Mae aelodau o Bartneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg wedi cytuno ‘Fframwaith Cyd-gynhyrchu Rhanbarthol’ newydd, gyda Phecyn Cymorth a Siarter, i’w ddefnyddio gan sefydliadau ledled Abertawe a Chastell Castell-nedd Port Talbot.

Mae'r Fframwaith newydd hwn yn helpu sefydliadau a chymunedau i ddeall beth yw cyd-gynhyrchu, gan ddarparu cefnogaeth a hyfforddiant i wirfoddolwyr. Fe'i datblygwyd gan y Grŵp Cyd-gynhyrchu Rhanbarthol, sy'n cynnwys ddefnyddwyr gwasanaeth ac ofalwyr di-dâl. Ers dechrau'r cyfnod COVID-19, mae'r grŵp wedi parhau i gwrdd i greu'r pecyn adnoddau hwn. O dan amgylchiadau heriol, cynhaliodd y grŵp weithdai rhyngweithiol gan ymgorffori egwyddorion cyd-gynhyrchu.

Eglura Lee Ellery, Cadeirydd y Grŵp Cyd-gynhyrchu Rhanbarthol a chynrychiolydd defnyddwyr gwasanaeth:

“Mae cyd gynhyrchu yn egwyddor bwysig yr ydym am ei gweld yn gweithio ar draws Gorllewin Morgannwg er budd ei holl bobl, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol, defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr. Bydd y Fframwaith yn ein helpu ni i gyd i weithio gyda'n gilydd mewn perthynas gyfartal a gofalgar. ”

Mae Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg wedi cymeradwyo'r fenter hon fel rhan o'i ymrwymiad i gyd-gynhyrchu, gan ei nodi fel model rhagorol ac arloesol. Bydd aelodau’r fwrdd - gan gynnwys y Bwrdd Iechyd, Awdurdodau Lleol a sefydliadau allweddol y Trydydd Sector - yn gallu mynd â hyn trwy eu llwybrau llywodraethu i fabwysiadu’r egwyddorion cyffredin a fydd yn cefnogi ymgorffori cyd-gynhyrchu ar draws gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol y rhanbarth

  • Awdur: West Glamorgan Regional Partnership Board
  • Dyddiad: 31/03/2021