Fel rhan o Grant Cyflenwi Trawsnewid Llywodraeth Cymru 2018-19, mae ADSSC wedi cwblhau prosiect ar “Fodelau Ariannu Arloesol i Ddiwallu Anghenion Gofal Cymdeithasol”. Mae’r Adroddiad a’i atodiadau manwl a Chrynodeb Gweithredol wedi eu cyhoeddi heddiw [11 Ionawr 2019] ac ar gael yma i’w lawr-lwytho.

Amcanion y prosiect hwn oedd:

  • Datblygu persbectif llywodraeth leol clir ar yr heriau, y galw a’r pwysau dros y 15 mlynedd nesaf a fydd yn cael effaith ar wasanaethau gofal cymdeithasol;
  • Ystyried cynnwys ymarferol “addewid gofal cymdeithasol” at y dyfodol a pha fodel newydd o wasanaeth a fydd yn galluogi darparu gwasanaethau effeithiol, o ansawdd i bobl yn y dull gorau
  • Rhoi cyngor ar sut ellid blaenoriaethu unrhyw adnoddau ychwanegol ar gyfer cyflenwi o’r modelau ariannu newydd megis ardoll gofal cymdeithasol neu gronfa yswiriant gofal cymdeithasol yn y modd gorau

Cyd-destun ehangach  y gwaith hwn fu’r drafodaeth am Dalu am Ofal yng Nghymru, ac yn benodol adroddiad gan yr Athro Gerald Holtham (Mehefin 2018) sydd wedi cynnig Cronfa Yswiriant Gofal Cymdeithasol i Gymru. Mae Grŵp Rhyng-weinidogol Llywodraeth Cymru ar Ariannu Gofal Cymdeithasol wedi ei sefydlu o ganlyniad i ystyried y modelau ariannu ar gyfer gofal cymdeithasol yn y dyfodol. Nid yw’r Adroddiad hwn gan yr ADSSC yn benodol yn ystyried modelau ariannu na’r opsiynau amrywiol sydd ar gael, ond mae’n canolbwyntio ar faterion cysylltiedig galw, blaenoriaethau gwario a’r “Addewid Gofal Cymdeithasol”.

Ymgymerwyd â’r prosiect hwn ar y cyd â Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac roedd yn cynnwys Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol ynghyd ag amrediad o gyrff iechyd, gwirfoddol a phreifat ledled Cymru. Rydym yn ddiolchgar iawn iddyn nhw am eu cyfraniad. Gwnaed yn glir i’r sawl a oedd yn cymryd rhan yn y rhaglen ymgysylltu y byddai darganfyddiadau’r prosiect hwn yn ffurfiannol o ran natur ac yn bwydo gwybodaeth i ymgynghoriad llawnach gan Lywodraeth Cymru yn ystod 2019.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ar 8 Ionawr 2019 y cam nesaf o’r gwaith hwn ar Fodelau Ariannol ar gyfer Gofal Cymdeithasol -  https://gov.wales/newsroom/health-and-social-services/2019/future-funding/?skip=1&lang=cy Hefyd, cafwyd trafodaeth ar y pwnc hwn gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru http://record.assembly.wales/Plenary/5409 ar 8 Ionawr 2019.

Bydd ADSSC yn chwarae rhan lawn yn y rhaglen waith ar y mater pwysig hwn dros y flwyddyn i ddod.

Cyswllt: Giovanni Issingrini neu’r Uned Fusnes or ADSS Cymru Business Unit on 01443 742641.

 

Cliciwch ar y dolen ‘Lawrlwytho’ i gael mynediad i'r brif adroddiad neu ddewiswch yr atodiadau o'r dolenni isod. Mae rhain ar gael yn Saesneg yn unig:

Project Report Executive Summary

DTG - Consultation Summary

DTG - LA Social Care Plans - Report

DTG - PNAs APs Demog - Report

 

  • Awdur: ADSS Cymru
  • Dyddiad: 14/01/2019