Cipolwg ar wybodaeth

  • Dyddiad: 10/09/2019 - 12/09/2019
  • Amser: 6:00 pm - 3:00 pm
  • Lleoliad: Royal Welsh College of Music & Drama, Cardiff

Disgrifiad

 

Y Gynhadledd Genedlaethol Gofal Cymdeithasol (CGGC) yw'r digwyddiad mwyaf blaenllaw Cymru ar gyfer y sector gofal cymdeithasol


Mae Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS) Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru yn gweithio mewn partneriaeth i ddarparu'r profiad cynhadledd unigryw hwn. Ein digwyddiad blynyddol ar y cyd yw'r cyfle arddangos a rhwydweithio mwyaf blaenllaw i'r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru, gyda rhywbeth ar gyfer pob aelod o'r gweithlu gofal.

Cynhelir cynhadledd 2019 yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru eiconig yng nghanol Caerdydd, De Cymru. Bydd y llsafle unigryw hwn yn darparu'r lleoliad i roi cyfle heb ei ail i'n noddwyr ac arddangoswyr i gymryd rhan yn y ddadl am ddyfodol gofal cymdeithasol yng Nghymru, a hyrwyddo gwasanaethau ar draws y gweithlu.

Bydd pobl o bob rhan o'r sector gofal yn mynychu'r gynhadledd - gan gynnwys y rhai sy'n gweithio ar y rheng flaen yn y gwasanaethau cymdeithasol, gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru, i gyfarwyddwyr ac uwch reolwyr gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol, yn ogystal a myfyrwyr gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol.

Disgwylir 600 o gynrychiolwyr, i gynnwys hefyd Aelodau Cynulliad Cymru, gweision sifil Llywodraeth Cymru, aelodau etholedig y cyngor, ac uwch reolwyr o'r sectorau gwirfoddol, annibynnol, iechyd, addysg a thai.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan y digwyddiad CGGC: https://nscc.cymru/


Ar y wefan, byddwch hefyd yn gallu cael mynediad i gyflwyniadau siaradwyr a gweithdai llynedd (2018), ynghyd â gwybodaeth i gynrychiolwyr, noddwyr ac arddangoswyr am y flwyddyn i ddod.