Cysylltu â chydweithwyr sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru

Bydd newidiadau sydd ar ddod yn y gyfraith yn cael effaith ar y ffordd y mae awdurdodau lleol yn cael effaith ar y ffordd y mae awdurdodau lleol yn dod o hyd i gartrefi i'r plant a'r bobl ifanc y mae dyletswydd arnom i ofalu amdanynt.

Mae'r briffio hwn ar gyfer Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol, Byrddau Diogelu a chydweithwyr eraill ledled Cymru sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc o ddydd i ddydd. Gall hyn fod mewn addysg, cyfiawnder, iechyd, neu sectorau eraill.

Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru)

Ddydd Llun 24 Mawrth 2025, derbyniodd Deddf newydd gan Senedd Cymru Gydsyniad Brenhinol: Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru). Mae'n newid sut mae gwasanaethau cymdeithasol plant yn cael eu darparu trwy gael gwared ar elw preifat o wasanaethau i blant sy'n derbyn gofal. Y nod yw symud y system ofal tuag at fodel nid er elw erbyn 2030, gyda'r nod o wella gwasanaethau a phrofiadau plant trwy ail-fuddsoddi mewn gofal.

Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddileu elw ar wefan Llywodraeth Cymru.

Beth fydd effaith y newidiadau?

Mae'r gyfraith newydd hon yn dod â rhai heriau mawr, fel sicrhau bod digon o leoliadau gofal, rheoli’r symud o ddarparwyr preifat, cael gweithlu wedi'i hyfforddi'n dda, a sicrhau cyllid cynaliadwy. Bydd pontio llyfn yn hanfodol. Mae ein timau'n gweithio'n galed, mewn trafodaeth â'n darparwyr sydd wedi'u comisiynu ar hyn o bryd ac ystod eang o randdeiliaid eraill i reoli'r newidiadau yn y ffordd orau.

Pryd fydd newidiadau’n digwydd?

Bydd gwahanol rannau o'r gyfraith yn dod i rym ar wahanol adegau.

O 1 Ebrill 2026:

Dim darparwyr newydd nid er elw

Rhaid i unrhyw ddarparwyr gofal plant newydd sydd am weithredu yng Nghymru fod yn sefydliad nid-er-elw neu’n awdurdod lleol (mae'r rhain yn cynnwys cartrefi plant, gwasanaethau maethu a gwasanaethau llety diogel).

O 1 Ebrill 2027:

Dim ehangu’r ddarpariaethgyfredol nid er elw

Dim lleoedd gofal preswyl ychwanegol a dim gofalwyr maeth newydd sydd wedi'u cymeradwyo gan ddarparwyr presennol ar gyfer elw o gartref gofal plant, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth maethu.

O 1 Ebrill 2030 (neu’n gynt):

Cyfyngiadau ar osod mewn darpariaethau presennol sy’n gwneud elw

Bydd angen i ddarparwyr ailgofrestru fel sefydliad nid er elw i barhau i weithredu yng Nghymru.

Ni fydd awdurdodau lleol Cymru yn gallu rhoi plant yng ngofal sefydliad er elw yng Nghymru neu Loegr, oni bai bod amgylchiadau eithriadol (er enghraifft os nad oes lleoedd addas ar gael mewn gwasanaethau nid-er-elw).

Cefnogaeth i drafod y newidiadau gyda phlant a phobl ifanc

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu amrywiaeth o daflenni gwybodaeth, gan gynnwys un ar gyfer plant a phobl ifanc.

Mae gwybodaeth ddefnyddiol hefyd ynglŷn â sut i siarad â phlant a phobl ifanc am y newidiadau hyn yn eu taflenni ar gyfer gofalwyr maeth a phobl sy’n gweithio mewn cartrefi gofal preswyl i blant.

Mae’r taflenni gwybodaeth i gyd ar gael o dudalen Dileu Elw: Cyhoeddiadau gwefan Llywodraeth Cymru.

Cydweithio

Ein blaenoriaeth uchaf yw sicrhau parhad ac ansawdd gofal i'r plant rydyn ni'n gofalu amdanynt. Bydd awdurdodau lleol ledled Cymru’n gweithio gyda'i gilydd i weithredu'r newidiadau angenrheidiol i ymateb i'r ddeddfwriaeth hon. Bydd y trawsnewidiad yn gofyn am adnoddau a chynllunio sylweddol, yn ogystal â chyfathrebu, ymgynghori ac ymgysylltiad effeithiol â'n holl randdeiliaid.

Gan y gall eich timau fod yn ymgysylltu â rhai o'r un plant a phobl ifanc y mae gennym ddyletswydd i ofalu amdanynt, rydym am wneud yn siŵr bod eich timau'n ymwybodol o'r newid hwn mewn polisi.

Byddwn yn parhau i'ch diweddaru dros y misoedd nesaf. Yn y cyfamser, cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau.

  • Awdur: ADSS Cymru
  • Dyddiad: 08/07/2025