Hoffem groesawu ein Llywydd newydd ar gyfer 2021-22, Jonathan Griffiths, sy'n dechrau yn ei swydd ar 1 Ebrill ac yn dilyn Nicola Stubbins. Mae llywyddiaeth ADSS Cymru yn benodiad blynyddol. Mae Nicola wedi arwain y sefydliad drwy’r flwyddyn fwyaf heriol yn ein hanes, a hoffai ADSS Cymru diolch i Nicola am ei harweinyddiaeth a’i hymrwymiad rhagorol i gynrychioli’r proffesiwn gofal cymdeithasol trwy gydol y flwyddyn anodd hon.

Ar hyn o bryd mae Jonathan yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai yn Sir Benfro ac wedi gwasanaethu fel Is-lywydd ADSS Cymru ers 2019, cyn cymryd rôl y Llywydd.

 

Cewch glywed am yrfa Jonathan ym maes gofal cymdeithasol, a'i feddyliau am y flwyddyn i ddod i ADSS Cymru yn y fideo canlynol.

 

Mae Nicola Stubbins hefyd yn rhannu ei barn ar ei blwyddyn fel Llywydd yn y fideo dilynol ac yn rhoi ei meddyliau am arweinyddiaeth i'r rhai sy'n dymuno dod yn arweinwyr yn y sector.

  • Awdur: ADSS Cymru
  • Dyddiad: 06/04/2021