Mae Maethu Cymru yn falch o gyflwyno adroddiad terfynol y Fframwaith Maethu Cenedlaethol (FfMC) sy’n cwmpasu’r cyfnod rhwng 2018 a 2021.  Mae’n adrodd ar ba mor llwyddiannus oedd y sector wrth gyflawni nodau gwreiddiol y FfMC a oedd yn rhan o raglen Gwella Canlyniadau i Blant Grŵp Cynghori’r Gweinidog. 

Mae’r adroddiad yn amlygu’r daith wrth ddatblygu dull cyd-gysylltiedig Cymru gyfan o gefnogi gwasanaethau gofal maeth yng Nghymru.   Mae hyn yn cynnwys mentrau penodol, rhaglenni gwaith rhanbarthol, gwell data a gwybodaeth yn ogystal â dull tîm cyd-gysylltiedig o wella gwasanaethau maethu’r awdurdodau lleol drwy drefniadau ar lefel awdurdod lleol, rhanbarthol a Chymru gyfan.

Mae’n cloi gyda chreu Maethu Cymru, y bydd gwasanaethau maethu awdurdodau lleol nawr yn cydweithio drwyddo i greu gwell dyfodol i blant lleol.

Hoffwn ddiolch o galon i’r holl randdeiliaid am eu cyfraniad tuag at daith y Fframwaith Maethu Cenedlaethol a’r newidiadau cadarnhaol a amlinellir yn yr adroddiad.

Mae'r adroddiad yn cael ei roi ar wefannau CLlIC, ADSS Cymru ac AFA Cymru.

  • Awdur: ADSS Cymru
  • Dyddiad: 18/01/2022