Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn trefnu tri diwrnod datblygu i rannu dysgu ac ymarfer o ran rheoli cynllunio ac asesu gofal o fewn y Mesur Iechyd Meddwl a'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.
Yn 2018, cynhyrchodd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru canllaw ymarfer i helpu'r sector i ddeall y cysylltiad rhwng y Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 a'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Gallwch ddod o hyd i'r canllaw yma.
Pwrpas y gweithdy hwn yw rhannu dysgu ac ymarfer o amgylch cysylltiad y ddau ddarn o ddeddfwriaeth, yn enwedig o ran asesiadau integredig a chynllunio gofal.
Mae'r gweithdy hwn wedi'i anelu at reolwyr ac ymarferwyr iechyd meddwl sy'n gweithio mewn lleoliadau gofal cymdeithasol, iechyd neu ofal integredig.
Yma gallwch chi:
- gweld sut mae darpariaeth ymarferol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a'r cysylltiad â deddfwriaeth iechyd meddwl perthnasol, gan gynnwys y broses asesu integredig yn dod yn ei flaen
- nodi meysydd sy'n profi'n fwy heriol ac unrhyw rwystrau rhag cyflawni
- ystyried atebion i'r heriau neu'r rhwystrau hyn.
Gofynnwn i'r rhai sy'n mynychu baratoi unrhyw faterion penodol y maent yn eu hwynebu neu atebion y maent wedi'u datblygu ar gyfer trafodaethau grŵp ymlaen llaw.