Mae Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) yn dileu'r elw o wasanaethau i blant sy’n derbyn gofal. Erbyn 2030, bydd gofal plant yng Nghymru yn symud i fodel di-elw, fel y bydd mwy o arian yn cael ei ail-fuddsoddi i gefnogi plant.
Bydd hyn yn effeithio ar y ffordd y mae awdurdodau lleol yn dod o hyd i gartrefi, ac yn eu darparu i blant a phobl ifanc yn eu gofal.
Mae ADSS Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol ledled Cymru i baratoi ar gyfer y newidiadau hyn, a’u cyflawni.
Rydyn ni’n cynnal gweminar cinio a dysgu i dimau gwasanaethau plant ledled Cymru ddydd Iau 19 Mawrth, am 12 hanner dydd.
Bydd y sesiwn yn canolbwyntio ar gwireddu gwerthoedd – yr hyn y mae dileu elw yn ei olygu o ran ymarfer, lleoliadau a chyllid Ei nod yw ymateb i rai o'r themâu y gofynnwyd amdanynt gan y rheini a ddaeth i’r weminar ddiwethaf, gan gynnwys ymdrin â chyllid, cadw’r plant a’r ymarfer yn ganolog, a mynd i'r afael ag ansicrwydd a phryder.
Manylion y digwyddiad
- Dyddiad: Dydd Iau 19 Mawrth
- Amser: 12 hanner dydd – 1.30pm
- Ymysg y siaradwyr fydd:
- Sarah Day, Arweinydd Uned Cyflenwi Busnes ADSS Cymru
- Karen Benjamin, Pennaeth Consortiwm Comisiynu Cymru ar gyfer Plant (4Cs)
- Gwilym Morris, Ymgynghorydd yn ADSS Cymru
- Joanna Harris, Rheolwr Uwch ar gyfer Gomisiynu Strategol, a Charlie Darwin, Rheolwr Uwch ar gyfer Rhiantu Corfforaethol, ill dau o wasanaethau plant Cyngor Sir Powys
- Cofrestrwch nawr (byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau – pan fyddwch chi'n ei dderbyn, bydd dolen i’r cyfarfod ar Teams yn cael ei hychwanegu'n awtomatig at eich calendr Outlook)
