LAWRLWYTHO PDF I BRINTIO

Mae Darparwyr Gofal Cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol wrth amddiffyn a gofalu am y dinasyddion sydd fwyaf mewn perygl yn ein cymunedau. Mae'r rhain yn amseroedd heriol ac mae arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gwerthfawrogi popeth rydych chi'n ei wneud i gadw pobl yn ddiogel.

Dylid darllen y ddogfen hon ar y cyd â'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a Llywodraeth Cymru.

Nod y briff hwn yw rhoi gwybod i ddarparwyr am y diweddariadau diweddaraf, darparu cyngor ac ymateb i ymholiadau cyffredinol.

 

Pwnc

Manylion

Dolen

TUC Cymru

Lansio pecyn cymorth gweithwyr hŷn TUC Cymru

 

Pa heriau sy'n wynebu gweithwyr hŷn yn y gweithle? Sut mae oedran yn effeithio ar yrfa, rhagolygon ac urddas rhywun yn y gwaith? Beth allwn ni ei wneud i ddileu rhagfarn oed a galluogi gweithwyr hŷn i gyflawni eu potensial?

Ymunwch â'n trafodaeth ar-lein ar ddydd Iau 20 Awst rhwng 1 a 2pm.

Mae'r siaradwyr yn cynnwys Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru; Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru; a gweithwyr a chanddynt brofiad byw o'r problemau sy'n wynebu pobl hŷn.

Cofrestrwch am y ddigwyddiad

 

Settled.org

Cefnogaeth i Ddinasyddion yr UE ar gael trwy Settled.org

Rhaid i ddinasyddion yr UE / AEE wneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE i fyw a gweithio yn y DU ar ôl 1 Ionawr 2021. Mae'r cynllun yn rhoi statws cyfreithiol iddynt sy'n amddiffyn eu hawliau dinasyddion ac yn eu galluogi i barhau i gael mynediad at wasanaethau lles. Os ydych chi'n gwybod am unrhyw un sydd angen cefnogaeth (cymydog, cydweithiwr, ffrind neu gleient) mae ein gwefan www.settled.org.uk

yn darparu gwybodaeth mewn 15 iaith. Mae Settled yn darparu cyngor mewn 8 iaith dros y ffôn ac mae ganddynt bresenoldeb ar Twitter a Facebook gyda Fforymau a Gweminarau mewn gwahanol ieithoedd.

 

Cyswllt yng Nghymru: Eva Plajerova - 07511 214678 neu eva@settled.org.uk

 

www.settled.org.uk

Cartref Gofal Cymru

Gwerthusiad Cwtch ar gyfer Cartrefi Gofal

Mae Gwelliant Cymru am gael eich cymorth i helpu i werthuso Cwtch ar gyfer Cartrefi Gofal, sef fforwm sy'n rhoi cyfleoedd i reolwyr cartrefi gofal rwydweithio a rhannu profiadau, syniadau am welliannau ac arfer gorau. Bydd y gwerthusiad yn helpu i gefnogi a llunio'i ddyfodol. Mae'r arolwg ar agor tan 31 Awst 2020.

Dolen i'r arolwg

Cymorth Cymru a Fforwm Cymru Gyfan

Ailgysylltu'n Ddiogel:

Opsiynau aelwydydd estynedig a Byw â Chymorth

 

Adnoddau Cymorth Cymru a Fforwm Cymru Gyfan

 

 

Ers 3 Gorffennaf, mae unigolion sy'n byw mewn aelwydydd a rennir wedi cael ymuno ag aelwyd arall i gynyddu eu cylch cymdeithasol.

 

Mae bod yn denant mewn aelwyd a rennir yn golygu bod angen i ni geisio gweithio gyda'n gilydd i sicrhau y gallwn ailddechrau gwneud y pethau sydd bwysicaf i ni, gan gynnwys gweld y bobl rydym yn eu caru, ond mewn ffordd sy'n ein helpu ni i ofalu am ein gilydd a pharchu'r bobl rydym yn byw gyda nhw a'u teuluoedd a'u ffrindiau.

Mae angen i ni gael sgyrsiau da lle'r ydym yn gwrando ar lais a dymuniadau pawb.

Rydym wedi llunio dogfen gryno gyda'r pwyntiau allweddol i'w trafod, i'w defnyddio gan bobl, darparwyr a theuluoedd wrth gael y sgyrsiau hyn.

Dolen i'r canllawiau
 

Cartrefi estynedig

 

Ailgysylltu'n ddiogel

Gofal Cymdeithasol Cymru

Amser i chi

 

Mae ‘Amser i chi’ yn rhwydwaith cymorth cymheiriaid newydd ar gyfer rheolwyr gwasanaethau gofal cartref yng Nghymru.

Bydd y rhwydwaith yn cwrdd am un awr, bob pythefnos ar Zoom am 12 wythnos. Bydd gwesteiwr annibynnol yn cwrdd â chi a byddwch chi'n ymuno â grwpiau llai lle gallwch chi rannu profiadau, trafod unrhyw faterion y byddwch chi efallai eisiau cyngor arnyn nhw, a rhannu awgrymiadau a syniadau. Bydd y grwpiau hyn yn aros yr un fath dros y 12 wythnos.

Mae'r rhwydwaith hwn wedi'i anelu at y rhai sydd â chymhwyster lefel 4 neu 5 sy'n rhedeg gwasanaethau gofal cartref neu sydd â chyfrifoldeb am reoli staff neu dimau. Cysylltwch â ni os nad ydych yn siŵr a yw hyn ar eich cyfer chi.

 

Bydd y cyfarfod cyntaf ddydd Iau, 3 Medi am 11.30am. I archebu'ch lle neu i gael mwy o wybodaeth, e-bostiwch rebecca.cicero@gofalcymdeithasol.cymru

neu hannah.williams@gofalcymdeithasol.cymru

 

Porth swyddi Gofalwn.Cymru

 

Cyflogwyr gofal cymdeithasol: rydym am helpu i fynd i'r afael â phrinderau staff y gallech fod yn eu hwynebu ar hyn o bryd. I'ch helpu i ddod o hyd i'r bobl gywir i lenwi'ch swyddi gwag a chefnogi'ch busnes, rydym wedi creu porth swyddi a fydd yn rhestru'r swyddi gofal cymdeithasol presennol yng Nghymru.

Postiwch eich swyddi gwag ar Twitter gan gynnwys y manylion canlynol:

  • teitl y swydd
  • awdurdod lleol (os yw'r swydd yn cwmpasu mwy nag un awdurdod, dylech gynnwys pob un)
  • disgrifiad cryno o'r rôl

hashnod: #SwyddiGofalwnCymru (mae'n rhaid i chi gynnwys hwn) 

https://www.gofalwn.cymru/

 

 

Llywodraeth Cymru

Diweddaru canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer cartrefi gofal a Chwestiynau Cyffredin newydd ynghylch y rheol 28 diwrnod 

Y newidiadau allweddol yw:

  • Newid y cyngor ar hunanynysu o 7 niwrnod i 10 niwrnod ar gyfer pobl nad ydynt mewn grŵp clinigol sy’n agored i niwed neu’n eithriadol o agored i niwed.
  • Diweddaru’r cyngor i bobl sy’n ymweld â lleoliadau preswyl, gan gynnwys ar gyfer plant, sy’n gyson â chanllawiau Llywodraeth Cymru i ddarparwyr cartrefi gofal ar sut i alluogi ymweliadau diogel yn ystod pandemig y coronafeirws.
  • Eglurhad ychwanegol ynghylch derbyn pobl i leoliadau preswyl o ysbytai neu fannau eraill.
  • Yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch profi’r aelwyd gyfan ac ynghylch Profi, Olrhain a Diogelu.
  • Yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y camau i’w cymryd pan fydd Cyfarpar Diogelu Personol yn methu.

 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd wedi cyhoeddi Cwestiynau Cyffredin diwygiedig i roi eglurhad pellach i wasanaethau cartrefi gofal o ran pryd y gellir tybio bod brigiad o achosion COVID-19 wedi dod i ben.

WEDI'I DIWEDDARU: Dolen i'r canllawiau 

(Saesneg yn unig ar hyn o bryd)

 

Dolen i'r Cwestiynau Cyffredin  

 

(Saesneg yn unig ar hyn o bryd)

Cyflwyno gofynion di-fwg newydd.

Diweddariad i’r Sector Gofal

Mae deddfwriaeth ysmygu newydd ar y gweill yng Nghymru a fydd yn gwneud rhai mannau awyr agored penodol megis lleoliadau gofal awyr agored ar gyfer plant, tiroedd ysgolion, tiroedd ysbytai a meysydd chwarae cyhoeddus yn ddi-fwg. Bydd y gofynion newydd yn effeithio hefyd ar y sector gofal gan y bydd ystafelloedd ysmygu dynodedig mewn cartrefi gofal oedolion neu hosbisau oedolion nawr yn cynnwys amod mai dim ond y preswylwyr fydd yn cael defnyddio’r ystafelloedd hynny.

 

Os oes gennych unrhyw sylwadau cyflwyno neu adborth ar beth fyddai’n eich helpu i weithredu’r gofynion rhowch wybod inni drwy e-bostio PolisiTybaco@llyw.cymru erbyn dydd Gwener 4 Medi 2020

 

Cyfeiriad ebost:

PolisiTybaco@llyw.cymru

Canllawiau ar gyfer gofalwyr di-dâl: coronafeirws (COVID-19)

Canllawiau i'r rhai sy'n darparu gofal di-dâl i deulu a ffrindiau.

 

Dolen i'r canllawiau

£4 miliwn o gyllid i ddarparwyr gofal plant mewn ymateb i’r Coronafeirws

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru heddiw (12 Awst) y bydd dros £4 miliwn o gyllid yn cael ei roi i gefnogi darparwyr gofal plant sydd wedi’u heffeithio gan COVID-19.

Dolen i'r cyhoeddiad

 

Gwisgo bathodyn a laniard i hyrwyddo cadw pellter cymdeithasol

Mae’r holl dempledi ar gyfer y bathodynnau/posteri ar gael i’w lawrlwytho ynghyd â chanllawiau dylunio a phecynnau cyfathrebu ar gyfer sefydliadau.

Dolen i'r canllawiau

Gwirfoddoli yn ystod pandemig y coronafeirws

Sut allwch chi helpu pobl agored i niwed regus yn diogel yn ystod pandemig y coronafeirws.

 

Dolen i'r canllawiau

Strategaeth profi COVID-19

Ein strategaeth ar gyfer profi am COVID-19 yng Nghymru

 

Dolen i'r strategaeth

Hwb mawr i amseroedd canlyniadau profion COVID-19 yng Nghymru

Mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cyhoeddi bron i £32m i gyflymu’r amseroedd rhoi canlyniadau.

 

Dolen i'r cyhoeddiad

 

Dolen i'r datganiad

 

Cadw cofnodion ynghylch staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr: profi, olrhain, diogelu

Canllawiau a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 13 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020.

 

Dolen i'r canllawiau

Cyfyngiadau teithio hanfodol i’w codi ar drafnidiaeth gyhoeddus

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd y cyfyngiad sy’n golygu mai teithio hanfodol yn unig a ganiateir ar drafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei godi o ddydd Llun, 17 Awst, gan olygu y bydd mwy o deithwyr yn gallu teithio ar drenau a bysiau.

 

Dolen i'r cyhoeddiad

Teithio'n ddiogel (coronafeirws): canllawiau i'r cyhoedd

Sut i fod yn ddiogel wrth gerdded, beicio a theithio mewn cerbydau neu ar drafnidiaeth gyhoeddus yn ystod pandemig y coronafeirws.

 

https://llyw.cymru/teithion-ddiogel-coronafeirws-canllawiau-ir-cyhoedd

Cael bwyd a chyflenwadau hanfodol yn ystod pandemig y coronafeirws

Sut allwch chi gael bwyd a chyflenwadau hanfodol os ydych yn gwarchod, hunanynysu neu yn weithiwr hanfodol.

 

Dolen i'r canllawiau

Cwmni Peirianneg Brother â chynlluniau i wneud hanner miliwn o fasgiau bob dydd

Mae cwmni peirianneg o Abertawe wedi addasu’r ffordd mae’n gweithio ac mae bellach yn gwneud masgiau llawfeddygol, gan greu swyddi newydd ac ategu ymdrechion Llywodraeth Cymru i gynyddu faint o gyfarpar diogelu personol – cyfarpar sydd ei angen yn fawr iawn – sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru.

 

Dolen i'r cyhoeddiad

 

Cyngor ar y coronafeirws gan y Gell Cyngor Technegol

Gwybodaeth i helpu gweinidogion ymateb i bandemig COVID-19 mewn modd sydd ym mudd pennaf pobl Cymru.

 

Dolen i'r canllawiau

Y Gell Cyngor Technegol: crynodeb o gyngor 14 Awst 2020

Crynodeb o gyngor COVID-19 ddarparwyd i Weinidogion Cymru ar 14 Awst 2020.

 

Dolen i'r gwybodaeth

Y coronafeirws – cynllunio ar gyfer y dyfodol yng Nghymru

Heddiw (dydd Mawrth 18 Awst) mae Cynllun Rheoli’r Coronafeirws ar gyfer Cymru yn egluro sut y dylai pob partner – gan gynnwys llywodraeth leol, byrddau iechyd, busnesau a phobl Cymru – weithio gyda’i gilydd i reoli risgiau’r coronafeirws.

 

Dolen i'r cyhoeddiad

Cynllun rheoli’r coronafeirws ar gyfer Cymru

Mae cynllun rheoli’r coronafeirws ar gyfer Cymru yn nodi sut y byddwn ni i gyd yn gweithio gyda’n gilydd i reoli peryglon y coronafeirws yng Nghymru.

 

Dolen i'r gwybodaeth

Ystadegau ac ymchwil cysylltiedig â coronafeirws (COVID-19)

Data a'r dadansoddiad diweddaraf ar effaith coronafeirws ar gymdeithas yng Nghymru.

 

Dolen i'r gwybodaeth

Cronfa Cymorth Dewisol (DAF)

Mae'r Gronfa Cymorth Dewisol yn cynnig dau grant gwahanol nad oes angen i chi eu talu yn ôl.

 

https://llyw.cymru/cronfa-cymorth-dewisol-daf

  • Awdur: ADSS Cymru & Partners
  • Dyddiad: 19/08/2020