Ym mis Mawrth, rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i Ddeddf newydd gan Senedd Cymru: Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru). Mae'n newid sut mae gwasanaethau cymdeithasol plant yn cael eu darparu trwy gael gwared ar elw preifat o wasanaethau i blant sy'n derbyn gofal. Y nod yw symud y system ofal tuag at fodel nid-er-elw erbyn 2030, gyda'r nod o wella gwasanaethau a phrofiadau plant trwy ailfuddsoddi mewn gofal.
Bydd hyn yn effeithio ar y ffordd y mae awdurdodau lleol yn dod o hyd i gartrefi i'r plant a'r bobl ifanc y mae gennym ddyletswydd i ofalu amdanynt.
Rydym yn cynnal gweminar cinio a dysgu ar gyfer timau gwasanaethau plant ledled Cymru ddydd Gwener 28 Tachwedd, am 12 hanner dydd.
Bydd y sesiwn yn canolbwyntio ar brofiadau bywyd go iawn gofalwyr maeth, pobl sy'n gadael gofal ac ymarferwyr gwaith cymdeithasol i ddangos effaith ddynol a phwysigrwydd y ddeddfwriaeth dileu elw.
Mewn ymateb i adborth o'r digwyddiad blaenorol, mae'r weminar ym mis Tachwedd wedi'i hymestyn i ganiatáu amser ar gyfer cwestiynau ac atebion.
Manylion y digwyddiad
- Dyddiad: Dydd Gwener, 28 Tachwedd
- Amser: 12hanner dydd – 1.30pm
- Bydd y siaradwyr yn cynnwys:
- Sarah Day, Arweinydd Uned Cyflawni Busnes ADSS Cymru
- Karen Williams, Rheolwr Gwasanaethau Preswyl a’r Gwasanaeth Gadael Gofal, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
- Cath a Neil Lucas, gofalwyr maeth yn Wrecsam
- Cofrestrwch nawr (byddwch yn derbyn e-bost i gadarnhau – pan fyddwch yn ei dderbyn bydd y ddolen cyfarfod Teams yn cael ei hychwanegu’n awtomatig i’ch calendr Outlook)
