Cinio a gweminar dysgu dileu elw 8 Medi: ar gyfer timau gofal cymdeithasol plant
Mae Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) yn dileu elw o wasanaethau i blant sy’n derbyn gofal. Erbyn 2030, bydd gofal plant yng Nghymru yn symud i fodel nid-er-elw, fel bod mwy o arian yn cael ei ail-fuddsoddi mewn cefnogi plant.
Bydd hyn yn effeithio ar sut mae awdurdodau lleol yn dod o hyd i gartrefi i blant a phobl ifanc yn eu gofal ac yn eu darparu.
Mae ADSS Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol ledled Cymru i baratoi ar gyfer y newidiadau hyn a'u cyflawni.
Rydym yn cynnal cinio a gweminar dysgu ar gyfer timau gwasanaethau plant ledled Cymru ddydd Mawrth 8 Medi, am hanner dydd. Bydd y sesiwn yn canolbwyntio ar wasanaethau preswyl.
Manylion y digwyddiad
Dyddiad: Dydd Mawrth 8 Medi
Amser: 12pm – 1.30pm
Bydd y siaradwyr yn cynnwys:
Sarah Day, ADSS Cymru
Gwilym Morris, ADSS Cymru
Rhys Williams a Branwen Ellis, Cwmpas
Sharon Garland ac Emma Thomas, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cofrestrwch nawr (byddwch yn derbyn e-bost cadarnhau – pan fyddwch yn ei dderbyn, bydd dolen cyfarfod Teams yn cael ei hychwanegu'n awtomatig at eich calendr Outlook)
