LAWRLWYTHO PDF I BRINTIO

Mae Darparwyr Gofal yn rhoi gefnogaeth hanfodol i'r dinasyddion sydd fwyaf mewn perygl yn ein cymunedau, ac mae arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn falch o’ch ymrwymiad parhaol a'ch gwaith caled.

Dylid darllen y bwletin gwybodaeth hon ar y cyd â'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a Llywodraeth Cymru.

Nod y briff hwn yw rhoi gwybod i ddarparwyr am y diweddariadau diweddaraf, darparu cyngor ac ymateb i ymholiadau cyffredinol.

 

Pwnc

Manylion

Dolen

Gofal Cymdeithasol Cymru

Gwobrau 2020

Bydd seremoni wobrwyo’r Gwobrau 2020 yn cael ei chynnal yn rhithwir rhwng hanner dydd ac 1pm dydd Mawrth nesaf, 10 Tachwedd. Mae’r gwobrau yn cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu ymarfer gofal cymdeithasol ac ymarfer blynyddoedd cynnar rhagorol yng Nghymru. Bydd y rhaglen rithwir un awr, a fydd yn cael ei chyflwyno gan gyflwynydd radio a theledu Garry Owen a’n Prif Weithredwr Sue Evans, yn cael ei darlledu’n fyw dros YouTube.

 

Gallwch ddod o hyd i bwy yw’r 19 ysbrydoledig sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ar ein gwefan yn: https://gofalcymdeithasol.cymru/gwella-gwasanaethau/y-gwobrau-2020

 

Bydd y rhaglen hefyd yn cael ei chyfieithu ar y pryd i Iaith Arwyddion Prydain gan Hannah Wilson a Stephen Brattan-Wilson. Gallwch wylio’r cyfieithiad Iaith Arwyddion Prydain ar y pryd yn:
 

https://socialcarewales.zoom.us/j/99216046340?pwd=NkVvRXF2OE9WYnRwVlBSLzNibDV1UT09

 

Ymunwch â ni ar gyfer y rhaglen rithwir yn: https://youtu.be/TM__2YgCD7U

 

 

Dweud eich dweud am yr hyn rydyn ni’n meddwl yw’r blaenoriaethau ar gyfer y pum mlynedd nesaf

 

Rydym yn cydnabod bod angen i ofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar fod yn wahanol iawn er mwyn ymateb i newidiadau demograffig, economaidd ac anghenion cymdeithasol ymhen pum mlynedd. Credwn fod hynny’n golygu bod angen i ni, fel sefydliad, fod yn wahanol iawn hefyd.

 

Rydyn ni am glywed eich adborth gonest am ein blaenoriaethau arfaethedig, fel y gallwn fod yn hyderus y bydd ein cynllun pum mlynedd yn diwallu anghenion newidiol y sectorau a chefnogi’r gweithlu, cyflogwyr ac arweinwyr yn y misoedd a blynyddoedd i ddod.

 

Mae gennych chi tan ddydd Gwener, 13 Tachwedd i ddweud eich dweud.

https://gofalcymdeithasol.cymru/straeon-
newyddion/dweud-eich-dweud-am-yr-hyn-
rydyn-nin-meddwl-ywr-blaenoriaethau-
ar-gyfer-y-pum-mlynedd-nesaf

 

 

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Diweddariad i Ddangosfwrdd gwyliadwriaeth cyflym COVID-19

Diweddarwyd dangosfwrdd gwyliadwriaeth cyflym COVID-19. Rydym wedi ychwanegu map newydd yn arddangos achosion wedi'u rhannu yn ôl lleoliad.

https://public.tableau.com/profile/public.health.
wales.health.protection#!/vizhome/RapidCOVID-19virology-Public/Headlinesummary

Ymgyrch Sut wyt ti?

Mae ymgyrch ‘Sut wyt ti?’ Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnig cyngor a chymorth ar ofalu amdanoch chi eich hun drwy gadw’n gorfforol iach, cadw mewn cysylltiad â phobl eraill a meddwl ac ymdopi mewn ffordd wahanol. Mae’n nodi’r sefydliadau gorau i’ch helpu gan ddibynnu ar eich sefyllfa bersonol.

https://icc.gig.cymru/pynciau/coronafeirws/sut-wyt-ti/

 

 

C.A.L.L. Llinell Gymorth lechyd Meddwl ar gyfer Cymru

C.A.L.L. Llinell Gymorth lechyd Meddwl ar gyfer Cymru

Llinell cyngor a gwrando cymunedol yn cynnig cefnogaeth emosiynol a gwybodaeth / llenyddiaeth ar Iechyd Meddwl a materion cysylltiedig i bobl Cymru.

https://callhelpline.org.uk/

Llywodraeth Cymru

Cynllun ychwanegiad at dâl salwch statudol ar gyfer COVID-19

 

  • Mae'r cynllun ar waith o 1 Tachwedd.
  • Bydd gweithwyr gofal yn derbyn cyflog llawn pan fyddai eu cyflog fel arall wedi gostwng i Dâl Salwch Statudol, neu ddim incwm o gwbl, oherwydd achos gwirioneddol neu achos posibl o COVID-19 neu'r angen i hunanynysu.
  • Caiff y cynllun ei reoli gan yr awdurdodau lleol ac mae’n berthnasol i staff mewn cartrefi gofal plant a chartrefi gofal oedolion, darpariaeth gofal cartref a chynorthwywyr personol.
  • Mae staff asiantaeth, staff cronfa a staff ar gontract yn gymwys.

https://llyw.cymru/cynllun-ychwanegiad-dal-salwch-statudol-ar-gyfer-covid-19?_ga=2.104269952.1222522001.1604392522-768988515.1560846930

 

£12.5m i gefnogi teuluoedd a phlant agored i niwed yn ystod y pandemig

 

Heddiw, mae Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi cyhoeddi pecyn cyllid gwerth £12.5m i gefnogi plant a theuluoedd sy’n agored i niwed.

https://llyw.cymru/gefnogi-teuluoedd-phlant-agored-i-niwed-yn-ystod-y-pandemig?_ga=2.77933332.1222522001.1604392522-768988515.1560846930

 

Canllawiau ar aelwydydd estynedig: coronafeirws

 

Rheolau a fydd yn berthnasol i fod mewn aelwydydd estynedig a chyngor ar sut i ffurfio un.

https://llyw.cymru/canllawiau-ar-aelwydydd-estynedig-coronafeirws

 

 

Canllawiau ar angladdau: COVID-19

 

Canllawiau ar gynnal a mynychu angladdau yn ystod y pandemig coronafirus.

https://llyw.cymru/canllawiau-ar-angladdau-covid-19

 

 

Ysbytai Nightingale

 

Gwybodaeth am Ysbytai Nightingale.

https://llyw.cymru/atisn14384?_ga=2.175032482.1222522001.1604392522-768988515.1560846930

 

Blychau bwyd

 

Gwybodaeth am flychau bwyd a ddarparwyd i’r rhai fu’n gwarchod eu hunain yn ystod y cyfyngiadau Covid-19.

https://llyw.cymru/atisn14405

 

 

Ystadegau ac ymchwil cysylltiedig â coronafeirws (COVID-19)

 

Data a'r dadansoddiad diweddaraf ar effaith coronafeirws ar gymdeithas yng Nghymru.

https://llyw.cymru/ystadegau-ac-ymchwil-cysylltiedig-coronafeirws-covid-19

 

Datganiad Ysgrifenedig gan

Mark Drakeford AS, Y Prif Weinidog

 

Datganiad Ysgrifenedig: COVID-19: mesurau cenedlaethol newydd i Gymru

 

https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-covid-19-mesurau-cenedlaethol-newydd-i-gymru

 

COVID-19 – mesurau cenedlaethol newydd ar gyfer Cymru: Pobl nid rheolau sy’n allweddol i’n hymateb, medd y Prif Weinidog

 

Heddiw, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford mai pobl ac nid rheolau sydd wrth wraidd ymateb Cymru i bandemig y coronafeirws, wrth iddo gyhoeddi’r mesurau newydd a fydd ar waith yng Nghymru ar ôl y cyfnod atal byr.

https://llyw.cymru/covid-19-mesurau-cenedlaethol-newydd-ar-gyfer-cymru-pobl-nid-rheolau-syn-allweddol-in-hymateb-medd-y-prif-weinidog

 

Deddf y Coronafeirws 2020 a gofal cymdeithasol yng Nghymru

 

 

Daeth yr ymgynghoriad i ben 2 Tachwedd 2020.

 

Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd. Cyhoeddir manylion y canlyniad cyn hir.

https://llyw.cymru/deddf-y-coronafeirws-2020-gofal-cymdeithasol-yng-nghymru

 

Newidiadau i amserau sesiynau ysgolion: coronafeirws

 

Cyngor i ysgolion ac awdurdodau lleol ynghylch newid amseroedd sesiynau ysgolion ar gyfer tymor yr hydref 2020.

https://llyw.cymru/newidiadau-i-amserau-sesiynau-ysgolion-coronafeirws

 

 

Cymorth ariannol i dalu eich biliau yn ystod y pandemig coronafeirws

 

Cymorth ariannol i’ch helpu i dalu eich rhent, morgais neu filiau os ydych yn gweithio, yn hunangyflogedig, yn sâl ac yn methu gweithio, wedi colli eich swydd neu ar ffyrlo.

https://llyw.cymru/cymorth-ariannol-i-dalu-eich-biliau-yn-ystod-y-pandemig-coronafeirws

 

 

Coronafeirws: cymorth ariannol i gadw eich gweithwyr

 

Mae'r Cynllun Cadw Swyddi yn helpu cyflogwyr gyda chynllun PAYE i dalu costau staff.

 

Gall cyflogwyr gael help os na allant redeg eu busnes neu os nad oes gwaith i’r cyflogeion oherwydd y coronafeirws.

 

Os oes cyflogeion wedi cael eu gofyn i stopio gweithio, gellir eu cadw ar y gyflogres. 

 

Gallai cyflogeion gael 80% o’u cyflog, hyd at uchafswm misol o £2,500.

 

https://llyw.cymru/coronafeirws-cymorth-ariannol-i-gadw-eich-gweithwyr

 

 

Adnodd Asesu Risg COVID-19 ar gyfer y Gweithlu – holiadur darparwr gweithredu gofal cymdeithasol

 

Mae'r Grŵp Gweithredu Gofal Cymdeithasol yn uno rhanddeiliaid sy'n hyrwyddo'r defnydd o'r Adnodd Asesu Risg COVID-19 ar gyfer y Gweithlu ar draws y darparwyr yn y sector.

 

Mae holiadur byr, ar-lein sy'n ceisio casglu data ynglŷn â'r defnydd o'r adnodd a'i effaith ar weithwyr a fu’n gwarchod eu hunain yn flaenorol ar gael tan 21 Tachwedd.

 

Rydym yn annog pob un o'r darparwyr i gwblhau’r holiadur.

 

Gellir gweld yr holiadur hwn ar:

https://www.smartsurvey.co.uk/s/47EDBU/?lang=507101

 

 

Ceir canllawiau a chwestiynau cyffredin am yr Adnodd Asesu Risg ar:

https://llyw.cymru/adnodd-asesu-risg-covid-19-ar-gyfer-y-gweithlu

 

  • Awdur: ADSS Cymru & Partners
  • Dyddiad: 04/11/2020