Mae ein strategaeth tair blynedd yn amlinellu gweledigaeth Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSS Cymru), llais arweinyddiaeth broffesiynol a strategol gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru, o ddiogelu pob unigolyn ac o wneud gwahaniaeth cadarnhaol i lesiant ac annibyniaeth y bobl sy’n cael mynediad at ofal a chymorth yng Nghymru.

Mae’r strategaeth hon, sy’n cwmpasu’r cyfnod rhwng 2018 a 2021, yn nodi pum maes blaenoriaethol o weithgarwch y bydd ADSS Cymru yn ymgysylltu â nhw trwy ei rhaglenni gwaith er mwyn cyflawni ei huchelgais. Diben y rhain yw:

  • dadlau’r achos dros wasanaethau gofal cymdeithasol cryf ac ymatebol
  • rhoi rheolaeth wirioneddol a llais cryfach i ddinasyddion
  • galluogi pobl i fyw eu bywydau i’r eithaf a chyflawni’r hyn sy’n bwysig iddynt trwy ganolbwyntio ar wasanaethau a chymorth ataliol
  • adeiladu ar gryfderau dinasyddion, a chryfderau’r rheini o’u hamgylch, yn enwedig mewn perthynas â diogelu a chyfrifoldeb personol
  • cefnogi datblygiad proffesiynol y gweithlu gofal cymdeithasol i ddarparu’r lefel uchaf o ofal a chymorth i’n dinasyddion

Ar sail awdurdod ac arbenigedd ei haelodau – sy’n cynnwys cyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol a phenaethiaid gwasanaethau plant, oedolion a busnes ar draws pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru – mae ADSS Cymru wedi esbonio sut mae’n bwriadu dylanwadu ar benderfyniadau allweddol ynglŷn â gofal cymdeithasol mewn modd cadarnhaol, er mwyn sicrhau’r budd mwyaf i bobl sydd ag anghenion gofal a chymorth, a’r gweithlu sy’n darparu’r gwasanaethau hyn.

Dywedodd Dave Street, Llywydd ADSS Cymru 2017-18:

“Mae ein strategaeth yn nodi sut y byddwn yn gweithio i gyflawni’r canlyniadau gorau i bobl yng Nghymru, a sut y byddwn yn cefnogi ein gweithlu i ddarparu’r lefelau uchaf o ofal.

“Mae’r penderfyniad i ddarparu gwasanaethau di-dor ac integredig gyda’r GIG, ynghyd â’r pwysau o weithredu mewn amgylchedd sydd ag adnoddau ariannol sy’n prysur leihau, yn golygu bod angen codi llais cenedlaethol arweinwyr proffesiynol gwaith cymdeithasol yn fwy nag erioed.

“Rydym yn gwybod bod angen i waith cymdeithasol fagu mwy o ymwybyddiaeth gyhoeddus, gan ein bod yn gweithio gydag unigolion a theuluoedd i ddarparu gwasanaethau ataliol. Os ydym yn mynd i barhau i gadw ein poblogaeth yn iach, diogel a gweithredol yn ein cymunedau, yna mae datblygu a buddsoddi yn ein gweithlu gofal cymdeithasol yn hanfodol.

“Mae ein strategaeth yn dangos ein hymrwymiad i herio’r llywodraeth genedlaethol i flaenoriaethu polisi a chyllid ar gyfer gofal cymdeithasol, ac i weithio gyda phartneriaid mewn asiantaethau eraill i wella gwasanaethau trwy rannu arferion da.”

  • Awdur: ADSS Cymru
  • Dyddiad: 01/02/2018