Nod yr ymgyrch hon, a arweini gan yr Athro Brian Dolan, yw galluogi cleifion ysbyty i godi, gwisgo a symud er mwyn osgoi dirywiad yng nghyflwr y corff – ymgyrch sydd wedi mynd o nerth i nerth dros y misoedd diwethaf.

Mae’r syniad yn un syml. I lawer o gleifion, mae gwisgo pyjamas neu goban ysbyty yn ategu’r ffaith eu bod nhw’n sâl, ac mae’n rhy hawdd o lawer i setlo i’r rôl hon fel ‘claf’. Mae cael cleifion i godi a gwisgo yn hytrach nag aros yn eu pyjamas pan nad oes angen iddyn nhw fod felly, yn pwysleisio gweithgaredd cyffredin mae pob un ohonom yn ei wneud bob dydd. Mae’n helpu i newid eu ffordd o feddwl i un lle mae cleifion yn gwella, er mwyn paratoi i fynd adref a dychwelyd i’w harferion beunyddiol, a byw mor annibynnol â phosib cyn gynted â phosib.

Lawrlwythwch y ddogfen i barhau i ddarllen.

Gallwch hefyd ddarllen y llythyr llawn ar gyfer yr arweiniad hwn gan Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio Llywodraeth Cymru, Albert Heaney (Saesneg yn unig).

  • Awdur: Welsh Government
  • Dyddiad: 14/11/2018