Mae Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS) Cymru wedi cynhyrchu ffilm fer bwerus mewn teyrnged i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru, a chollodd rhai ohonynt eu bywydau oherwydd Coronafeirws, tra bod llawer mwy wedi cymryd risgiau mawr i'w diogelwch personol a'u lles er mwyn darparu gofal a chymorth i bobl agored i niwed yn ystod y pandemig Covid.

Prif ffocws y ffilm deimladwy ac atmosfferig hon yw darn o farddoniaeth gan weithiwr gofal cartref o Sir Fynwy, Rowenna Gane. Gweithiodd ADSS Cymru gyda'r fideograffydd lleol, Great Bear Media i greu ffilm sy'n cyfleu'r ymdeimlad o ddiolchgarwch a deimlir ledled Cymru am yr aberthau anhygoel a wneir gan weithwyr rheng flaen ym maes gofal cymdeithasol.

Dywedodd Llywydd ADSS Cymru, Jonathan Griffiths:

"Heb amheuaeth, mae'r ymateb a'r heriau parhaus a wynebir gan y gweithlu gofal cymdeithasol yn wyneb y pandemig covid yn enfawr i bobl sydd angen gofal a chymorth.

"Mae'r geiriau a fynegir yn y deyrnged bwerus hon gan Rowenna Gane, fel gofalwr rheng flaen, yn adlewyrchu'r yr effaith honno yn llawer gwell nag y gallaf. Fy niolch diffuant ac edmygedd ohonoch chi 'wir angylion mewn cuddwisg'. Rwy'n gwybod y byddwn yn cydweithio ar ddyfodol cadarnhaol ar gyfer gweithlu yr ydym yn gwerthfawrogi am y gwahaniaeth rydych chi'n ei wneud i fywydau pobl. "

  • Awdur: Rachel Pitman ADSS Cymru
  • Dyddiad: 19/07/2021