Gweminar cinio a dysgu dileu elw: i dimau gofal cymdeithasol plant
Cipolwg ar wybodaeth
- Dyddiad: 24/07/2025 - 24/07/2025
- Amser: 12:00 pm - 1:00 pm
- Lleoliad: Microsoft Teams
Disgrifiad
Ym Mawrth, rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i Ddeddf newydd gan Senedd Cymru: Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru). Mae’n newid y ffordd y mae gwasanaethau cymdeithasol i blant yn cael eu cyflenwi trwy ddileu elw preifat o wasanaethau plant sydd mewn gofal. Y nod yw symud y system gofal tuag at fodel nid-er-elw erbyn 2030, gyda’r bwriad o wella gwasanaethu a phrofiadau plant trwy ail-fuddsoddi mewn gofal.
Bydd hyn yn effeithio ar y ffordd y mae awdurdodau lleol yn cael hyd i gartrefi i’r plant a’r bobl ifanc y mae gennym ddyletswydd i ofalu amdanynt.
Rydym yn cynnal cyflwyniad byr, hawdd ei ddeall, i’r agenda dileu elw i dimau gofal cymdeithasol yng Nghymru. Bydd yn digwydd am 12 hanner dydd ddydd Iau, 24 Gorffennaf a bydd yn cynnwys:
Yr hyn mae’n ei olygu i wasanaethau plant yng Nghymru
Sut mae ADSS Cymru yn gweithio i baratoi am y newid
Amserlen a chyflymder y newid, beth i’w ddisgwyl yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod
Enghraifft o weithgaredd sy’n digwydd yn un awdurdod lleol er mwyn ymateb
Sesiwn holi ac ateb gyda phanel
Mae manylion llawn ac archebion trwy Ticket Tailor.