Cynyddu'r nifer sy'n manteisio ar ofal cymdeithasol gan bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig

Rhaglen Waith Cyflawni Grant Trawsnewid - 2021/22

Gofynnodd Llywodraeth Cymru i ADSS Cymru arwain rhaglen waith i archwilio'r defnydd o ofal cymdeithasol a chymorth gan bobl o'r cymunedau lleiafrifoedd ethnig. Y diben oedd nodi'r hyn mae'n rhaid ei wneud i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar ofal, mae’r dystiolaeth yn dangos bod hyn yn llai na'r cyfartaledd ar gyfer y boblogaeth gyfan. Ariennir y rhaglen gan raglen Grant Cyflawni Trawsnewid Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22.

Mae datganiad am yr adroddiad wedi'i gyfieithu i'r un ar ddeg o ieithoedd a ddefnyddir amlaf gan gymunedau lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru, yn unol â chyngor Llywodraeth Cymru. Gellir gweld y cyfieithiadau drwy glicio ar yr hypergysylltiadau: ArabegBengaliHindiPwylegPunjabiRwsiaTsieinëeg SymlSomaliSbaenegTsieinëeg TraddodiadolWrdw.

Nod yr astudiaeth oedd datblygu dealltwriaeth ddyfnach a chliriach o'r rhwystrau a wynebir pan fydd angen gofal a chymorth ar bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig, y penderfyniadau a wnânt, a beth sy'n dylanwadu ar eu penderfyniadau. Mae'r canfyddiadau'n darparu'r sylfaen ar gyfer rhaglen weithredu gadarn i wella eu mynediad at ofal a chymorth cymdeithasol a'u defnydd ohonynt. Felly, bydd yn gyfraniad sylweddol at weithredu Cynllun Cydraddoldeb Hiliol Llywodraeth Cymru. Yn fwy penodol, ei nod oedd:

  •  Deall i ba raddau mae pobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig yn cael gofal a chymorth pan fydd ganddyn nhw angen adnabyddadwy neu wedi'i  asesu.
  •  Archwilio'r materion, gan gynnwys rhwystrau a heriau, sy'n gysylltiedig â phobl yn cael mynediad at ofal a chymorth.
  •  Nodi effaith Covid-19 ar lefelau hyder ac ymgysylltiad â'r gwasanaethau cymdeithasol.
  • Archwilio'r rhwydwaith cymorth anffurfiol a ddarperir gan ofalwyr teuluol a chyfeillgarwch, a sut mae'r rhwydwaith hwn a'r gofalwyr eu hunain  yn  cael eu cefnogi.
Hawdd ei Ddarllen
Lawrlwytho
Adolygiad Llenyddiaeth
Lawrlwytho
  • Awdur: ADSS Cymru
  • Dyddiad: 08/04/2022