Cyd-ddatganiad - Gofal cymdeithasol yn chwarae rôl hanfodol yn ystod heriau enbyd Covid-19 ond rhaid diogelu gweithwyr, meddai Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSS) a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA)

 

Mae Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi canmol ymroddiad parhaus a phroffesiynoldeb gweithwyr gofal cymdeithasol sy'n gofalu am ddinasyddion sydd mewn mwyaf o risg; gan bwysleisio'r angen i sicrhau bod profion am y firws a bod cyfarpar diogelu personol yn cael eu cyflwyno i weithwyr gofal rheng flaen. 

Dywedodd Llywydd ADSS Cymru, Sue Cooper:

"Mae ein staff gofal cymdeithasol yn gweithio'n ddiflino i ddarparu gofal hanfodol a diogelwch i filoedd o ddinasyddion yng Nghymru sydd gyda'r risg mwyaf o gael eu heffeithio gan Covid-19, mewn amgylchiadau hynod o heriol sy'n newid yn gyflym ac rydym yn eu cymeradwyo am eu hymrwymiad parhaus.

Rydym eisiau sicrhau'r holl ddinasyddion sy'n derbyn gofal a chymorth - boed hynny yn y cartref neu mewn lleoliadau preswyl - a theuluoedd a ffrindiau y rhai sy'n dibynnu ar ein gwasanaethau, ein bod yn gwneud popeth a fedrwn i gadw pobl yn ddiogel ac yn derbyn gofal da.  Gwyddom fod hyn yn amser gofidus i nifer o deuluoedd sydd ddim yn gallu bod gyda'i gilydd oherwydd rhesymau diogelwch, ac mae ein staff yn gwneud eu gorau i sicrhau bod pobl yn derbyn y gofal gorau y gallwn ei roi.

Ar draws yr holl awdurdodau lleol, mae gennym brosesau rheoli argyfwng yn eu lle ac rydym yn gweithio gyda gwasanaethau eraill, yn cynnwys iechyd a thai, i gynllunio camau lliniaru i oresgyn yr heriau mae ein gwasanaethau yn eu hwynebu. 

Serch hynny, mae'n hanfodol bod ein staff rheng flaen yn cael eu profi, yn yr un ffordd mae staff gofal iechyd yn cael eu profi, i'w galluogi i barhau i ddarparu gwasanaethau.   Mae hefyd yn hanfodol fod ganddynt fynediad at gyfarpar diogelu personol (PPE) i sicrhau ein bod yn gallu parhau i gyflwyno gwasanaethau yn ddiogel, i gadw pobl yn saff ac yn iach yn ein cymunedau ac i leihau'r effaith cymaint ag y medrwn ar wasanaethau rheng flaen GIG.  Rydym felly yn annog yn gryf bod profion am y firws a darpariaeth cyfarpar diogelu personol yn cael eu hymestyn i staff gofal cymdeithasol rheng flaen."

Dywedodd y Cynghorydd Huw David (Pen-y-bont ar Ogwr), llefarydd WLGA ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

  "Rydym yn gwybod y bydd llawer o bobl yn teimlo'n bryderus ar hyn o bryd.  Mae Cynghorau yn gweithio'n galed, law yn llaw gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus, y trydydd sector a'r sector preifat i gynnal gwasanaethau gofal cymdeithasol i'r rhai sydd eu hangen.  Bydd y galw am y gwasanaethau hyn yn cynyddu'n gyflym fel y byddant yn cael eu defnyddio mwy a mwy i leihau'r pwysau ar GIG wrth ymateb i'r argyfwng. Os oes unrhyw gyn staff gofal cymdeithasol a fyddai'n barod i ddychwelyd i'r gwaith i helpu gyda’r ymdrechion hyn, gofynnaf yn daer iddynt gysylltu â’u hawdurdod lleol.

Mae staff gofal cymdeithasol yn ymgymryd â rôl hanfodol yn awr, fel eraill yn y sector iechyd a gofal. Maent yn cadw pobl hŷn, oedolion, plant a phobl ifanc yn ddiogel gan ddarparu ystod o ofal a chefnogaeth i eraill, a charwn ddiolch iddynt am y gwaith maent yn ei wneud ac a fyddant yn ei wneud yn y dyfodol. Mae angen i ni sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn ddigon iach i weithio, sy'n golygu bod angen iddynt allu diogelu eu hunain gyda chyfarpar diogelu personol (PPE) fel bo'n briodol.  Rydym yn galw am estyniad cyn gynted â phosib i'r drefn brofi i gynnwys staff gofal cymdeithasol fel bod pobl sy'n ddigon da i weithio yn gallu gwneud hynny." 

  • Awdur: ADSS Cymru and WLGA
  • Dyddiad: 19/03/2020