LAWRLWYTHO PDF I BRINTIO

Mae Darparwyr Gofal Cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol wrth amddiffyn a gofalu am y dinasyddion sydd fwyaf mewn perygl yn ein cymunedau. Mae'r rhain yn amseroedd heriol ac mae arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gwerthfawrogi popeth rydych chi'n ei wneud i gadw pobl yn ddiogel.

Dylid darllen y ddogfen hon ar y cyd â'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a Llywodraeth Cymru.

Nod y briff hwn yw rhoi gwybod i ddarparwyr am y diweddariadau diweddaraf, darparu cyngor ac ymateb i ymholiadau cyffredinol.

 

Pwnc

Manylion

Dolen

Defnyddio cyfarpar diogelu personol – ar gyfer y byddar a'r rhai sydd wedi colli eu clyw

Mae Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru, yr Athro Chris Jones, wedi cyhoeddi llythyr sy'n mynd i’r afael â’r pryderon a godwyd gan sefydliadau sy’n cynrychioli’r boblogaeth fyddar a thrwm eu clyw fod defnyddio masgiau yn ystod y pandemig yn creu anawsterau i bobl wrth gael mynediad at wasanaethau iechyd a gofal.

 

Mae'r llythyr, sydd at sylw darparwyr gofal cymdeithasol, cyfarwyddwyr meddygol a chyfarwyddwyr nyrsio byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd lleol, yn cynnwys rhestr o egwyddorion allweddol ynghylch defnyddio cyfarpar diogelu personol ac yn nodi pwysigrwydd rhoi ystyriaeth i gyfathrebu'n ddiogel er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu derbyn y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sydd eu hangen arnynt.

Defnyddio cyfarpar diogelu personol – ar
gyfer y byddar a'r rhai sydd wedi colli
eu clyw - dwy-ieithog

Mae angen gwirfoddolwyr ar gyfer astudiaeth brechlyn COVID-19

 

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn recriwtio nawr ar gyfer astudiaeth brechlyn COVID-19, dan arweinyddiaeth Prifysgol Rhydychen, sy'n ceisio dod o hyd i frechlyn diogel y gellir ei ddefnyddio i greu ymatebion imiwnedd yn erbyn y feirws ac atal y clefyd.

Mae tîm yr astudiaeth yng Nghymru yn gobeithio recriwtio staff sy'n gweithio o fewn gofal cymdeithasol sy'n byw mewn ardaloedd cod post penodol yng Nghaerdydd a Chasnewydd.  

Maent yn chwilio am wirfoddolwyr iach o’r staff sy'n 18 oed ac yn hŷn sydd mewn cysylltiad â phobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth.

Dylai staff sydd â diddordeb mewn helpu i
ddod o hyd i ateb i'r pandemig COVID-19 fynd i https://covid19vaccinetrial.co.uk am
fwy o wybodaeth.

Datganiadau a Newyddion Llywodraeth Cymru

Gwasanaethau cymdeithasol plant yn ystod y pandemig COVID-19: canllawiau

 

Ar 22 Mai, ailgyhoeddwyd canllaw gweithredol diwygiedig gan Lywodraeth Cymru ynghylch darparu gofal cymdeithasol i blant ar gyfer awdurdodau lleol a phartneriaid sy'n ymwneud â diogelu plant.

Mae'r canllaw hwn yn helpu awdurdodau lleol a phartneriaid i barhau i ddarparu cefnogaeth effeithiol i blant sy'n agored i niwed ac sydd mewn perygl a phlant â phrofiad o fod mewn gofal, wrth gynnal eu dyletswyddau statudol, yn ystod argyfwng y coronafeirws.

Mae'r canllawiau diwygiedig yn nodi'r mesurau y dylid eu rhoi ar waith i leihau effaith y pandemig, gan gynnwys trin asesiadau meddygol maethu.

https://llyw.cymru/gwasanaethau-
cymdeithasol-i-blant-yn-ystod-y-
pandemig-covid-19-canllawiau-0

 

Diweddariad i’r diagram esboniadol ar gyfer hunanynysu

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru ei diagram (a gyhoeddwyd yn wreiddiol ar 21 Mawrth) sy’n esbonio sawl diwrnod y dylid aros gartref ar gyfer senarios gwahanol.

https://llyw.cymru/sites/default/
files/publications/2020-05/200522
-diagram-esboniadol-canllawiau-aros-adref.pdf

 

Canllawiau -Defnyddio’r prawf gartref coronafeirws

Sut i ddefnyddio’r prawf gartref coronafeirws os ydych yn credu bod gyda chi’r coronafeirws.

 

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd plant o dan 5 oed yn awr yn gymwys i gael eu profi hefyd, a bydd hyn hefyd yn berthnasol yng Nghymru. Byddwn yn cyhoeddi canllawiau ac yn diwygio ein polisi ar weithwyr hanfodol i adlewyrchu hyn. Bydd hyn yn golygu y gall pecynnau profi cartref gael eu darparu ar gyfer plant o dan 5 oed ledled Cymru.  

https://llyw.cymru/defnyddior-
prawf-gartref-coronafeirws

Profi am y coronafeirws: diweddariadau wythnosol

Yn cynnwys y nifer a chanlyniadau profion y coronafeirws a ble cawsant eu profi.

https://llyw.cymru/profi-am-
coronafeirws-diweddariadau-wythnosol

Canllawiau - Rhan y Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd mewn adfer iechyd yn ystod ac ar ôl COVID-19

Mae'r datganiad hwn yn amlinellu blaenoriaethau strategol cyfunol ein pedair gwlad a'n hymagwedd at arweinyddiaeth adsefydlu AHP yn ystod ac ar ôl COVID-19.

https://llyw.cymru/rhan-y-gweithwyr
-proffesiynol-perthynol-i-iechyd-
mewn-adfer-iechyd-yn-ystod-ac-ar-ol-covid-19

Lansio asesiad risg i gefnogi gweithwyr duon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig

Mae asesiad risg newydd wedi cael ei lansio i helpu i gefnogi unigolion o gefndir pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

DIWEDDARIAD 29 Mai: Mae’r Adnodd asesu risg COVID-19 ar gyfer y gweithlu nawr ar gael o wefan y Llywodraeth.

https://llyw.cymru/cefnogi-
gweithwyr-duon-ac-asiaidd-lleiafrifoedd-ethnig

 

https://llyw.cymru/adnodd-asesu-risg-covid-19-ar-gyfer-y-gweithlu

Datganiad Ysgrifenedig: Adnodd Asesu Risg COVID-19 Cymru Gyfan ar gyfer y Gweithlu

Mae Prif Weinidog Cymru yn rhoi gwybod am y dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg sy’n awgrymu bod unigolion o gefndir pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) yn cael eu heffeithio’n anghymesur gan bandemig y coronafeirws.

https://llyw.cymru/datganiad-
ysgrifenedig-adnodd-asesu-risg-ar-
gyfer-y-gweithlu

Canllawiau profi cartrefi gofal

Canllawiau a gyhoeddwyd ar ddull Llywodraeth Cymru ar gyfer profi mewn cartrefi gofal.

https://llyw.cymru/canllawiau-
profi-cartrefi-gofal

Datganiad Ysgrifenedig: Profi, Olrhain, Diogelu

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn darparu diweddariad ysgrifenedig i’r aelodau ar y cynnydd o safbwynt gweithredu ein strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu.

https://llyw.cymru/datganiad-
ysgrifenedig-profi-olrhain-diogelu

Datganiad Ysgrifenedig: Coronafeirws a hawliau pobl hŷn

Mae’r Dirprwy Weinidog Gofal Cymdeithasol wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar hawliau pobl hŷn a’r coronafeirws.

Mae’n hanfodol ein bod yn cydweithio i greu cymdeithas fwy cyfartal sy’n cynnal hawliau dynol ac yn galluogi unigolion o bob oed i wireddu eu potensial beth bynnag y bo eu cefndir neu eu hamgylchiadau.

https://llyw.cymru/datganiad-
ysgrifenedig-coronafeirws-hawliau-pobl-hyn

 

Sicrhau bod Gwasanaethau Cymunedol o’r Maint Cywir ar gyfer Rhyddhau Cleifion

Yn 2019/20, gweithiodd Uned Gyflawni GIG Cymru a’r Athro John Bolton gyda Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ar y prosiect cenedlaethol ‘Right-sizing Community Services for Discharge’. Mae’r adroddiad hwn yn rhoi trosolwg o’r canfyddiadau cenedlaethol ac yn gwneud argymhellion ar gyfer y dyfodol. Fe’i gyhoeddir nawr oherwydd bod yr argymhellion yn berthnasol i’r ymateb presennol i’r pandemig COVID-19, a bydd yn cefnogi adferiad y system yn y dyfodol.

 

Llythyr am Adroddiad Cenedlaethol
Right-sizing Community Services for Discharge

 

Saesneg yn unig: Right-sizing Community
Services for Discharge

Gofal Cymdeithasol Cymru

Buddion y cerdyn gweithiwr gofal cymdeithasol

 

Gallwch weld rhestr lawn o'r buddion sydd ar gael gyda'r cerdyn gweithiwr gofal cymdeithasol, sydd â'r nod o helpu gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru i brofi eu bod yn weithwyr allweddol, ar ein tudalennau Cwestiynau Cyffredin. Gwiriwch nôl yn rheolaidd er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf.

https://gofalcymdeithasol.cymru
/gwella-gwasanaethau/-cerdyn
-gweithiwr-gofal

Care Home Cwtch

 

Mae Care Home Cwtch yn rhwydwaith cymorth digidol newydd ar gyfer rheolwyr cartrefi gofal yng Nghymru. Mae'r Cwtch ar gyfer rheolwyr cartrefi gofal i oedolion yn unig ac mae'n cyfarfod bob dydd Mercher er mwyn:

  • cynnig lle diogel i rannu datrysiadau ymarferol o ddydd i ddydd ac i ddatrys problemau
  • defnyddio arbenigedd a sgiliau ledled Cymru o fewn cartrefi gofal
  • cynnig lle sy'n cynnig cefnogaeth a goruchwyliaeth gan gymheiriaid
  • cyfeirio at arbenigedd pellach

Cynhelir Cwtch mewn partneriaeth gan Gwelliant Cymru, Age Cymru, Cofio Dementia Training a Gofal Cymdeithasol Cymru, ac mae'n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru.

Er mwyn ymuno, e-bostiwch dementia@gofalcymdeithasol.cymru

Porth swyddi Gofalwn Cymru

 

Cyflogwyr gofal cymdeithasol: rydym am helpu i fynd i'r afael â'r broblem prinder staff y gallech fod yn ei hwynebu ar hyn o bryd. Er mwyn eich helpu i ddod o hyd i'r bobl iawn i lenwi'ch swyddi gwag a chefnogi'ch busnes, rydym wedi creu porth swyddi a fydd yn rhestru swyddi gofal cymdeithasol cyfredol yng Nghymru.

Postiwch eich swyddi gwag ar Twitter gan gynnwys y manylion canlynol:

  • teitl y swydd
  • yr awdurdod lleol (os yw'r rôl o fewn mwy nag un awdurdod, ychwanegwch bob un ohonynt)
  • disgrifiad byr o'r rôl
  • hashnod: #WeCareWalesJobs #SwyddiGofalwnCymru (mae'n rhaid i chi gynnwys y rhain)

https://www.gofalwn.cymru/?_ga=2.120067016.1518726918.1590593704-612381641.1589908947

 

 

Dolenni links / Useful links:

Gofal Cymdeithasol Cymru – tudalennau gwe COVID-19

https://gofalcymdeithasol.cymru/gwella-gwasanaethau/gwybodaeth-ac-adnoddau-ich-tywys-trwy-covid-19

Social Care Wales – Covid-19 web pages:

https://socialcare.wales/service-improvement/information-and-resources-to-guide-you-through-covid-19

ADSS Cymru – Support for Commissioned Providers

https://www.adss.cymru/en/blog/post/covid19-commissioners

ADSS Cymru – Cefnogaeth i Ddarparwyr a Gomisiynwyd

https://www.adss.cymru/cy/blog/post/covid19-commissioners

Public Health Wales, Daily 2pm Statements:

https://covid19-phwstatement.nhs.wales/

Iechyd Cyhoeddus Cymru, Datganiadau Dyddiol am 2yp:

https://covid19-phwstatement.nhs.wales/

Care Inspectorate Wales, FAQs:
https://careinspectorate.wales/coronavirus-covid-19-frequently-asked-questions-faqs

Arolygaeth Gofal Cymru, Cwestiynnau Cyffredin:

https://arolygiaethgofal.cymru/coronafeirws-covid-19-cwestiynau-cyffredin

  • Awdur: ADSS Cymru & Partners
  • Dyddiad: 28/05/2020