Mae ADSS Cymru yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddiwygio'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i gofrestru neu ychwanegu gwasanaeth neu le plant cyfyngedig newydd yn dilyn adborth gan rai darparwyr.
Bydd y dyddiad cau newydd o 31 Mawrth 2026 yn cefnogi pontio llyfnach ac yn lleihau'r risg o darfu ar wasanaethau.
Mae cynyddu capasiti wedi'i anelu at ddiwallu anghenion plant gyda modelau gofal sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn parhau i fod yn hanfodol i sicrhau bod gan blant a phobl ifanc agored i niwed ledled Cymru fynediad at leoliadau diogel, priodol a sefydlog yn agos at gartref.
Mae ADSS Cymru wedi ysgrifennu at arweinwyr cynllunio awdurdodau lleol i amlinellu'r goblygiadau cynllunio er mwyn gwneud y mwyaf o fanteision yr amserlen estynedig hon.
Anogir darparwyr sydd angen rhagor o wybodaeth neu eglurhad i gysylltu ag Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW.removeprofit@gov.wales) neu Lywodraeth Cymru (removingprofit@gov.wales) yn y lle cyntaf.
