
files/inline-documents/2020-05/covidbamemeasurestoprotect
thehealthandsocialcareworkforcecym.pdf

 

Datganiad gan Nicola Stubbins, Llywydd ADSS Cymru, yn diolch i'r gweithlu gofal

  • Cafodd y datganiad ei ryddhau ddydd Iau 30 Ebrill ac yn unol â'r ymgyrch Clapio dros Ofalwyr.
  • Mae'r datganiad yn rhoi sicrwydd bod ADSS Cymru yn gweithio i gefnogi a diogelu'r gweithlu.

https://www.adss.cymru/en/blog
/post/message-of-thanks

Gofal Cymdeithasol Cymru

Adnoddau i gefnogi pobl sydd â dementia sydd o gymunedau o bobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig

 

  • Mae gan Meri Yaadain nifer o adnoddau defnyddiol i gefnogi pobl sydd â dementia sydd o gymunedau o bobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a'u teuluoedd, gan gynnwys cyngor ar COVID-19 a Ramadan.

www.meriyaadain.co.uk/information/

Diweddariad ar y cerdyn gweithiwr gofal cymdeithasol

 

  • Mae mwy na 23,000 o fersiynau digidol o'r cerdyn gweithiwr gofal cymdeithasol wedi'u lawrlwytho bellach.
  • Diben y cerdyn yw helpu gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru i brofi eu bod yn weithwyr allweddol yn ystod y pandemig COVID-19.  
  • Mae copïau caled o'r cerdyn wedi'u hanfon at bawb ar y Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol. Maen nhw'n cael eu hanfon at weithwyr nad ydyn nhw wedi cofrestru eto yn ddiweddarach yr wythnos hon.

https://gofalcymdeithasol.cymru/gwella-gwasanaethau/cwestiynau-cyffredin-cerdyn-gweithiwr-gofal-cymdeithasol#section-35894-anchor

Tudalennau gwe COVID-19 Gofal Cymdeithasol Cymru

 

  • Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn parhau i adolygu a diweddaru ei dudalennau gwe ar COVID-19.
  • Yn ystod yr wythnos diwethaf, rydym wedi ychwanegu gwybodaeth, cyfeiriadau ac adnoddau am y canlynol:
  • cartrefi gofal – preswyl a nyrsio
  • cymorth ar gyfer digartrefedd a chamddefnyddio sylweddau yn ystod y pandemig
  • cyfres o flogiau am COVID19.
  • Mae ein tudalennau ar COVID-19 a dementia hefyd wedi cael eu diweddaru i gynnwys mwy o adnoddau am y canlynol:
  • cyfathrebu
  • deall gofid
  • gweithgareddau a chadw'n heini.

https://gofalcymdeithasol.cymru/gwella-gwasanaethau/gwybodaeth-ac-adnoddau-ich-tywys-trwy-covid-19

 

Cadwch y dyddiad: Dydd Llun, 18 Mai (2-3pm) a dydd Mercher, 20 Mai (2-3pm)

 

  • Caiff y rhwydweithiau digidol Cwtsh cyntaf eu cynnal ar Zoom ar gyfer cefnogi cymheiriaid mewn cartrefi gofal, gan roi cyfle i reolwyr a staff cartrefi gofal gael gafael ar gyngor a rhannu syniadau a datrysiadau gyda'i gilydd.
  • Bydd yn canolbwyntio ar roi cymorth i bobl hŷn a'r rheiny sy'n byw gyda dementia.
  • Bydd y Cwtch, a hwylusir gan hwyluswyr annibynnol ac a gefnogir gan Gwella Cymru a Llywodraeth Cymru, yn:
  • cynnig gofod diogel er mwyn rhannu datrysiadau dydd i ddydd a datrys problemau
  • defnyddio arbenigedd a sgiliau o fewn y cartrefi ar draws Cymru
  • cynnig gofod ar gyfer rhoi cymorth a goruchwylio cymheiriaid
  • cyfeirio at arbenigedd pellach.

 

Hysbyseb teledu Gofalwn.Cymru yn cael ei darlledu am y tro cyntaf ar 6 Mai am 8.58pm ar ITV Cymru.

  • Mae'r hysbyseb yn rhoi sylw i'r gwaith hanfodol sy'n digwydd mewn cartrefi gofal ledled Cymru yn yr hinsawdd bresennol, a chaiff ei darlledu ar ITV rhwng 6 – 18 Mai.
  • Bydd hefyd yn ymddangos ar S4C a Channel 4 ar-lein

Datganiad i'r wasg am hysbyseb teledu GofalwnCymru

Hyrwyddwch y gwaith pwysig hwn drwy eich cyfryngau cymdeithasol:

 

Twitter: @GofalwnCymru

YouTube: GofalwnCymruCares

Facebook: GofalwnCymru

Instagram: GofalwnCymruCares

Hac Covid-19

 

Os oes gennych chi her gysylltiedig â Covid-19 rydych chi’n meddwl y gallai technoleg eich helpu gyda hi, mae hwn ar eich cyfer chi. Mae’r pandemig Covid-19 wedi gwneud i ni i gyd feddwl yn wahanol am yr hyn rydyn ni'n ei wneud a sut rydyn ni'n ei wneud.

Bydd llawer o'r rhai sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn mynd i'r afael â'r heriau o ddarparu gwasanaethau.

Bydd busnesau, prifysgolion ac eraill yn chwilio'n frwd am gyfleoedd i ddefnyddio eu sgiliau a'u gwybodaeth i ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd i gyflawni'r heriau hyn.

Mae’r digwyddiad yma yn cysylltu pobl gyda’r heriau efo’r pobl gyda’r atebion, er mwyn cael cyllideb a chefnogaeth.

http://www.m-sparc.com/cy/haciocovid

 

Arolygaeth Gofal Cymru

Cyngor diogelwch ac atal tân ar gyfer darparwyr gofal

Mae Gwasanaeth Tan ac Achub De Cymru wedi cynhyrchu cyngor diogelwch ac atal tân ar gyfer darparwyr gofal a gofal iechyd yn ystod y pandemig coronafeirws

https://www.decymru-tan.gov.uk/eich-diogelwch-a-lles/mewn-busnes/darparwyr-gofal-a-gofal-iechyd/

 

  • Awdur: ADSS Cymru & Partners
  • Dyddiad: 06/05/2020