Fersiwn DDRAFFT o’r Fframwaith Cymwyseddau ar gyfer y Gweithlu Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (GCCh)

Fersiwn Ddrafft 5 20.12.21

Cyflwyniad

Swyddogaethau’r ‘Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol’ (YGC) a Phersonél Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (GCCh) eraill

Mae Ymarferwyr Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymgymryd â beth yn fras a ellir ei ddisgrifio fel swyddogaeth cymorth gwaith cymdeithasol, darparu cyngor a chwblhau amrywiol agweddau o gynllunio gofal a chefnogaeth (asesu, cynllunio ac adolygu).

Mae swyddogaeth GCCh ehangach ychwanegol, o fewn y gwasanaeth GCCh.  Gall y gwasanaeth amrywio yn sylweddol yn ei  gynllun a’i seilwaith ar draws ac o fewn awdurdodau lleol.  Gall gynnwys amrediad o wahanol gyfarwyddiaethau, er enghraifft, gwasanaethau cymdeithasol, tai a gwasanaethau corfforaethol yn ogystal â darpariaeth ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd.  Mae angen i weithwyr ymateb i amrediad eang o geisiadau a nhw yw’r cyswllt cyntaf i’r rhai hynny sy’n holi ynglŷn â gofal a chefnogaeth.

Yn benodol, drwy sgyrsiau medrus, bydd gweithwyr GCCh yn egluro beth y mae pobl yn ei feddwl ac yn archwilio eu dilema er mwyn deall beth sydd o’r pwys mwyaf iddyn nhw a sut orau i’w helpu nhw drwy ddarparu un ai:

  • Awdur: ADSS Cymru
  • Dyddiad: 01/02/2022