Mae Rhaglen Cyflawni’r Agenda Drawsnewid 2017-18 Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSSC), a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn cynnwys gwaith i wella arfer mewn perthynas ag Atal ac Ymyrraeth Gynnar. Un o’r nodau wrth wneud hyn, yw datblygu datrysiadau ar gyfer materion deddfwriaethol ac ymarfer rhwng Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (DGCLl) a deddfwriaeth arall. Bydd hyn yn golygu edrych ar y modd y mae DGCLl yn dod i gyswllt â gofynion deddfwriaeth arall a deall canlyniadau ymarferol materion a allai godi. Cytunwyd y dylai archwilio’r rhyngweithio rhwng Deddf 2014 a Deddfwriaeth
Iechyd Meddwl fod yn un flaenoriaeth.


Darperir y Cyfarwyddyd hwn, felly, fel cyngor ac i gynulleidfa sylfaenol o gomisiynwyr gwasanaethau a gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol ym maes Gofal Cymdeithasol a’r GIG. Byddai hefyd o ddiddordeb i weithwyr cymdeithasol a rheolwyr. Ni fwriedir iddo fod yn gynhwysfawr, ond yn hytrach y bwriad yw cyflwyno’r prif faterion i’w hystyried. Dylid ei ddarllen a’i ystyried ochr yn ochr â manylion y Deddfau, y Rheoliadau, y Codau Ymarfer a’r Canllawiau perthnasol ynghyd â gofynion perthnasol y Cyngor. Datblygwyd y Cyfarwyddyd hwn trwy Weithdy a chyfraniadau dilynol gan Grŵp Cyfeirio a oedd yn cynnwys amrywiaeth o weithwyr proffesiynol o faes Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Meddwl ledled Cymru.

  • Awdur: ADSS Cymru
  • Dyddiad: 13/12/2018