Mae gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru’n cyfrannu mwy na £2 biliwn at economi Cymru ac yn creu swyddi i bron i 127,000 o bobl, yn ôl astudiaeth newydd.

Mae hefyd yn cyflogi bron cymaint o bobl yn uniongyrchol â’r GIG, sy’n golygu ei fod yn un o gyflogwyr mwyaf y wlad. Mae’r rhan fwyaf yn gyflogedig mewn cartrefi gofal a gofal cartref.

Daw’r canfyddiadau o astudiaeth annibynnol o’r sector gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru gan ICF Consulting Limited.

Roedd yr astudiaeth yn edrych ar y gwerth uniongyrchol sy’n cael ei ychwanegu gan ofal cymdeithasol i oedolion, yn ogystal â’i effaith ehangach, sy’n cynnwys ei effaith ar sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau i’r sector a phŵer gwario’r rhai sy’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol mewn gofal cymdeithasol.

Mae’r effaith ehangach hon yn golygu bod gofal cymdeithasol yn cyfrannu £2.2 biliwn at economi Cymru yn gyffredinol, gydag £1.1 biliwn o’r swm hwn yn cael ei ychwanegu’n uniongyrchol gan y sector gofal cymdeithasol.

Mae hyn yn gwneud gofal cymdeithasol i oedolion y seithfed cyfrannwr mwyaf at economi Cymru, gyda dau y cant, a gofal preswyl yn ychwanegu'r ganran fwyaf (£329 miliwn neu 29 y cant).

Hefyd, gofal cymdeithasol i oedolion yw’r seithfed sector cyflogaeth mwyaf yng Nghymru, gyda chwech y cant o weithlu Cymru’n ymwneud â darparu gofal cymdeithasol i oedolion. Mae’r sector yn cyflogi 83,400 o bobl yn uniongyrchol, bron cymaint â GIG Cymru, sy’n cyflogi 88,900 o bobl.

Os yw’r nifer hwn yn cynnwys yr effaith ar gyflenwyr a’r arian sy’n cael ei wario gan bob gweithiwr cyflogedig sy’n gysylltiedig mewn rhyw ffordd â gofal cymdeithasol i oedolion, mae’r sector yn cefnogi cyfanswm o 127,000 o swyddi.

Hefyd canfu’r astudiaeth bod gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru’n cyflogi cyfran fwy o gyfanswm y gweithlu nag unrhyw wlad arall yn y DU, gyda’r cyflogeion yn ennill tua £16,800 y flwyddyn ar gyfartaledd.

Comisiynwyd yr arolwg ar ran grŵp o sefydliadau o bob cwr o’r DU, gan gynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSS) a Fforwm Gofal Cymru.

Dywedodd y Gweinidog Gofal Cymdeithasol, Pobl Hŷn a Phlant, Huw Irranca-Davies:

Rwyf yn falch o groesawu’r adroddiad yma sy’n dangos yn glir pwysigrwydd y sector gofal cymdeithasol i oedolion ar economi Cymru.

“Mae gofal cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol yn ehangiad ein heconomi, trwy gefnogi'r rheiny sydd â chyfrifoldebau gofal ddechrau, dychwelyd, neu aros mewn gwaith. Mae’r sector gofal hefyd yn gyflogwr o bwys sy’n tyfu ac yn darparu cyfleon. Rwy’n ymddiried yn llwyr i godi statws a phroffil gweithwyr gofal cymdeithasol, fel bod gofal cymdeithasol yn dod yn ddewis gyrfa bositif, lle mae’r bobl yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi’n gyfrifol.

“Fel Llywodraeth rydym wedi cymryd camau i helpu’r sector gofal cymdeithasol fod yn fwy deniadol – trwy gyflwyno grant Cyflog Byw Cenedlaethol yn 2017-18 a chyflwyno rheoleiddio i wella termau ac amodau'r gweithlu trwy roi terfyn ar y cytundebau dim oriau a gwahaniaethu yn glir rhwng amser gofal a theithio. Ond ar y cyd, mae yna fwy y gallwn ni ei wneud i dyfu a chefnogi ein gweithlu fel bod modd cwrdd â’r cynnydd mewn galw am ofal.”

Dywedodd Sue Evans, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru:

“Mae’r astudiaeth hon yn darparu tystiolaeth bod gofal cymdeithasol i oedolion yn gwneud cyfraniad mawr at economi Cymru.

“Mae nid yn unig yn darparu gofal a chymorth hanfodol i’r bobl fwyaf agored i niwed sy’n byw ym mhob ardal o Gymru, ond hefyd yn cyfrannu mwy o werth ariannol at yr economi na llawer o sectorau eraill yng Nghymru, gan gynnwys amaethyddiaeth, y celfyddydau, adloniant a hamdden.”

Dywedodd Jenny Williams, Llywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru:

“Rydw i’n falch o gefnogi lansiad yr adroddiad tyngedfennol yma sy’n dangos gwerth economaidd arwyddocaol gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru.

“Mae’r adroddiad yn dangos fod mwy na 90,000 o swyddi yng Nghymru, yn ogystal â’r cannoedd o filoedd o ofalwyr di-dâl sy’n cefnogi'r economi gofal cymdeithasol ac iechyd. Mae’n amser newid y naratif i stori bositif ar gyfer gweithwyr a darparwyr gofal. Rydym angen arddangos y sector a disgrifio’r budd cyfredol ar gyfer pawb.”

Dywedodd Mary Wimbury, Prif Weithredwr Fforwm Gofal Cymru, sy’n cynrychioli mwy na 400 darparwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru:

“Mae ein haelodau yn gwybod fod eu gwaith gofal yn hanfodol ar gyfer rhai o’n haelodau mwyaf bregus yn y gymuned, ond mae’n bwysig i ni beidio tanbrisio eu cyfraniad i economi Cymru.

“Yn ogystal i’r gwerth dyfynnwyd yn yr adroddiad hwn, maent hefyd yn galluogi pobl eraill i weithio trwy ofalu am y bobl sy’n bwysig iddyn nhw. Mae rhaid i ddarpariaeth gofal cymdeithasol cael ei weld fel elfen hanfodol sy’n helpu economïau lleol Cymru i ffynnu.”

  • Awdur: Social Care Wales
  • Dyddiad: 05/06/2018