Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymrwymiad polisi i drawsnewid gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru i blant sydd mewn gofal. Mae hyn yn cynnwys dileu elw preifat o’r system o gomisiynu a chaffael sydd gan awdurdodau lleol ar gyfer cael hyd i leoliadau ar gyfer y plant yn eu gofal.
Mae aelodau ADSS Cymru’n credu y dylai gofal plant gael ei ysgogi gan fuddion gorau, anghenion a hawliau’r plant, yn hytrach na gan gymhellion ariannol neu rymoedd y farchnad, ac rydym yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru.
Rydym yn gweithio gyda’n gilydd i ymateb i’r newidiadau deddfwriaethol yn dilyn mabwysiadu Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) ym Mawrth 2025.
Mae awdurdodau lleol yng Nghymru wedi comisiynu gwasanaethau gan amrywiaeth eang o ddarparwyr ers nifer o flynyddoedd, gan gynnwys gan y sectorau preifat a gwirfoddol. Rydym yn gweithio’n galed i gael hyd i’r lleoliadau gorau i bob plentyn, ond mae’n dod yn fwyfwy anodd cael hyd i leoliadau sy’n cyd-fynd ag anghenion plant. Mae yna brinder cartrefi addas, yn enwedig i blant sydd angen lefelau uchel o gefnogaeth.
Mewn economi farchnad gyda phrinder cyflenwad, mae gan ddarparwyr gyfle i fanteisio’n ariannol, ac rydym wedi gweld enghreifftiau diweddar o ddarparwyr â chefnogaeth ecwiti preifat yn manteisio ar y cyfle hwn.
Diffinnir gorelw fel penderfyniad bwriadol sefydliad i gymryd mantais annheg o sefyllfa i gynyddu lefelau elw trwy gynyddu pris yn anghymesur o gymharu â chostau, a thynnu’r arian hwnnw allan o’r busnes craidd ar gyfer cyfranddalwyr a/neu gyfarwyddwyr a/neu berchnogion.
Cred ADSS Cymru fod hyn yn annerbyniol, Ni fydd gan ddarparwyr sy’n codi pris eu gwasanaethau’n anghymesur i greu elw nad yw’n cael ei fuddsoddi yn ôl i mewn i ofal plant yma yng Nghymru yn cael lle yn ein cynlluniau yn y dyfodol ar gyfer comisiynu gwasanaethau a darpariaeth.
Rydym yn gweithio ar y cyd i sicrhau bod y cyfleoedd a ddaw gyda’r garreg filltir yma o gyfraith yn cael eu gwireddu ac nad yw gorelwa’n cael ei oddef.
Wrth i ni ymateb i’r newidiadau deddfwriaethol, rydym yn edrych ymlaen at weithio mewn ffyrdd cydweithredol a thryloyw gyda darparwyr nid-er-elw sy’n rhannu ein gwerthoedd a’n hymrwymiad i osod buddion pennaf plant yn gyntaf.