LAWRLWYTHO PDF I BRINTIO

Mae Darparwyr Gofal yn rhoi gefnogaeth hanfodol i'r dinasyddion sydd fwyaf mewn perygl yn ein cymunedau, ac mae arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn falch o’ch ymrwymiad parhaol a'ch gwaith caled.

Dylid darllen y bwletin gwybodaeth hon ar y cyd â'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a Llywodraeth Cymru.

Nod y bwletin hwn yw rhoi gwybod i ddarparwyr am y diweddariadau diweddaraf, darparu cyngor ac ymateb i ymholiadau cyffredinol.

 

Pwnc

Manylion

Dolenni

Bwrdd Cenedlaethol Cyd-gomisiynu

SCIE – Y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth

 

Cyrsiau e-ddysgu rhad ac am ddim a chyrsiau achrededig datblygiad proffesiynol parhaus sydd wedi cael eu talu amdanynt

 

Mae gan y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth ystod o adnoddau newydd neu wedi'u diweddaru ar gyfer staff gofal cymdeithasol i blant ac oedolion, gan gynnwys cyrsiau ar-lein sy’n rhad ac am ddim.

Mae cyrsiau rhad ac am ddim yn cynnwys:

Mae cyrsiau achrededig datblygiad proffesiynol parhaus sydd wedi cael eu talu amdanynt yn cynnwys:

 

Gallwch ddod o hyd i fanylion holl gyrsiau e-ddysgu SCIE yma: Cyrsiau e-ddysgu – SCIE

Mae yna hefyd gyfeirlyfr o adnoddau ac arferion gorau sy'n gysylltiedig â COVID-19. Gellir dod o hyd i'r rhain yma: Cyngor coronafeirws (COVID-19) ar gyfer gofal cymdeithasol

 

 

Prifysgol Abertawe

 

Ysgoloriaethau wedi'u cyllido'n llawn ar gael ar gyfer gweithwyr sector cyhoeddus Cymru i ddatblygu dealltwriaeth o iechyd a gofal sy'n seiliedig ar werth

 

 

Mae Prifysgol Abertawe newydd lansio'r Academi Iechyd a Gofal sy'n Seiliedig ar Werth, sef hwb ar gyfer rhaglenni addysgol, ymchwil arloesol a gwasanaethau ymgynghori pwrpasol o'r radd flaenaf ym maes iechyd a gofal sy’n seiliedig ar werth (IGSW). Fe'i cynlluniwyd i gefnogi mabwysiadu IGSW yn llwyddiannus ar draws sefydliadau, o systemau iechyd a gofal cymdeithasol i'r trydydd sector a'r diwydiannau gwyddor bywyd.

 

Er mwyn cefnogi mabwysiadau IGSW yn llwyddiannus, mae nifer o ysgoloriaethau Academi Dysgu Dwys Llywodraeth Cymru wedi'u cyllido'n llawn ar gael, ar gyfer y rhai sy'n gweithio o fewn sector cyhoeddus Cymru i astudio Doethur mewn Gweinyddu Busnes (DBA), gradd Meistr neu
gwrs IGSW byr a dwys. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â'r rhaglenni Addysg Weithredol a'r broses ymgeisio, ewch i: https://www.swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth/add/  Fel arall, cysylltwch â'r Academi IGSW yn uniongyrchol drwy VBHCAcademy@swansea.ac.uk

 

 

CGGC

Datblygu fframwaith gwirfoddoli ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru

Mae prosiect ar waith i ddatblygu fframwaith i gefnogi cynllunio a dealltwriaeth well o wirfoddoli ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru.

 

Cymerwch ran yn ein harolwg. Gall cyfranogwyr hefyd ddewis mynychu un o’r grwpiau ffocws rhanbarthol er mwyn ymhél â thrafodaethau mwy treiddgar.

 

Darllenwch mwy am y prosiect, sy’n bartneriaeth  rhwng Helpu Cymru CGGC, Comisiwn Bevan, Gofal Cymdeithasol Cymru a Richard Newton Consulting Cyf.

https://www.surveymonkey.co.uk/r/MRJ63P5  (Cymraeg)

 

https://www.surveymonkey.co.uk/r/MRGZCNL  (Saesneg)

 

Darllenwch mwy am y prosiect

Llywodraeth Cymru

Ailagor meysydd chwarae plant a mannau chwarae awyr agored: coronafeirws

 

Canllawiau i’r rheini sy’n gyfrifol am feysydd chwarae neu fannau chwarae awyr agored ar gadw plant yn ddiogel yn ystod y pandemig coronafeirws.

https://llyw.cymru/ailagor-meysydd-chwarae-plant-
mannau-chwarae-awyr-agored-coronafeirws

Cael brechlyn rhag COVID-19

 

Mwy o wybodaeth am y rhaglen brechu COVID-19 a sut bydd y brechlyn yn cael ei roi ar waith.

https://llyw.cymru/cael-brechlyn-rhag-covid-19

Canllawiau gweithredol i ysgolion a lleoliadau pan fydd cyfyngiadau ar niferoedd dysgwyr ar lefel rhybudd 4

 

Sut mae ysgolion a darparwyr eraill yn gallu gwneud eu safleoedd yn ddiogel i staff a dysgwyr pan fydd cyfyngiadau ar niferoedd dysgwyr.

https://llyw.cymru/canllawiau-gweithredol-i-ysgolion-
lleoliadau-pan-fydd-cyfyngiadau-ar-niferoedd-dysgwyr

Creu mannau cyhoeddus mwy diogel: coronafeirws

 

Canllawiau i berchnogion a gweithredwyr mannau cyhoeddus i gadw pobl yn ddiogel pan fydd cyfyngiadau yn cael eu codi a bod mannau dinesig yn mynd yn fwy prysur.

https://llyw.cymru/creu-mannau-cyhoeddus-mwy-
diogel-coronafeirws

Canllawiau ar ddiogelu pobl a ddiffinnir yn glinigol ar sail feddygol fel rhai eithriadol o agored i niwed yn sgil y coronafeirws (COVID-19) – y cynllun ‘gwarchod’ gynt

Canllawiau ar warchod ac amddiffyn pobl a ddiffinnir ar sail feddygol fel rhai eithriadol o agored i niwed yn sgil y COVID-19

https://llyw.cymru/canllawiau-ar-ddiogelu-pobl-ddiffinnir
-yn-glinigol-ar-sail-feddygol-fel-rhai-eithriadol-o-agored

Strategaeth profi COVID-19

 

Mae'r strategaeth profi, wedi ei diweddaru, hefyd yn edrych ar rôl profi ochr yn ochr â brechu.

https://llyw.cymru/strategaeth-profi-covid-19

Hysbysiadau sy'n datgymhwyso gofynion amser sesiynau ysgol sy'n newid

 

Yn dileu'r gofyniad dros dro i gyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol i gydymffurfio a gweithdrefnau ar gyfer newid amserau sesiynau ysgolion

https://llyw.cymru/hysbysiadau-syn-datgymhwyso-
gofynion-amser-sesiynau-ysgol-syn-newid

Datganiad Ysgrifenedig: Cyhoeddi Strategaeth Profi COVID-19 ddiwygiedig a Fframwaith Profi Cymunedol i Gymru

 

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-cyhoeddi-
strategaeth-profi-covid-19-ddiwygiedig-fframwaith-profi-cymunedol-i

Gorchuddion wyneb: canllawiau i'r cyhoedd

 

Daeth yn orfodol i bobl wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus o dan do yng Nghymru ar 14 Medi.

https://llyw.cymru/gorchuddion-wyneb-canllawiau-ir-cyhoedd

Datganiad Ysgrifenedig: Darpariaeth addysg ar gyfer dysgwyr sy'n agored i niwed, plant gweithwyr hanfodol a dysgwyr sydd angen cwblhau arholiadau neu asesiadau hanfodol

Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg

https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-darpariaeth-
addysg-ar-gyfer-dysgwyr-syn-agored-i-niwed-plant-gweithwyr

Cynllun rheoli’r coronafeirws: lefelau rhybudd yng Nghymru

 

Disgrifio'r mesurau i reoli'r coronafeirws ar 4 lefel rhybudd a sut byddai'r lefelau yn cael eu gosod.

https://llyw.cymru/cynllun-rheolir-coronafeirws-
lefelau-rhybudd-yng-nghymru

Ymrwymiad i gefnogi ieuenctid drwy fuddsoddi £9.4m ychwanegol mewn gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc

 

“Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod cefnogaeth ar gael ar gyfer anghenion iechyd meddwl sy'n newid”, meddai'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Lles wrth gyhoeddi y bydd mwy na £9 miliwn ar gael yn benodol i gefnogi plant a phobl ifanc yng Nghymru.

https://llyw.cymru/ymrwymiad-i-gefnogi-ieuenctid
-drwy-fuddsoddi-ps94m-ychwanegol

Podiau ymweld cartrefi gofal – mynediad at y gronfa galedi a’r meini prawf

Hawlio ad-daliad o gostau cysylltiedig â llogi podiau ymweld o dan gynllun peilot y podiau ymweld

Manyleb podiau ymweld

Sut i wneud hawliad ar gyfer costau pod ymweld

Hawlio costau yswiriant ychwanegol sy'n gysylltiedig â llogi podiau ymweld o dan y cynllun peilot:

  • Sut i wneud hawliad ar gyfer yswiriant
  • Ffurflen hawlio

https://content.govdelivery.com/accounts/UK
WALES_CSSIW_INT/bulletins/2bd4f3e

 

 

 

 

Rhaglen Cymorth i Weithwyr

Mae'r Rhaglen Cymorth i Weithwyr wedi bod ar waith ers 4 Rhagfyr 2020, gan gynnig ystod o gymorth llesiant i'r rhai sydd wedi'u cyflogi yn y gweithlu gofal cymdeithasol yn y sectorau preifat a gwirfoddol yng Nghymru.

 

Cynhelir gweminar ar y Rhaglen Cymorth i Weithwyr, ar gyfer pob rheolwr ym maes gofal cymdeithasol o'r sectorau preifat a gwirfoddol yng Nghymru, ar 17 Chwefror 2021 am 3.30pm. Gallwch gadw lle drwy'r ddolen cyfagos.

 

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru

 

Dolen i'r gweminar Rhaglen Cymorth i Weithwyr

Llinell gymorth llesiant ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol

Mae’r Samariaid wedi lansio llinell gymorth gyfrinachol newydd ar gyfer gweithwyr GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae eu gwirfoddolwyr yma i'ch cefnogi pan fyddwch wedi cael diwrnod caled, yn teimlo'n bryderus neu wedi'ch llethu, neu pan fydd llawer ar eich meddwl ac mae angen i chi siarad â rhywun. Weithiau, gall llais cyfeillgar, ychydig o amser i fyfyrio a chlust i wrando wneud gymaint o wahaniaeth. Mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn gofalu am ein hunain ac am ein gilydd.

 

Ffoniwch y llinell gymorth gyfrinachol 0800 484 0555 ar gyfer gwasanaeth am ddim (ar agor bob dydd, 7am tan 11pm) neu'r llinell gymorth gyfrinachol 0808 164 2777 ar gyfer gwasanaeth Cymraeg am ddim (ar agor bob nos, 7pm tan 11pm).

https://www.samaritans.org/how-we-
can-help/health-and-care/here-listen-
support-line-nhs-people/

Deddfau di-fwg –

Newidiadau o 1 Mawrth 2021.

 

Mae newidiadau yn berthnasol i’r canlynol:

  • Gweithwyr gofal

Ystafelloedd ysmygu mewn cartrefi gofal i oedolion a hosbisau i oedolion

Mae deddfwriaeth newydd yn cael ei chyflwyno ar 1 Mawrth 2021 a fydd yn gwneud mwy o leoedd yng Nghymru yn ddi-fwg. Er mwyn gwarchod mwy o bobl rhag mwg ail-law niweidiol, bydd y rheiny sy'n gweithio yng nghartrefi eraill, fel gweithwyr gofal, yn gallu gweithio mewn amgylchedd di-fwg. Dim ond preswylwyr a rheiny dros 18 oed fydd yn cael defnyddio ystafelloedd ysmygu mewn cartrefi gofal i oedolion a hosbisau i oedolion.

 

Darperir manylion llawn y newidiadau yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru.

 

Mae gan yr adran ar Anheddau fanylion ar weithio yng nghartrefi eraill ac mae'r adran ar Cartrefi gofal i oedolion a hosbisau i oedolion yn gosod y newidiadau yn y lleoliadau hynny.

 

https://llyw.cymru/deddfwriaeth-ddi-fwg-
canllawiau-ar-y-newidiadau-o-fis-mawrth-2021-html

 

 

Ar gyfer ymholiadau, cysylltwch â:

PolisiTybaco@llyw.cymru

Ymweliadau â chartrefi gofal: canllawiau diweddaraf i ddarparwyr

Mae fersiwn ddiweddaraf o "Ymweliadau â chartrefi gofal: canllawiau  i ddarparwyr" wedi cael ei chyhoeddi.

 

Mae’r canllawiau diwygiedig yn cynnwys manylion am ddefnyddio podiau ymweld, cyngor  ar gyswllt corfforol (dal dwylo) yn ystod ymweliadau, a’r defnydd o brofion llif unffordd er mwyn cynnal ymweliadau. 

 

https://llyw.cymru/ymweliadau-chartrefi-gofal-canllawiau-i-ddarparwyr

Llywodraeth y DU

Gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith Llywodraeth y DU – Sioe sleidiau fideo newydd

 

Mae'r fideo Dywedwch Wrthym Unwaith hwn yn egluro yn syml ac yn dosturiol sut mae'r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith yna i helpu dinasyddion sydd wedi cael profedigaeth roi gwybod i lawer o sefydliadau'r llywodraeth a darparwyr pensiwn y sector cyhoeddus, unwaith yn unig, o farwolaeth.

 

Mae'r sioe sleidiau fideo yn llai na thri munud o hyd a gellir ei gweld yma.  Gobeithiwn ychwanegu'r ddolen ar gyfer y dudalen 'What to do when someone dies' ar GOV.UK maes o law.

 

Byddem hefyd yn eich annog i rannu'r ddolen yn fewnol i gynyddu ymwybyddiaeth bersonol eich cydweithwyr o sut mae yno i'w helpu nhw hefyd.

 

Diolch ymlaen llaw am gefnogi'r gwasanaeth arobryn hwn.

 

 

Adrodd marwolaeth gan ddefnyddio'r gwasanaeth
Dywedwch Wrthym Unwaith – YouTube

 

  • Awdur: ADSS Cymru & Partners
  • Dyddiad: 03/02/2021