LAWRLWYTHO PDF I BRINTIO
Mae Darparwyr Gofal yn rhoi gefnogaeth hanfodol i'r dinasyddion sydd fwyaf mewn perygl yn ein cymunedau, ac mae arweinyddiaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru yn falch o’ch ymrwymiad parhaol a'ch gwaith caled.
Dylid darllen y bwletin gwybodaeth hon ar y cyd â'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a Llywodraeth Cymru.
Pwnc | Manylion | Dolenni |
Prifysgol De Cymru | ||
Gwerthusiad Cenedlaethol o'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant - yr astudiaeth EFFAITH | Mae cydweithwyr o Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru, Prifysgol De Cymru mewn partneriaeth ag academyddion o Brifysgolion Abertawe, Caerdydd a Bangor wedi bod yn ymchwilio i weithrediad Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant - yr astudiaeth EFFAITH: Gwerthusiad o'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) EFFAITH | University of South WalesMae'r astudiaeth yn cael ei harwain gan yr Athro Mark Llewellyn (mark.llewellyn@southwales.ac.uk). Dechreuodd ym mis Tachwedd 2018, a gellir gweld cyhoeddiadau o'r gwaith hyd yma yma: Gwerthusiad o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 | LLYW.CYMRU Mae tri ardal ffocws i'w gwaith dros y misoedd nesaf i'ch gwneud chi'n ymwybodol ohonynt.
I gael mwy o wybodaeth am yr ardaloedd ffocws hyn a manylion ar sut i gymryd rhan, gweler y daflen wybodaeth sydd ynghlwm. | Gwerthusiad Cenedlaethol o'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant - yr astudiaeth EFFAITH |
Llywodraeth Cymru | ||
Ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru ar ailgydbwyso gofal a chymorth: Cyhoeddi adroddiad yn rhoi crynodeb o’r ymatebion – 29 Mehefin 2021 | Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei hadroddiad yn rhoi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad papur gwyn: ‘Ailgydbwyso gofal a chymorth’. Roedd yr ymgynghoriad hwn yn ceisio safbwyntiau ar ein cynigion ar gyfer deddfwriaeth newydd i wella trefniadau gofal a chymorth a gwaith partneriaeth i gefnogi llesiant pobl yn well. Mae’r adroddiad a’r dogfennau ymgynghori ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru yma. | Gwella trefniadau gofal cymdeithasol a gwaith partneriaeth | LLYW.CYMRU
|
Sefydlwyd cynllun Yswiriant Bywyd y GIG a Gofal Cymdeithasol (Cymru) ym mis Gorffennaf 2020. | Gweithredir y cynllun gan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG ar ran Gweinidogion Cymru.
Mae'r cynllun yn talu cyfandaliad o £60,000 i fuddiolwyr yn dilyn marwolaeth aelod o staff y GIG neu ofal cymdeithasol os yw Gweinidogion Cymru yn gallu dod i’r farn resymol fod marwolaeth yr unigolyn wedi’i hachosi gan COVID-19 a ddaliwyd drwy eu rôl. | https://www.nhsbsa.nhs.uk/nhs-and-social-care-coronavirus-life-assurance-scheme-2020-wales. |
Atal a rheoli heintiau mewn lleoliadau gofal plant: canllawiau
| Mesurau diogelu i atal lledaeniad heintiau fel y coronafeirws. | Atal a rheoli heintiau mewn lleoliadau gofal plant: canllawiau | LLYW.CYMRU |
Cyrchfannau a lleoliadau diwylliant a threftadaeth: Canllawiau ar gyfer dychwelyd yn raddol
| Canllawiau i sefydliadau ac unigolion yng Nghymru sy'n rheoli cyrchfannau a lleoliadau diwylliant a threftadaeth sy'n agored i'r cyhoedd. | |
Datganiad Ysgrifenedig: Y Gronfa Cadernid Economaidd – Gorffennaf ac Awst 2021
| Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi | |
Adsefydlu o COVID hir: claf cymunedol
| Sut mae gwasanaethau adsefydlu wedi helpu claf cymunedol wrth iddi adfer o COVID hir. | |
Adsefydlu o COVID hir: claf uned gofal critigol
| Sut mae gwasanaethau adsefydlu COVID hir yn helpu claf uned gofal critigol i adfer o COVID ar ôl cyfnod hir yn yr ysbyty. | Adsefydlu o COVID hir: claf uned gofal critigol | LLYW.CYMRU |
Adsefydlu yn dilyn COVID hir: astudiaethau achos
| Sut mae gwasanaethau adsefydlu yn helpu cleifion i wella o COVID hir. | Adsefydlu yn dilyn COVID hir: astudiaethau achos | LLYW.CYMRU |
Coronafeirws: canllawiau teithio i sefydliadau addysg a myfyrwyr
| Canllawiau i fyfyrwyr a staff yn y sector addysg sy’n bwriadu teithio yn y DU neu dramor, ac ar gyfer y rheiny sydd eisoes dramor. | Coronafeirws: canllawiau teithio i sefydliadau addysg a myfyrwyr | LLYW.CYMRU |
Adnodd asesu risg COVID-19 ar gyfer y gweithlu
| Gwirio os oes risg uwch i chi gael symptomau mwy difrifol os ydych yn dod i gyswllt â COVID-19. Mae'r adnodd yma'n eich helpu chi i ystyried eich ffactorau risg personol ar gyfer COVID-19 ac yn argymell sut gallwch aros yn ddiogel.
| |
Datganiad Ysgrifenedig: Diweddariad ar Gynnydd Rhaglen Frechu COVID-19 yn erbyn y Strategaeth
| Eluned Morgan, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | |
Cynllun grant newydd gwerth £10 miliwn i helpu pobl sy’n cael trafferth talu eu rhent yn ystod y pandemig
| Bydd cynllun grant newydd gwerth £10 miliwn yn cael ei gyflwyno’r mis hwn i helpu pobl mewn llety rhent preifat sy’n cael trafferth talu eu rhent yn sgil y pandemig. | |
Datganiad Ysgrifenedig: Cymorth i denantiaid drwy bandemig Covid-19
| Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd | Datganiad Ysgrifenedig: Cymorth i denantiaid drwy bandemig Covid-19 (30 Mehefin 2021) | LLYW.CYMRU |
Mesurau rhesymol i leihau risg coronafeirws mewn gweithleoedd a mangreoedd agored: canllawiau i swyddogion gorfodi
| Canllawiau i swyddogion gorfodi ar reoliad 20 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020. | |
Datganiad Ysgrifenedig: Dysgu rhagor am brofi am COVID-19 yn gyflym gan ddefnyddio dyfeisiau prawf llif unffordd (LFD)
| Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | |
Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol Cymru | ||
IMPACT: Gwella Gofal Oedolion Gyda'n Gilydd "Nid yw gofal da yn ymwneud â gwasanaethau yn unig, mae'n ymwneud â chael bywyd" Mae IMPACT yn canolfan newydd gwerth £15 miliwn i ddefnyddio tystiolaeth gofal cymdeithasol i oedolion, a ariannir gan Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), sy'n rhan o Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI), a'r elusen, y Sefydliad Iechyd. | Bydd IMPACT yn ‘ganolfan weithredu’, gan dynnu ar wybodaeth a gafwyd o wahanol fathau o ymchwil, profiad byw pobl yn defnyddio gwasanaethau a’u gofalwyr, a doethineb ymarfer staff gofal cymdeithasol. Bydd yn gweithio ledled y DU i sicrhau ei fod wedi'i wreiddio yn y cyd-destunau polisi gwahanol iawn ym mhob un o'r pedair gwlad, ac yn sensitif iddynt, yn ogystal â gallu rhannu dysgu ledled y DU gyfan.
Bydd IMPACT yn treulio 2021 yn ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol ar draws gofal cymdeithasol I oedolion, ac ar draws pedair gwlad y DU. Bydd hyn yn cynnwys:
nodi ac adeiladu consensws o amgylch blaenoriaethau IMPACT; profi a gwella modelau cyflenwi arfaethedig; a chefnogi graddio i fyny a newid diwylliannol. |