Effaith Pandemig y Coronafeirws ar Wasanaethau Dydd, Gofal Seibiant a Lleoliadau Arhosiad Byr

Grant Cyflawni Trawsnewid Rhaglen 2021/22

Mae Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio Llywodraeth Cymru wedi gofyn, fel rhan o'r Grant Cyflawni Gweddnewid ar gyfer 2021/22, fod ADSS Cymru yn cynnal arferion monitro i asesu effaith y pandemig ar seibiannau byr, gwasanaethau cyfwng a gwasanaethau dydd.

I weld fersiwn Hawdd ei Ddeall o'r adroddiad cliciwch yma - https://www.adss.cymru/cy/blog/post/delivering-transformation-grant-programme-2021-22-easy-read

Prif ganfyddiadau

Effaith y pandemig

Prif ganfyddiad 1

Yn sgil y pandemig tarfwyd yn ddifrifol ar wasanaethau.

Prif ganfyddiad 2

Cafodd y pandemig effaith negyddol ddifrifol ar lesiant, iechyd corfforol ac iechyd meddwl y bobl a oedd yn defnyddio'r gwasanaethau, eu gofalwyr di-dâl a'r staff a oedd yn darparu'r gwasanaethau.

Prif ganfyddiad 3

Mae ymateb y gwasanaethau wedi cael effaith ar lais llawer o’r bobl sy'n defnyddio gwasanaethau a nifer y dewisiadau sydd ar gael iddynt, am i wasanaethau gael eu tynnu yn ôl ac wrth i baratoadau gael eu gwneud i ailagor yn llwyr.

Prif ganfyddiad 4

Mae’r gorbryder wedi bod yn sylweddol ymhlith y rheiny sy'n defnyddio gwasanaethau a'u teuluoedd, ac wedi cael effaith negyddol ar eu defnydd o wasanaethau, gan gymhlethu anawsterau a oedd eisoes syn bodoli.

Prif ganfyddiad 5

Mae canlyniadau'r pandemig, ynghyd ag effaith diffyg cymorth cymdeithasol gan deulu, ffrindiau a rhwydweithiau cymorth cymdeithasol eraill, yn ogystal â diffyg llythrennedd ac offer TG, wedi llydanu anghydraddoldebau a oedd eisoes yn bodoli ymhlith rhai o'r bobl sy'n defnyddio gwasanaethau dydd a seibiant.

Prif ganfyddiad 6

Mae tarfu ar wasanaethau a chau gwasanaethau wedi cael effaith sylweddol ar wasanaethau gan beryglu cynaliadwyedd rhai o'r gwasanaethau.

Prif ganfyddiad 7

Gwelwyd rhai effeithiau cadarnhaol ar y rheiny sy'n defnyddio gwasanaethau, o ganlyniad i newidiadau ac arloesi o fewn gwasanaethau.

Camau a gymerwyd i liniaru effaith y pandemig

Prif ganfyddiad 8

Gorfodwyd gwasanaethau i ad-drefnu mewn ymateb i'r pandemig, gan addasu ac arloesi er mwyn parhau i gynnig cymorth er gwaethaf y cyfyngiadau.

Prif ganfyddiad 9

Yn sgil y lleihad yng nghapasiti gwasanaethau, gwnaed asesiadau risg ar gyfer y rheiny sy'n defnyddio gwasanaethau, er mwyn sicrhau bod modd targedu adnoddau at y rheiny sydd â'r angen mwyaf amdanynt.

Prif ganfyddiad 10

Mae arfer arloesol a defnyddio technoleg wedi llwyddo i liniaru rhywfaint ar effaith y pandemig ymhlith rhai grwpiau o gleientiaid.

Prif ganfyddiad 11

Gwelwyd llawer o wasanaethau ledled Cymru yn diwygio'u harlwy i fodloni anghenion unigol.

Prif ganfyddiad 12

Mae gwasanaethau ledled Cymru wedi adrodd bod hyblygrwydd a chydnerthedd staff wedi bod o gymorth i'r ymdrechion i gynnal gwasanaethau.

Prif ganfyddiad 13

Mae'r pandemig wedi gofyn am gyfathrebu ar lefel uwch, ac mae hyn wedi bod yn fuddiol.

Prif ganfyddiad 14

Roedd gwasanaethau yn gwerthfawrogi yn fawr iawn y cymorth a gawsant gan ystod o sefydliadau fel Iechyd Cyhoeddus Cymru, y cyrff arolygu, gwasanaethau'r trydydd sector, y byrddau iechyd a'r awdurdodau lleol.

Rhwystrau i fesurau lliniaru

Prif ganfyddiad 15

Roedd canfyddiadau ein holiaduron i ddarparwyr/comisiynwyr gwasanaethau, ynghyd â’r grwpiau ffocws dilynol gyda chynrychiolwyr y gweithlu, yn awgrymu bod cyfyngiadau logistaidd megis addasrwydd adeiladau ac argaeledd TG wedi cyfyngu ar allu darparwyr gwasanaethau i gynnig gwasanaethau.

Edrych ar y Darlun Llawn

Prif ganfyddiad 16

Mae llawer o wasanaethau wedi dechrau adolygu'r newidiadau a wnaed a'r elfennau arloesol a gyflwynwyd i liniaru effaith y pandemig.

Prif ganfyddiad 17

Mae gwasanaethau wedi wynebu heriau, ac yn parhau i wynebu heriau, wrth ailagor ac adfer gwasanaethau i'r lefelau a oedd yn bodoli cyn y pandemig.

Prif ganfyddiad 18

Cyfoethogwyd y ddealltwriaeth o bwysigrwydd y teulu, gofalwyr di-dâl a rolau cymorth cymheiriaid yn ystod y pandemig.

Prif ganfyddiad 19

Amlygwyd cydnabyddiaeth o werth hanfodol gofal seibiant wrth gynnal sefyllfaoedd gofal, wrth i'r gwasanaethau hyn gau neu wrth i'w hargaeledd leihau.

 

  • Awdur: ADSS Cymru
  • Dyddiad: 07/12/2021