Yr Hyn Yr Ydym Yn Gwneud

Seminar Haf i Aelodau ADSS Cymru, ddydd Gwener, 1 Gorffennaf 2022

 

Archebwch eich tocynnau nawr trwy glicio yma.

 

Digwyddiad hybrid ar gyfer aelodau a gwesteion gwadd yw'r Seminar Haf i Aelodau ADSS Cymru, a gynhelir ym Mhrifysgol Glyndŵr, Wrecsam, ac ar-lein trwy weminar dros Zoom ar 1 Gorffennaf 2022.

 

Bydd y digwyddiad yn cynnig cyfleoedd i rwydweithio a rhannu profiadau gyda chydweithwyr, dysgu am a thrafod y datblygiadau diweddaraf ar gyfer y sefydliad a’n partneriaid strategol, a rhannu’r arferion da sydd wedi digwydd ar draws y sector gofal cymdeithasol ac iechyd dros y flwyddyn ddiwethaf.

  

Bydd y seminar yn canolbwyntio ar y gweithlu a llesiant, a fydd yn cynnwys trafodaethau, astudiaethau achos, a’r cyfle i archwilio sut y gallwch gefnogi eich hun, eich tîm, a chydweithwyr eraill.

 

Mae'r seminar yn agored i'n holl aelodau ac mae'n rhad ac am ddim. Rhaid i aelodau gofrestru i fynychu'r seminar trwy'r ddolen gofrestru Eventbrite, a restrir isod.
Mae tocynnau i fynychu'r seminar yn y cnawd wedi'u cyfyngu i 40, gyda'r holl gynrychiolwyr eraill yn mynychu ar-lein trwy weminar dros Zoom. Bydd galw mawr am y lleoedd hyn i gynrychiolwyr, felly cofrestrwch i gael mynychu cyn gynted â phosibl os ydych yn bwriadu mynychu'r seminar yn y cnawd. Os nad ydych yn gallu bod yn bresennol ar ôl cofrestru, a fyddech cystal â chanslo eich archeb fel y gall eraill fynychu yn eich lle.

Partneriaid

Welsh Government
Welsh Local Government Associates (WLGA)
Social Care Wales
Care Inspectorate Wales
Care Forum Wales
Older People’s Commissioner for Wales
ADEW