Cipolwg ar wybodaeth

  • Dyddiad: 12/07/2021 - 15/07/2021
  • Amser: 9:00 am - 3:00 pm
  • Lleoliad: Ar lein

Disgrifiad

 

Gŵyl yr Haf i Aelodau ADSS Cymru, 12 i 15 Gorffennaf 2021

Digwyddiad rhithwir yw Gŵyl Aelodau ADSS Cymru ar gyfer aelodau a gwesteion gwahoddedig, gyda chyfleoedd i ryngweithio a rhannu profiadau â chydweithwyr, dysgu am y datblygiadau diweddaraf ar gyfer y sefydliad a’n partneriaid strategol a’u trafod, a rhannu'r arfer da sydd wedi digwydd ar draws gofal cymdeithasol ac iechyd dros y flwyddyn ddiwethaf.

Bydd yr ŵyl hefyd yn canolbwyntio ar les y gweithlu, a bydd yn cynnwys trafodaethau, cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n cefnogi eich lles eich hun, a chyfle i archwilio sut y gallwch gefnogi eich cydweithwyr.

Ewch i dudalennau yr ŵyl i gael mwy o wybodaeth ac i gofrestru.