Ym mis Mehefin 2022, cyhoeddodd Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Senedd adroddiad ar ei ymchwiliad i ryddhau cleifion o'r ysbyty a'r effaith ar lif cleifion drwy ysbytai. Argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru adolygu a yw hawliau gofalwyr o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cael eu torri oherwydd eu bod yn gorfod ysgwyddo mwy o gyfrifoldebau gofalu nag ydynt o bosib yn fodlon neu’n gallu eu gwneud oherwydd y diffyg gwasanaethau sydd ar gael.

Gofynnodd Llywodraeth Cymru i ADSS Cymru arwain yr adolygiad. Mae'r adolygiad yn rhan o waith ehangach gan y Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol i adolygu ansawdd ac effeithiolrwydd asesiadau o anghenion gofalwyr.

  • Awdur: ADSS Cymru
  • Dyddiad: 03/11/2023