Adolygiad Cyflym Llywodraeth Cymru o Anghenion a Hawliau Gofalwyr Di-dâl

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i ADSS Cymru adolygu’r graddau y mae anghenion gofalwyr yn cael eu diwallu a sut mae eu hawliau yn cael eu cadw, dan Ddeddf y Gwasanaethau Cymdeithasol  Llesiant (Cymru) 2014. Mae’r adolygiad yn dilyn ymholiad gan Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Senedd.

Gwahoddir gofalwyr di-dâl i gymryd rhan mewn grwpiau ffocws wedi’u cynnal gan hwyluswyr ADSS Cymru lle gallant rannu eu barn a’u profiadau. Caiff eu barn a’u profiadau eu rhannu’n ddienw a’u rhannu gyda Llywodraeth Cymru mewn adroddiad gan ADSS Cymru. Bydd y grwpiau ffocws yn cael eu cynnal tan ddiwedd mis Ebrill.

Os ydych yn ofalwr di-dâl yng Nghymru a hoffech gadw lle mewn grŵp ffocws, e-bostiwch Jemima.redpath@adss.cyrmu. Mae sesiynau ar-lein neu wyneb yn wyneb ar gael. Rhowch wybod i Jemima os oes gennych anghenion mynediad.

Rydym yn gwybod na fydd dyddiadau ac amserau’r grwpiau ffocws yn gyfleus i bawb ac rydym yn awyddus i glywed gan gynifer o ofalwyr di-dâl â phosib – gofalwyr ifanc a gofalwyr sy’n oedolion. Felly, mae gennym arolwg ar-lein byr fel ffordd amgen o gasglu eich barn. Ychydig funudau y bydd yn ei gymryd i gwblhau’r arolwg. Diolch ymlaen llaw am eich barn, a fydd yn cael ei defnyddio i ystyried sut mae modd gwella’r cymorth sydd ar gael i ofalwyr di-dâl.

Cliciwch yma i gymryd rhan yn yr arolwg.

https://forms.office.com/e/c9UDqqfvHW